Crynodeb

  • Wrecsam wedi ennill y Gynghrair Genedlaethol a sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed

  • Roedd tîm y dynion wedi treulio 15 mlynedd ym mhumed haen cynghreiriau Lloegr

  • Mae tîm y menywod hefyd wedi sicrhau dyrchafiad i'r Adran Premier

  • Ers i Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb, maen nhw wedi dod i sylw'r byd drwy raglen ddogfen Disney

  • Miloedd yn dilyn y parêd o'r Cae Ras i ganol Dinas Wrecsam nos Fawrth

  1. 'Methu aros i weld Paul Mullin'wedi ei gyhoeddi 18:10 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae Paul Mullin yn siwr o fod yn boblogaidd ymysg y dorf nos Fawrth fel y sgoriwr goliau o fri.

    Un sy'n edrych ymlaen i'w weld yw Evie, 7.

    "Dwi'n gyffrous iawn i fod yma heddiw oherwydd 'dan ni'n cael gweld y chwaraewyr i gyd," meddai.

    "Mullin yw fy ffefryn a dwi wir yn edrych ymlaen i'w weld.

    "Dwi'n hoffi Ben Foster hefyd."

    Chloe a'i merch, Evie
    Disgrifiad o’r llun,

    Paul Mullin a Ben Foster yw hoff chwaraewyr Evie, 7 sy'n gwylio'r orymdaith gyda'i mam, Chloe

    Dywedodd mam Evie, Chloe, ei bod wedi cefnogi Wrecsam ar hyd ei bywyd.

    "Mae'n wych gweld gymaint o bobl ac mae'r buddion y mae'n rhoi i'n cymuned ac i Wrecsam yn anhygoel."

  2. Rhybudd i beidio dod â ffaglau mŵgwedi ei gyhoeddi 18:07 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae arolygydd Heddlu'r Gogledd ar gyfer canol dinas Wrecsam yn dweud eu bod nhw'n disgwyl "digwyddiad teuluol" di-ffwdan.

    Gyda disgwyl miloedd o gefnogwyr ar y strydoedd, ychwanegodd Luke Hughes y byddai mwy o staff nag arfer allan i sicrhau diogelwch pawb fydd yno.

    "Dyn ni ddim yn disgwyl problemau heddiw," meddai.

    "Ond bydden i yn gofyn i unrhyw un sy'n meddwl dod â flares... i feddwl eto am hynny.

    "Mae'n gallu bod yn drosedd i wneud hynny, ac fe allai beri gofid i rhai pobl ifanc yno yn ogystal â rhwystro golygfa eraill.

    "Nid dyma fyddai'r peth priodol i wneud heddiw."

    Luke Hughes
  3. Carl ac Alun yn barod!wedi ei gyhoeddi 18:03 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cofio dyrchafiad '78wedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Fel mae'n digwydd, roedd Clwb Pêl-droed Wrecsam hefyd yn dathlu dyrchafiad 45 mlynedd yn ôl gan hawlio lle yn yr Ail Adran.

    Efallai bydd dathliadau heno'n dod ag atgofion i'r cof i rai a fydd yn y dorf!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Y bysus yn barodwedi ei gyhoeddi 17:57 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r bysus yn barod - a'r cefnogwyr hefyd yn barod i'w croesawu!

    bysus
    deadpoolFfynhonnell y llun, PA Media
  6. Llwybr yr orymdaithwedi ei gyhoeddi 17:51 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Dyma fydd llwybr y parêd drwy ganol y ddinas heno, gan ddechrau am tua 18:15 ger y Cae Ras.

    Bydd y bysus wedyn yn ymlwybro i gyfeiriad canol y ddinas, heibio i Gilgant San Siôr, cyn dod i stop am gyfnod yn ardal canolfan siopa Dôl yr Eryrod.

    Fe fyddan nhw wedyn yn teithio yn ôl i gyfeiriad y Cae Ras ble byddan nhw'n gorffen.

    map y llwybr
  7. Y dorf yn ymgasgluwedi ei gyhoeddi 17:47 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Mae'r torfeydd yn aros yn eiddgar yn barod ger Gwesty'r Wynnstay yng ngwaelod y dref.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Croeso i Wrecsam!wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 2 Mai 2023

    Croeso cynnes i chi i'n llif byw ni heno, wrth i ni ddilyn gorymdaith Clwb Pêl-droed Wrecsam i ddathlu eu dyrchafiad!

    Mae'r clwb wedi dod i sylw byd eang ers iddyn nhw gael eu prynu gan y sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, gyda'r rhaglen ddogfen 'Welcome to Wrexham' hefyd wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

    Ac eleni fe wnaethon nhw hefyd lwyddo o'r diwedd ar y cae, gan ennill y Gynghrair Genedlaethol gyda record o 111 o bwyntiau.

    Croeso i Wrecsam
    Wrecsam yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ben Tozer a Luke Young yn codi'r tlws wrth i Wrecsam ddathlu ennill y gynghrair