Crynodeb

  • Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Gwersyllwyr Maes B yn wynebu oedi am oriau wrth gyrraedd

  • Artistiaid gwerin yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin

  • Meuryn ac Islwyn newydd i'r ymryson

  1. 'Angen denu mwy o fenywod i'r maes gwyddoniaeth'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae grŵp o wyddonwyr ar faes yr Eisteddfod ym Moduan wedi galw am wneud mwy i ddenu menywod i'r maes.

    Yn y Maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg, fe ddaeth galwad i gynyddu proffil menywod sydd eisoes mewn swyddi gwyddonol.

    Dylid hefyd rhoi lle amlwg iddyn nhw fel modelau rôl - hynny er mwyn ysbrydoli menywod a merched ifainc eraill - dywedon.

    Pedair menyw yn ardal gwyddoniaeth yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gwyddonwyr Alys Jefferson, Sara Williams, Debbie Jones a Mari Morgan

    Mae'n bwysig i bobl ifanc "weld pobl sy'n edrych yr un fath â nhw ac yn teimlo yr un fath â nhw yn y swyddi yma," meddai'r meddyg Sara Williams.

    Darllenwch yr adroddiad yma.

  2. 40 mlynedd o gludo pianos i'r brifwylwedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    BBC Cymru Fyw

    Ar dudalen Cylchgrawn BBC Cymru Fyw y bore 'ma mae hanes y cwmni pianos sydd wedi bod ynghlwm a'r Eisteddfod ers 40 mlynedd.

    Mae Pianos Cymru - gynt yn dwyn yr enw Siop Eifionydd - wedi darparu a thiwnio pianos yr Eisteddfod Genedlaethol ers 'Steddfod Ynys Môn ym 1983.

    "Yn y blynyddoedd cynta', argol, oeddan ni'n cario pianos!" cofia Ian, sydd bellach yn rhedeg y cwmni.

    Busnes gwerthu cardiau, llyfrau a cherddoriaeth oedd Siop Eifionydd yn wreiddiol, pan agorodd Robin a'i deulu'r siop ym Mhorthmadog ddechrau'r 70au.

    pianoFfynhonnell y llun, bbc

    Mae'r tîm wrth eu boddau mai Eisteddfod leol yw'r un i nodi'r deugain, ac mae Ian yn edrych ymlaen yn arw amdani.

    "Mae hi yn garreg filltir, a dwi'n falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae o'n rhan o be' ydan ni - a gobeithio gawn ni gario 'mlaen am 40 mlynedd arall!"

    pianoFfynhonnell y llun, Pianos Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Dynion y pianos gyda'r pafiliwn pinc; mae'r tad a'r mab wedi gosod pianos mewn llawer o bafiliynau dros y 40 mlynedd ddiwethaf.

  3. Awydd cystadlu ar englyn neu limrig y dydd?wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    Beirniad yr englyn yw Emyr Lewis a Bethan Gwanas sy’n beirniadu’r limrig.

    Mae'n rhaid anfon pob ymgais erbyn 12:00 i englynlimrig@gmail.com

    Mae’r wobr i’r naill a’r llall yn £30.

    Ewch amdani! Pob lwc

  4. Golwg ar y tywydd...wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Fe ddaeth yr haul mas ym Moduan ddoe wedi penwythnos gweddol llwydaidd - beth felly am dywydd weddill yr wythnos?

    Branwen o griw Tywydd S4C oedd â'r rhagolygon ar y maes neithiwr.

    Mae disgwyl dechrau cymylog ac o bosib ychydig o law ddydd Mawrth, gyda'r tymheredd yn cyrraedd ryw 17 gradd selsiws ☀️

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Allen ni ddim dychmygu'r fath lwyddiant'wedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Fe wnaeth criw ifanc Twmpdaith gyrraedd "pinacl" eu prosiect neithiwr gyda noson o ddawnsio yn y Pafiliwn.

    Twmpdaith

    Fe gafwyd Twmpath ar y llwyfan ac aelodau o'r gynulleidfa'n ymuno yn yr hwyl.

    Wrth siarad ar Dros Frecwast y bore 'ma, dywedodd Rhian Davies eu bod wedi cael noson "ffantastig".

    "Ar un pwynt fe wnes i gyfri bod 80 o ddawnswyr yn dawnsio Jac y Do ar y llwyfan."

  6. Stondinau'n dechrau agorwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae'r stondinau'n dechrau agor a phobl yn cyrraedd y maes.

    Fyddwch chi'n gwario rhywfaint o arian poced heddiw, tybed, neu'n chwilio am weithgareddau i'ch diddanu?

    stondinau
  7. Y prif ddefod fydd Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn Mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Mawrth.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Meinir Pierce Jones ar lwyfan Eisteddfod 2022Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Meinir Pierce Jones o Nefyn ennillodd y wobr y llynedd am ei nofel 'Capten'

    Os y bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 yn rhoddedig gan Grŵp Cynefin.

    Y beirniaid eleni yw Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor.

    Meinir Pierce Jones o Nefyn ddaeth i'r brig y llynedd.

  8. Bore da ar ddydd Mawrth y 'Steddfod!wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Maes

    Ydych chi'n barod am ddiwrnod arall ar y maes? Neu ydych chi'n dilyn y cyfan ar y teledu, y radio neu ar eich ffôn?

    Mae llif byw Cymru Fyw yma eto heddiw i ddod â'r holl straeon, lluniau a fideos diweddaraf o'r maes.

    Roedd hi'n ddiwrnod gwych ddoe, felly gobeithio am fwy o heulwen heddiw!

    Byddai'n wych cael eich cwmni 😎🎪