Alun Ffred yn ennill Gwobr Daniel Owen yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023
Mae ei "chwip o nofel", Gwynt y Dwyrain, yn "gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes".
Read MoreAlun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen
Gwersyllwyr Maes B yn wynebu oedi am oriau wrth gyrraedd
Artistiaid gwerin yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin
Meuryn ac Islwyn newydd i'r ymryson
Mae ei "chwip o nofel", Gwynt y Dwyrain, yn "gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes".
Read MoreDiolch o galon am eich cwmni unwaith eto ar ein llif byw o Foduan.
Bu'n ddiwrnod prysur arall ac fe fyddwn ni'n ôl bore fory.
Os ydych chi yn yr Eisteddfod mwynhewch eich noson ger Llwyfan y Maes, y Pafiliwn neu lle bynnag yr ewch chi!
Gobeithio y cawn ni'ch cwmni chi 'fory eto
Roedd Lisa, 18, o Gaerdydd wrthi’n cyrraedd blaen ciw Maes B am 16:30 ar ôl bod yn aros ers 12:00 i fynd i mewn.
“Mae’n warthus eleni o’i gymharu gyda blwyddyn diwethaf, lle doedd ‘na ddim ciws o gwbl.”
Y cyflwynydd Aled Hughes o Lanbedrog fu'n rhannu hanes ei daith gerdded o amgylch arfordir Llŷn ar stondin ecoamgueddfa gyda Gwyn Jones.
Mae vlogs Aled yn mynd â phobl ar daith ar hyd llwybrau godidog arfordir Llŷn a Llwybr y Morwyr.
Bydd Aled yn cael ei urddo ddiwedd yr wythnos hefyd.
Mel Owen oedd yn arwain sgwrs ym Mhabell Pawb am waith i normaleiddio'r mislif o fewn chwaraeon.
"Mae dal elfen siomedig am rywbeth sy’n digwydd i ran fwyaf o fenywod,” medd un o'r panelwyr y pêl-droediwr Nicole Samson.
"Ar ddiwedd y dydd mae’n beth naturiol… ac mae angen ehangu dealltwriaeth hyfforddwyr am y peth.
“Mae’n bwysig bo ni’n gallu normaleiddio’r pwnc yma," ychwanegodd Lois Pennant o fudiad yr Urdd, "er mwyn gallu bod yn hyderus yn y gamp hefyd.”
Fe adawodd fan banc Barclays faes yr Eisteddfod y bore 'ma - hynny ar ôl cwynion bod yr arwyddion arni'n uniaith Saesneg.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y banc eu bod wedi penderfynu gadael y maes "wedi i bobl osod sticeri ar y fan dros y dyddiau diwethaf".
Ychwanegodd fod ganddynt staff sy'n siarad Cymraeg ar y maes a bod y banc yn darparu gwasanaethau dwyieithog i gwsmeriaid.
Fe fydd y banc yn adolygu'r mater ar gyfer y dyfodol, dywedodd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Fe benderfynodd y criw yma o Sir Gâr mai gosod eu cadeiriau allan fyddai orau yn hytrach nag aros yng nghiw Maes B, ar ôl bod yno am bron i ddwy awr.
“Roedd e’n lot mwy esmwyth llynedd, doedd dim ciw,” meddai Sara.
Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Tasg y 10 a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Y beirniaid oedd Mared Lewis, Dewi Prysor a Sioned Wiliam.
Dywedon fod nofel Alun Ffred - Gwynt y Dwyrain - yn "chwip o nofel sy’n diddanu tra’n gofyn cwestiynau pwysig am ein bywyd cyfoes".
“Noir Cymraeg ar ei orau a mwyaf gwreiddiol yw hwn."
Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen ar ei draed.
Ydych chi'n ei adnabod? Arhoswch gyda ni i gael gwybod yr enw.
Y beirniaid eleni yw Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor.
Mae Sioned Wiliam wrthi'n traddodi'r feirniadaeth.
Mae seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen ar fin dechrau yn y Pafiliwn Mawr.
Bydd y wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
Os y bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 yn rhoddedig gan Grŵp Cynefin.
Y beirniaid eleni yw Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor.
Fe ddown â'r diweddaraf i chi wrth i'r seremoni fynd yn ei blaen.
Dywedodd y criw yma o Ynys Môn eu bod nhw wedi ciwio am dair awr cyn gallu mynd mewn i Faes B.
“Mae ganddon ni fwy o stwff yn y car ond maen nhw’n d'eud bod ni’n goro' ciwio i gyd eto i fynd 'nôl fewn,” meddai un.
“Felly ‘dan ni jyst am fynd i’r maes am rŵan.”
Mae Ann Jones yn un o'r bobl brin sydd wedi mynychu pob Eisteddfod Genedlaethol ers diwedd y 1970au yn ddi-dor.
Nid yn unig mae Ann wedi bod ym mhob Eisteddfod ers dros 40 mlynedd, ond mae hi'n enwog am eistedd yn rhes flaen y pafiliwn o fore gwyn tan nos, bob diwrnod o'r cystadlu.
Mae eleni yn teimlo'n wahanol; does dim rhaid trefnu llety fisoedd ymlaen llaw, na chwaith drefnu cludiant i rywle filltiroedd i ffwrdd, gan fod yr Eisteddfod ddim ond bedair milltir o'i chartref ym Mhwllheli.
Finley o Bwllheli oedd yn barod i wenu i'r camera efo Sbarc y Ddraig.
Roedd cannoedd o bobl ifanc yn ciwio am oriau wrth i gae gwersylla Maes B agor - tra bod gwaith adeiladu i'r ardal gerddoriaeth dal yn cael ei orffen.
Dyma ambell un fu'n siarad â Cymru Fyw 👇
Ffrindiau coleg Owain Vaughan o Langernyw a Rob Dascalu o’r Bala yn mwynhau clonc dros bitsa yn yr ardal fwyd.
Yn y Pentref Gwyddoniaeth mae ‘na dipyn o dorf yma i wylio sgwrs reit unigryw!
Mae Gareth yr Orangutan yn cynnal sesiwn o’r enw ‘I Ffau’r Llewod’, sy’n drafodaeth debyg i Room 101.
Mae papur tŷ bach ‘one ply’, flat-earthers, ac un o’r gwyddonwyr ar y panel eisoes wedi cael eu rhoi yn y bin!
Yn naturiol, mae’r dorf yn mwynhau hiwmor y sesiwn yn fawr iawn.
Mae'r cystadlu brwd wedi parhau heddiw - a'r holl ganlyniadau a chlipiau hyd yn hyn i'w gweld yma.
Yn y Sinemaes mae sylwebwyr Sgorio - Nic Parry, Sioned Dafydd a Dylan Ebenezer - yn sgwrsio am eu profiadau o weithio ar gemau pêl-droed byw ar S4C.
Mae Nic Parry'n adnabyddus am ei linellau blodeuog a chofiadwy wrth sylwebu - felly faint o’r rheiny mae wedi eu paratoi o flaen llaw?
“Be’ dw i’n trio peidio cael ydy lein ar gyfer y gôls,” meddai, gan esbonio bod rhaid i hynny fod yn ymateb naturiol.
“Ond mae gen i stôr o linellau dw i wedi paratoi, jyst rhag ofn - rhai yn farddonol.
“Ond mae ‘na lwyth dwi heb ddefnyddio eto!”