Bwydydd lleol ar y fwydlen ym mhabell CogUrddwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mai 2023
Dyma Catrin Manning a Jack Davies yn eu gwisgoedd gwynion, yn aros yn eiddgar am ganlyniad cystadleuaeth CogUrdd.

Catrin a Jack yng nghystadleuaeth CogUrdd
Briff ei chystadleuaeth y bore 'ma, meddai Catrin, oedd i goginio pryd o fwyd mewn dwy awr gan ddefnyddio cynnyrch lleol, felly aeth ati i goginio wellington cig eidion a chig oen a llysiau mewn saws gwin coch.
Cynnyrch lleol oedd ar y fwydlen gan Jack hefyd: "Fel mab ffarm, y brecwast yw'r pryd mwyaf pwysig.
"Dw i wedi gallu defnyddio cynnyrch o'n fferm ein hunain a'r ffermydd rownd ni, mewn ffordd cynaliadwy a gwneud y gorau o beth sydd 'da ni yn Sir Gâr."
Blasus!