Crynodeb

  • Mae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau

  • Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni

  • Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu

  • Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni

  • Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl

  1. Urdd: Cyfleusterau anabl y maes 'yn annigonol'wedi ei gyhoeddi 06:19 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2023

    Bu'n rhaid i Vanessa Rumsby ofyn i gael defnyddio cyfleusterau elusen St John er mwyn newid ei merch, Hannah.

    Read More
  2. 'Dim cyfleusterau newid anabl i ni ar faes yr Urdd'wedi ei gyhoeddi 06:18 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mehefin 2023

    Fe aeth Vanessa â'i merch, Hannah sy'n defnyddio cadair olwyn, i'r maes yn Llanymddyfri ddydd Mercher.

    Read More
  3. Chwiorydd o Afghanistan yn mwynhau ar y maeswedi ei gyhoeddi 19:30 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Mae dwy chwaer o Afghanistan, sydd bellach yn byw yng Nghymru gyda'u teulu, wedi bod yn ymarfer eu Cymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd.

    Read More
  4. Yr Urdd yn sefydlu aelwyd newydd i garcharorionwedi ei gyhoeddi 18:29 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Fe lwyddodd rhai o droseddwyr Carchar y Parc i ennill gwobrau yn adran gelf a chrefft Eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon.

    Read More
  5. Cyn-enillydd yn cwestiynu 'urddas' prif seremonïauwedi ei gyhoeddi 18:15 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Mae nifer yn anhapus gyda threfn newydd prif seremonïau gwobrwyo Eisteddfod yr Urdd, sy'n cynnwys chwe 'awen' liwgar.

    Read More
  6. Beth yw'r farn ar 'awenau' lliwgar Eisteddfod yr Urdd?wedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Mae'r 'awenau' sy'n rhan o brif seremonïau Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri wedi codi gwrychyn rhai oherwydd diffyg "urddas".

    Read More
  7. Urdd: Elain Roberts yw enillydd Medal Ddrama 2023wedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Bydd y ferch o Geredigion yn cael cyfle i dreulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

    Read More
  8. Lluniau o Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Yr hwyl a'r bwrlwm o faes yr ŵyl yn Llanymddyfri.

    Read More
  9. Annog mwy o bobl ifanc i wirfoddoli yn yr eisteddfodwedi ei gyhoeddi 06:37 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mai 2023

    Cafodd saith o wirfoddolwyr eu hanrhydeddu ddydd Llun am eu cyfraniad i Eisteddfod yr Urdd.

    Read More
  10. 'Hollbwysig' i'r Urdd estyn allan i ddysgwyr Cymraegwedi ei gyhoeddi 19:04 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Mae Nooh Ibrahim eisoes yn gweithio i'r Urdd ac wedi dysgu'r iaith, wrth i'r mudiad lansio partneriaeth newydd.

    Read More
  11. 'Dysgu Cymraeg yn bwysig i mi gan mai Cymro ydw i'wedi ei gyhoeddi 19:03 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Ers chwe mis mae Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf yr Urdd, wedi bod yn cael gwersi Cymraeg dyddiol.

    Read More
  12. Gwilym Morgan: 'Anhygoel' i ennill Medal y Dysgwyrwedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Gwilym Morgan, o Gaerdydd, oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.

    Read More
  13. Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 16:14 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Lluniau o ail ddiwrnod y cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.

    Read More
  14. Urdd: Cyhoeddi enillwyr cystadlaethau dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Dau o bobl ifanc yn derbyn prif wobrau dysgu Cymraeg Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Read More
  15. Wyn Jones am weld mwy yn aros yng nghefn gwladwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 30 Mai 2023

    Y chwaraewr rygbi yn dweud y "byddai'n neis" gweld mwy o bobl ifanc yn aros yng nghefn gwlad Cymru.

    Read More
  16. Canmol a chwyno am docynnau Eisteddfod yr Urddwedi ei gyhoeddi 17:56 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae miloedd wedi manteisio ar gynnig o docynnau am ddim i deuluoedd incwm isel - ond i eraill, mae'r £20 o fynediad yn ddrud.

    Read More
  17. Diolch am ymuno â ni 👋wedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Dyma ddiwedd ein llif byw o ddiwrnod cyntaf o gystadlu Eisteddfod yr Urdd 2023.

    Diolch am ddilyn y diweddaraf a mwynhewch weddill yr wythnos yn yr heulwen, gobeithio. ☀️

    Hwyl am y tro!

    Ffair
    Disgrifiad o’r llun,

    I'r ffair nawr, unrhyw un?

  18. Ciw ar gyfer y pafiliwn Gwyrddwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Dyma oedd yr olygfa tu allan i'r Pafiliwn Gwyrdd y prynhawn 'ma, wrth i deuluoedd a ffrindiau geisio cael lle i gefnogi.

    Bydd y cystadlu yn dal i barhau am beth amser.

    Ciw Pafiliwn Gwyrdd
  19. Cyfansoddi cerddoriaeth fel 'creu eich celf eich hun'wedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Prif Gyfansoddwr yr Eisteddfod, Gwydion Rhys, fu'n sôn am y profiad o ennill y fedal ar ôl y seremoni.

    "I clywed cerddorion go iawn yn chwarae'ch cerddoriaeth, does 'na ddim byd cweit yn 'run fath â hwnna."

    Disgrifiad,

    Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi

  20. Sawl elfen newydd i'r seremonïau... gan gynnwys iaith arwyddowedi ei gyhoeddi 15:41 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023

    Mae ‘na elfen newydd arall i brif seremonïau’r dydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

    Ar y llwyfan, yn ogystal â’r arweinydd Heledd Cynwal a’r awenau, fe welwch chi ddynes arall.

    Seremoni'r Fedal Gyfansoddi
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd 'na sawl elfen newydd i'r seremoni

    Ei henw hi yw Cathryn McShane, a hi sy’n arwyddo beth sy’n digwydd yn ystod y seremoni, y tro cyntaf i hynny ddigwydd.

    Os yw ei hwyneb yn edrych yn gyfarwydd i chi, mae hynny oherwydd mai hi oedd un o’r arwyddwyr cyson yn ystod cynadleddau i’r wasg y prif weinidog, Mark Drakeford, yn ystod y pandemig.