Crynodeb

  • Wrecsam wedi ennill y Gynghrair Genedlaethol a sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed

  • Roedd tîm y dynion wedi treulio 15 mlynedd ym mhumed haen cynghreiriau Lloegr

  • Mae tîm y menywod hefyd wedi sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier

  • Ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb, maen nhw wedi dod i sylw'r byd drwy raglen ddogfen Disney

  • Miloedd yn dilyn y parêd o'r Cae Ras i ganol Dinas Wrecsam nos Fawrth

  1. Noswaith dda o Wrecsamwedi ei gyhoeddi 21:00 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Wel, dyna ni am heno ar ein llif byw, wrth i Wrecsam ddenu miloedd ar filoedd o gefnogwyr i ganol y ddinas i ddathlu eu llwyddiant y tymor yma.

    Ar BBC1 ar nos Wener, 5 Mai, bydd rhaglen arbennig yn olrhain yr hanes. Gallwch wylio Wrexham: Hollywood or Bust am 21:30 ar BBC1 Cymru ac iPlayer.

    Ond am nawr, fe wnawn ni'ch gadael chi gyda llun eiconig arall o'r chwaraewyr yn dathlu. Nos da!

    wrecsam
  2. Stadiwm hanesyddol - a dyfodol disglair?wedi ei gyhoeddi 20:58 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Bydd y parêd yn gorffen heno 'nôl ger stadiwm hanesyddol Y Cae Ras.

    Dyma'r cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio, ar ôl cynnal ei gêm Cymru cyntaf 'nôl yn 1877.

    Mae Wrecsam eu hunain wedi chwarae yno ers cael ei ffurfio yn 1864, ond bellach mae angen gwaith adnewyddu ar y stadiwm ei hun.

    Y newyddion da i'r rheiny sy'n gysylltiedig â'r clwb yw bod datblygiadau newydd bellach ar waith fel rhan o gynllun £25m.

    Byddai hynny'n golygu ailddatblygu eisteddle'r Kop, sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd, yn ogystal â gwella seilwaith trafnidiaeth yn yr ardal hefyd.

    Cae RasFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Llwyddiannau y clwb yn hwb i dwristiaethwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae 'na obeithion bod yr hwb aruthrol i broffil Wrecsam yn ddiweddar eisoes wedi bod o fudd i'r ddinas yn ehangach.

    Gyda phoblogrwydd rhaglen ddogfen 'Welcome to Wrexham', sy'n olrhain uchafbwyntiau ac isafbwyntiau diweddar y clwb, mae mwy o ddiddordeb wedi bod ymhlith teithwyr o'r Unol Daleithiau yn enwedig.

    Dywedodd busnesau Wrecsam fod mwy o ymwelwyr Americanaidd yn dod i'r ddinas, gyda rhai yn dweud mai eu unig reswm dros ymweld â'r DU oedd er mwyn gwylio gêm ar y Cae Ras.

    cefnogwyr WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Parti yn Vegas a bonws o £200,000wedi ei gyhoeddi 20:51 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Daily Mirror

    Mae'n debyg bod Ryan a Rob eisoes wedi addo mynd â'r garfan gyfan i Las Vegas ar ddiwedd y tymor i ddathlu eu dyrchafiad.

    Fe fyddan nhw hefyd yn rhannu bonws o £200,000 rhyngddyn nhw am lwyddo yn eu nod, meddai'r Daily Mirror, dolen allanol.

    Dros yr haf bydd y tîm yn dychwelyd i'r UDA i wynebu Manchester United, Chelsea ac LA Galaxy mewn gemau cyfeillgar - arwydd o'r proffil uchel mae Wrecsam yn denu erbyn hyn.

    Las VegasFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Y ddau dîm gyda'i gilydd - mor bwysig'wedi ei gyhoeddi 20:48 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Roedd Adam Phillips o Fand y Cambrian yn un o'r rheiny yn y dorf.

    Dywedodd ei bod hi "mor bwysig" gweld tîm y menywod a'r dynion gyda'i gilydd ar "noson fendigedig".

    Disgrifiad,

    Adam Phillips o Fand y Cambrian

  6. 'Plant yn ymfalchïo yn eu Cymreictod'wedi ei gyhoeddi 20:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Maen debyg bod yr ymdeimlad o gwmpas Wrecsam ers i'r perchnogion newydd ddod i mewn, a'r sylw o gwmpas y rhaglen ddogfen, wedi adfywio Cymreictod y dref ymhlith rhai.

    Dywedodd Chris Evans, sy'n gadeirydd canolfan Saith Seren y dref ac yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd, fod yr effaith yn amlwg ymysg rhai o ieuenctid yr ardal.

    "Mae'n gam ymlaen arall yn atgyfodiad Wrecsam fel dinas, erbyn hyn," meddai.

    "Dwi'n athro yn ystod y dydd yn Ysgol Morgan Llwyd, ac mae'r sylw mae Ryan a Rob wedi ei roi at yr iaith a diwylliant yn cael effaith ar y plant hefyd, ac yn gwneud iddyn nhw ymfalchïo yn eu Cymreictod dipyn mwy nag oeddan nhw."

    Chris Evans
  7. 'Dw i'm yn gw'bod sut, ond ma' nhw o hyd yn ennill!'wedi ei gyhoeddi 20:39 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae disgyblion Ysgol Bodhyfryd wedi eu synnu gan lwyddiant diweddar y clwb.

    Gohebydd BBC Cymru, Liam Evans fu'n clywed gan rai ohonynt.

    Disgrifiad,

    Disgyblion Ysgol Bodhyfryd

  8. Môr o goch yng nghanol y ddinaswedi ei gyhoeddi 20:36 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r cefnogwyr yma yng nghanol y ddinas wedi aros yn amyneddgar - dim syndod eu bod nhw eisiau cofnodi'r achlysur!

    canol y ddinas
  9. 'Dim rheswm pam na allwn gyrraedd yr Uwch Gynghrair'wedi ei gyhoeddi 20:32 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Vincent, sy'n gwylio'r orymdaith gyda'i fab Alex, yn obeithiol iawn am ddyfodol y clwb.

    Vincent ac Alex

    "Ces i fy magu yn Wrecsam, dwi wedi cefnogi'r clwb ers 35 o flynyddoedd," dywedodd.

    "Mae 'na ddyddiau tywyll wedi bod ar hyd y ffordd ond mae'n wych bod pethau'n mynd mor dda nawr.

    "Dwi'n ein gweld ni'n mynd i fyny ac i fyny ac i fyny. Does 'na ddim rheswm pam na allwn ni gyrraedd yr Uwch Gynghrair ryw ddiwrnod."

  10. Y bysiau yng nghanol dre!wedi ei gyhoeddi 20:29 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r bysus bellach wedi cyrraedd canol y ddinas o'r diwedd, ble mae trwch y cefnogwyr wedi bod yn aros.

    Disgrifiad,

    Y bysiau yng nghanol dre!

  11. Dewis Wrecsam cyn Efrog Newyddwedi ei gyhoeddi 20:23 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Cymaint ydy ymroddiad y perchnogion i fod yn y dathliadau, fe wnaeth Reynolds a'i wraig, yr actores Blake Lively, hyd yn oed fethu Gala'r Met yn Efrog Newydd neithiwr i deithio draw mewn pryd ar gyfer yr orymdaith.

    Dyma gip tu ôl i'r llen ar y sgyrsiau cyfrinachol gyda'r ddau actor wnaeth eu harwain nhw i brynu'r clwb.

    Rob a RyanFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Daeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion yn swyddogol yn 2021

  12. Cyrraedd yr Uwch Gynghrair ryw ddydd?wedi ei gyhoeddi 20:19 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    S4C

    Cyn y dathliadau, bu Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn siarad gyda'r newyddiadurwraig Maxine Hughes am eu cynlluniau ar gyfer y clwb.

    Dywedodd Reynolds mai'r nod o hyd yw ceisio cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr ryw ddydd, gan gydnabod fodd bynnag bod hynny'n nod "tymor hir".

    Mae McElhenney bellach yn paratoi ar gyfer 17fed cyfres sitcom boblogaidd 'It's Always Sunny In Philadelphia'.

    Dywedodd yr actor bod tebygrwydd rhwng hwnnw a rhaglen ddogfen Wrecsam, a'u bod am barhau i geisio sicrhau bod y gymuned yn elwa.

    "Y rheswm 'dyn ni dal yn gwneud hynny yw ein bod ni'n cael hwyl, mae 'na stiwdio sydd eisiau hi a chynulleidfa sydd eisiau ei gwylio," meddai.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Dw i'n teimlo mor dda!'wedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae pawb wedi bod yn mwynhau'r awyrgylch trydanol wrth wylio'r bws yn pasio.

    Disgrifiad,

    Pawb yn mwynhau'r awyrgylch yn Wrecsam

  14. Newid llwybr y daith oherwydd maint y dorfwedi ei gyhoeddi 20:13 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae rhan olaf llwybr y daith bellach wedi ei haddasu oherwydd maint y dorf.

    Yn lle mynd ar hyd Ffordd yr Wyddgrug, fe fydd y bws yn troi ar Heol Bradley tuag at gylchfan B&Q, drwy'r brifysgol ac yn gorffen ym maes parcio'r Cae Ras.

  15. Foster wrth ei foddwedi ei gyhoeddi 20:09 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Un sy'n amlwg yn mwynhau ei hun ar y bws ar hyn o bryd yw'r golwr Ben Foster, sydd bellach yn rhedeg sianel YouTube llwyddiannus hefyd.

    Roedd wedi ymddeol o chwarae yr haf diwethaf yn dilyn gyrfa ar lefel ucha'r gêm, gan chwarae i glybiau fel Stoke, Manchester United a Watford, ac ennill wyth cap dros Loegr.

    Ond pan ddaeth yr alwad gan Wrecsam yn gynharach eleni, yn dilyn anaf i'w golwr dewis cyntaf Rob Lainton, cafodd Foster ei demtio.

    Ag yntau wedi treulio cyfnod ar fenthyg yn Wrecsam yn 2005, roedd hefyd yn dychwelyd i glwb yr oedd yn gyfarwydd ag o.

    Ac fe wnaeth wahaniaeth yn yr wyth gêm a chwaraeodd hefyd, yn enwedig wrth arbed cic o'r smotyn Notts County yn eiliadau olaf yr ornest allweddol honno.

    Ben FosterFfynhonnell y llun, CPD Wrecsam
  16. 20,000 ar y strydoeddwedi ei gyhoeddi 20:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae 'na amcangyfrifon bellach bod tua 20,000 o bobl allan ar strydoedd Wrecsam i wylio'r orymdaith.

    Fel cyd-destun, mae hynny ddwywaith cymaint o bobl ag sy'n gallu ffitio i mewn i'r Cae Ras.

    torfeydd WrecsamFfynhonnell y llun, Reuters
  17. Band y Cambrian yn rhan o'r dathliadau 🥁🥁wedi ei gyhoeddi 19:56 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Disgrifiad,

    Band y Cambrian - Gwŷr Harlech

  18. Torf eiddgar yn aroswedi ei gyhoeddi 19:51 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r dorf yng nghanol y ddinas yn aros yn eiddgar i'r bysus eu cyrraedd.

    Cymaint yw maint y torfeydd, mae'r parêd bellach wedi bod yn mynd ymlaen ers dros awr a hanner, a dydyn nhw ddim yn agos at orffen eto!

    canol y dref
  19. 'Dyfalbarhad mor braf i weld'wedi ei gyhoeddi 19:46 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Roedd hi'n brofiad "anhygoel" gweld y chwaraewyr, yn ôl Rhian a Peter Jones o Rosllanerchrugog.

    Peter a Rhian

    "O'n ni yma ar y Sadwrn bythefnos yn ôl, o'dd o jyst yn amazing," dywedodd Peter.

    Ychwanegodd Rhian: "Mae wedi bod mor braf i weld y dyfalbarhad, 'dan ni 'di bod i fyny ac i lawr efo nhw gymaint."

  20. Pam y diddordeb yng ngogledd America?wedi ei gyhoeddi 19:41 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Pam bod llwyddiant diweddar tîm pêl-droed Wrecsam wedi cydio yn nychymyg pobl o bob cwr o'r byd?

    Bu Cymru Fyw'n holi rhai o'r cefnogwyr newydd o ogledd America sydd wedi dechrau dilyn y clwb.

    Daysha LoweryFfynhonnell y llun, Daysha Lowery