Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd 2023wedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023
Lluniau o ddiwrnod cynta'r cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.
Read MoreMae Eisteddfod yr Urdd 2023 wedi dechrau
Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin yw cartref yr ŵyl eleni
Mae'r plant a'r bobl ifanc wedi dechrau ar y cystadlu
Gwydion Rhys yw enillydd y Fedal Gyfansoddi eleni
Roedd y maes yn fwy llawn na'r arfer ddydd Sul gyda sioe Chwilio'r Chwedl
Lluniau o ddiwrnod cynta'r cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, Llanymddyfri.
Read MoreBeth sydd ei angen ar gyfer wythnos o eiteddfota? Dyma ambell gyngor?!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar stondin Comisiynydd Plant Cymru mae map sticeri yn dangos ble mae ymwelwyr i’r maes heddiw yn byw.
Mae ‘na dipyn o amrywiaeth - gan gynnwys ambell un sydd wedi gwneud y daith hir o bellafion Ynys Môn!
Mae 'na ddigon i wneud ar y maes a'r arwyddion yn eich cyfeirio at wahanol ardaloedd.
Mae Eisteddfod yr Urdd yn denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac eleni gan fod y maes o fewn pellter cerdded i’r dref, mae cynghorydd sir a thref Llanymddyfri yn gobeithio y bydd pobl yn dychwelyd i’r ardal.
“Ni yn gobeitho bo pethe fel yr Eisteddfod, bod gymaint o bobl newydd yn dod i’r ardal, dros gan mil os yw’r tywydd yn ffein, lot o nhw ddim wedi gweld Llanymddyfri erioed.
"Y bwriad yw bo nhw’n lico fe, a bo nhw moyn dod nôl yn y dyfodol eto ac eto fel bod y busnesau lleol yn gweld y benefit.”
O ba bynnag gyfeiriad fyddwch chi’n teithio mae Sir Gaerfyrddin yn fôr o liw.
Mae aelodau gweithgar o’r gymuned wedi annog llawer i ymuno yn yr hwyl.
Y cerddor ifanc o Ddyffryn Ogwen ydy Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Read MoreMae modd teithio ar drên i’r Eisteddfod eleni ar lein Calon Cymru sy’n rhedeg drwy Lanymddyfri.
Er hynny, does dim teithiau trên ychwanegol wedi’u hamserlennu ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae gwaith peirianyddol wedi'i drefnu o fore Mawrth i fore Gwener.
Dyma Carwyn Jones o Aberystwyth yn cymryd munud o hoe i dorheulo yn yr haul.☀️
Cwestiynau cyflym gyda'r cyflwynydd Alex Jones ar faes Eisteddfod yr Urdd 2023.
Read MoreEi ffugenw oedd 'Tannau Perfedd' - llongyfarchiadau mawr iawn!
Mae'r gynulleidfa yn aros yn eiddgar i glywed pwy sydd wedi ennill y Fedal Gyfansoddi.
Mae teimlad gwahanol i'r seremonïau eleni, gyda chwech Awen lliwgar yn bresennol.
Ar Lwyfan y Cyfrwy, mae prif seremoni'r dydd - Y Fedal Gyfansoddi dan 25 oed - ar fin digwydd.
Roedd gofyn i'r ymgeiswyr gyfansoddi naill ai:
a. Cylch o ganeuon ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd
b. Rhangan neu gytgan ar eiriau Cymraeg o ddewis y cystadleuydd
c. Cyfansoddiad i un neu ddau offeryn
ch. Cyfansoddiad i ensemble offerynnol
Y beirniaid yw Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton
Mae wedi bod yn ddiwrnod llwyddiannus hyd yma i Ben Manville-Parry, 10, o Gaerdydd.
Ar ôl ennill yr Unawd Telyn Bl.6 ac iau, mae nawr wedi cipio’r wobr gyntaf yn yr Unawd Gitâr hefyd.
Meddai ar ôl ennill yr unawd telyn, "ro'n i'n hanner disgwyl e a hanner ddim!"
Roedd eisoes wedi ennill cystadleuaeth gwaith cartref am gyfansoddi - does dim rhyfedd bod ei deulu i gyd mor falch!
Wrth ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, dywedodd ei bod yn awyddus i ddangos y "digwyddiad unigryw" i'w phlant ei hun.
Read MoreMae Lilah ac Aurora o Benrhyncoch wedi hongian neges 'pob lwc' ar goeden ddymuniadau Mistar Urdd, sydd yn y Ganolfan Groeso.
Mae Lilah'n edrych ymlaen at gystadlu yn y parti cerdd dant blwyddyn 6 ac iau gydag Ysgol Rhydypennau.
Dyma Catrin Manning a Jack Davies yn eu gwisgoedd gwynion, yn aros yn eiddgar am ganlyniad cystadleuaeth CogUrdd.
Briff ei chystadleuaeth y bore 'ma, meddai Catrin, oedd i goginio pryd o fwyd mewn dwy awr gan ddefnyddio cynnyrch lleol, felly aeth ati i goginio wellington cig eidion a chig oen a llysiau mewn saws gwin coch.
Cynnyrch lleol oedd ar y fwydlen gan Jack hefyd: "Fel mab ffarm, y brecwast yw'r pryd mwyaf pwysig.
"Dw i wedi gallu defnyddio cynnyrch o'n fferm ein hunain a'r ffermydd rownd ni, mewn ffordd cynaliadwy a gwneud y gorau o beth sydd 'da ni yn Sir Gâr."
Blasus!
Mae digon i'ch diddanu yng Ngŵyl Triban, ddydd Gwener a Sadwrn.
Yn yr Arddorfa, beth am fynd i sesiwn ioga gyda Mistar Urdd, i weithdy gospel gyda Chôr UAB o Alabama, neu ddisgo tawel y gwersylloedd?
Ac yn Yr Adlen, mae digon o artistiaid, fel Lily Beau, Adwaith, Mellt, gyda Dafydd Iwan yn cloi'r wythnos nos Sadwrn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd hi'n orlawn yno amser cinio...
Mae Jac Jones wedi bod yn dathlu cael trydydd yn yr unawd cerdd dant gydag ysgytlaeth siocled (ei hoff flas!).
Mae ei rieni, Betsan a Llion, o ardal Meifod yn falch iawn ohono.