Crynodeb

  • Wrecsam wedi ennill y Gynghrair Genedlaethol a sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed

  • Roedd tîm y dynion wedi treulio 15 mlynedd ym mhumed haen cynghreiriau Lloegr

  • Mae tîm y menywod hefyd wedi sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier

  • Ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb, maen nhw wedi dod i sylw'r byd drwy raglen ddogfen Disney

  • Miloedd yn dilyn y parêd o'r Cae Ras i ganol Dinas Wrecsam nos Fawrth

  1. Un o Ganada yn falch o gysylltiad Ryan Reynolds â Wrecsamwedi ei gyhoeddi 19:37 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Frances Dotolo yn wreiddiol o Ganada, ond wedi byw yn Wrecsam ers 22 o flynyddoedd.

    Mae'n falch o gysylltiad Ryan Reynolds - sydd hefyd o Ganada - â'r ddinas.

    Frances Dotolo

    “Mae mor brysur yma," dywedodd.

    "Dw i hyd yn oed wedi gweld criwiau cyfryngau yma o fy nhref enedigol yng Nghanada. Mae'n anhygoel, am achlysur."

  2. Mŵg coch dros y strydoeddwedi ei gyhoeddi 19:31 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae 'na ambell i ffagl mŵg wedi'u tanio ymhlith y dorf wrth i'r bysus basio, er gwaethaf rhybuddion i bobl geisio osgoi hynny.

    bws wrecsamFfynhonnell y llun, EPA
  3. 'Y clwb wedi rhoi popeth i'r ardal'wedi ei gyhoeddi 19:25 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Ellen Williams o Rosllannerchrugog yn aros am y bws ar y Stryd Fawr, lleoliad sydd tua hanner ffordd drwy lwybr yr orymdaith.

    Ellen Williams

    Mae hi'n dweud bod y clwb "wedi rhoi popeth i'r ardal".

    "'Dan ni'n cael busloads o bobl yn dod i'r Turf, mae pawb yn dod i weld a thynnu llun tu allan i'r Cae Ras - dw i'n gweld hwnna bob dydd!

    "Mae pawb isio bod yn Wrecsam."

  4. 'Mae hwn ar lefel arall!'wedi ei gyhoeddi 19:19 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Sion Davies o Wrecsam newydd ddychwelyd o Torquay lle'r oedd y tîm yn chwarae dros y penwythnos.

    Mae dathliadau heno "ar lefel arall", meddai.

    Disgrifiad,

    Sion Davies o Wrecsam yn dathlu unwaith eto

  5. Rosie Hughes yn blagurowedi ei gyhoeddi 19:14 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Rosie Hughes wedi bod yn hawlio digon o benawdau'r tymor yma hefyd, gan sgorio cyfanswm anhygoel o 42 gôl mewn 18 gêm.

    Fe rwydodd hi ym mhob un o gemau'r tîm yn yr Adran North, gan gynnwys hat-trics yn erbyn Llandudno a Llanfair Utd, pedair yn erbyn Y Felinheli, a phump yn y fuddugoliaeth dros Y Rhyl i ennill y gynghrair.

    I roi hynny mewn cyd-destun, dim ond 10 gôl a sgoriodd hi'r tymor diwethaf, pan orffennodd Wrecsam yn ail yn y tabl.

    Yr unig syndod o bosib felly oedd mai nid hi sgoriodd yn erbyn Llansawel i sicrhau dyrchafiad eleni - fe aeth y fraint honno i Rebecca Pritchard.

    Rosie HughesFfynhonnell y llun, Sam Eaden/CBDC
    Rosie Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar fws tîm y merched gyda Rosie Hughes (dde)

  6. Mullin, meistr y goliauwedi ei gyhoeddi 19:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Ar flaen y bws cyntaf mae'r dyn sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am danio Wrecsam i ddyrchafiad eleni - yr ymosodwr Paul Mullin.

    Fe sgoriodd y Sgowsar 38 o goliau yn y gynghrair y tymor hwn, a 46 yn cynnwys gemau cwpan.

    Mae'r chwaraewr 28 oed yn gymwys i chwarae dros Gymru drwy ei nain, ac wedi awgrymu yn y gorffennol y byddai ganddo ddiddordeb gwneud hynny.

    Tybed ydi Rob Page wedi bod yn cadw llygad arno?

    Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Dathlu gyda'r môr o gefnogwyrwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Dyma'r olygfa wrth i'r bysus basio'r Cae Ras am y tro cyntaf - gyda thorfeydd enfawr yno eisoes i ddathlu gyda nhw.

    bysus WrecsamFfynhonnell y llun, PA Media
  8. Y bysus yn pasio'r Cae Raswedi ei gyhoeddi 19:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Dyma'r bysus wrth iddyn nhw basio tafarn y Turf a'r Cae Ras ychydig funudau yn ôl.

    Mae'r orymdaith nawr yn mynd tuag at canol y dref, cyn dychwelyd i'r Cae Ras i orffen.

  9. Hir yw pob ymaroswedi ei gyhoeddi 18:57 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r torfeydd yn aros yn eiddgar i gael cipolwg ar y garfan a'r perchnogion, Ryan Reynolds Rob McElhenney.

    wrecsam
  10. 'Fel Cwpan y Byd yma!'wedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Edwyn, 42, wedi bod yn cefnogi Wrecsam ers yn 10 oed.

    Wrth aros am y bws yng nghanol y ddinas gyda Dafi, 5, ac Anni, 7, dywedodd fod yr awyrgylch yn anhygoel.

    Edwyn, Dafi ac Anni

    "Lot fawr o faneri a sŵn ar hyd y strydoedd - mae hi fel y World Cup yma!"

    Ychwanegodd Dafi: "Dwi'n edrych 'mlaen i weld Paul Mullin yn pasio ar y bws."

  11. Newid enw yn dilyn y llwyddiantwedi ei gyhoeddi 18:48 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r orymdaith bellach wedi pasio Prifysgol Glyndŵr - ond nid dyna fydd ei henw hi am hir.

    Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y brifysgol y byddan nhw nawr yn newid eu henw i Brifysgol Wrecsam.

    Mae hynny, medden nhw, yn rhannol er mwyn ceisio manteisio ar enwogrwydd y ddinas yn sgil y sylw sydd wedi deillio o "lwyddiant diweddar y clwb pêl-droed".

    Prifysgol GlyndwrFfynhonnell y llun, Google
  12. Ymwelwyr o'r UDA 'wrth eu boddau'wedi ei gyhoeddi 18:42 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Becki a Sonny Hendricks wedi teithio o Yorktown yn Virginia, UDA i weld y parêd heno.

    Ar ôl gwylio 'Welcome to Wrexham', fe ddaethon nhw draw am y tro cyntaf ar gyfer y gêm yn erbyn Notts County fis diwethaf.

    Maen nhw nawr wedi dychwelyd er mwyn dathlu'r achlysur gyda "phobl wych Wrecsam".

    "Rydyn ni wrth ein boddau yma," meddai Becki. "Fe gawson ni lun gyda [y rheolwr] Phil Parkinson, felly roedd hynna'n cŵl."

    Ychwanegodd Sonny eu bod wedi cael croeso cynnes.

    "Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau newydd, meddai. "Gobeithio byddan nhw'n ffrindiau oes a bod hwn yn drip blynyddol."

    Becki a Sonny
  13. 'Taid wedi deud cymaint o straeon i fi am Wrecsam'wedi ei gyhoeddi 18:38 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Amelie Murt a'i thaid Brian Williamson wedi bod yn aros yn eiddgar i weld y chwaraewyr heddiw.

    "Mae'n ddiwrnod enfawr i'r clwb, dydy pethau ddim wastad wedi bod mor dda â hyn felly roedden ni isio diolch iddyn nhw," meddai Brian, 64.

    "Maen nhw wedi gwneud cymaint i'r dref, a rhoi gwên ar ein hwynebau ni i gyd."

    Doedd Amelie, 11, ddim hyd yn oed wedi cael ei geni pan wnaeth Wrecsam ddisgyn o'r Gynghrair Bêl-droed yn 2008.

    "Mae taid wedi deud cymaint o straeon i fi am Wrecsam yn y gynghrair, felly dwi'n falch fydda i'n cael gweld hynny dros fy hun rŵan," meddai.

    Brian ac Amelie
  14. Y bysiau wedi cychwyn y daithwedi ei gyhoeddi 18:34 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Disgrifiad,

    Y bysiau wedi cychwyn y daith

  15. Menywod Wrecsam yn rhannu'r llwyddiantwedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Nid tîm y dynion ydy'r unig rai sydd yn rhan o'r parêd bws drwy ganol y ddinas, wrth gwrs.

    Fe wnaeth Menywod Wrecsam hefyd sicrhau dyrchafiad eu hunain y tymor yma, a hynny'r penwythnos cyn y dynion.

    Llwyddon nhw i drechu Llansawel o 1-0 mewn gêm ail gyfle i sicrhau eu lle yn yr Adran Premier y tymor nesaf, sef prif adran cynghreiriau menywod Cymru.

    Roedd yn fuddugoliaeth mwy arwyddocaol na sicrhau dyrchafiad yn unig, hefyd.

    Fe wnaeth Rob a Ryan addo gwneud y tîm yn un lled-broffesiynol y tymor nesaf petawn nhw'n mynd i fyny, gan dorri tir newydd i bêl-droed merched.

    Wrecsam MerchedFfynhonnell y llun, John Smith/CBDC
  16. Sut wnaeth Wrecsam ennill y gynghrair?wedi ei gyhoeddi 18:28 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'n werth atgoffa'n hunain o'r modd anhygoel y llwyddodd Wrecsam i ennill y Gynghrair Genedlaethol eleni.

    Fe wnaethon nhw orffen ar frig y tabl gydag 111 o bwyntiau - record ar gyfer unrhyw gynghrair proffesiynol yn Lloegr.

    Ond fe wnaeth Notts County eu gwthio nhw yr holl ffordd, gan orffen dim ond pedwar pwynt y tu ôl iddyn nhw.

    Cafwyd gornest dyngedfennol y ras ar 10 Ebrill - Llun y Pasg - wrth i Wrecsam drechu Notts County o 3-2 mewn gêm hynod ddramatig ar y Cae Ras.

    Seliwyd y dyrchafiad lai na phythefnos yn ddiweddarach, gyda buddugoliaeth o 3-1 dros Boreham Wood o flaen eu cefnogwyr eu hunain.

    Ben FosterFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Y golwr Ben Foster oedd un o'r arwyr yn erbyn Notts County, gan arbed cic o'r smotyn yn yr eiliadau olaf

  17. Cadw twrw tu allan i'r Turfwedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae tafarn y Turf, sy'n eistedd yng nghysgod y Cae Ras, eisoes yn adnabyddus i unrhyw un sydd wedi gwylio'r rhaglen ddogfen.

    Wedyn cafodd y lle ei yfed yn sych fis diwethaf wrth i gefnogwyr Wrecsam ddathlu eu dyrchafiad yn dilyn y fuddugoliaeth dros Boreham Wood.

    Mae'n amlwg bod digon o gasgenni newydd o gwrw wedi cyrraedd ers hynny!

    Turf Wrecsam
  18. 'Ma' hi am fod yn noson sbesial'wedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Yn gyn-chwaraewr Wrecsam a bellach yn sylwebydd, mae Waynne Phillips yn edrych ymlaen am noson arbennig gyda'r cefnogwyr a'r chwaraewyr.

  19. Bysiau yn symudwedi ei gyhoeddi 18:17 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r chwaraewyr bellach ar y bysus, a'r parêd yn cychwyn!

    Yn eu plith hefyd mae'r perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, sydd yn ôl y sôn ar fws tîm y merched.

    Bysiau yn barod i fynd
  20. '15 mlynedd o uffern yn y gynghrair oedden ni ynddo'wedi ei gyhoeddi 18:13 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Dei Charles Jones yn un o gefnogwyr brwd y clwb sydd wedi bod yn aros ers amser maith ar gyfer gorymdaith fel hon.

    "Oedd 'ne emosiwn mawr yne," meddai wrth gyfeirio at y gêm dyngedfennol yn erbyn Boreham Wood.

    "'Dan ni wedi dod allan o 15 mlynedd o uffern, deud y gwir, yn y gynghrair oedden ni ynddo.

    "'Den ni'n falch iawn o gael mynd i fyny."

    Dei Charles Jones