Crynodeb

  • Alun Ffred yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Gwersyllwyr Maes B yn wynebu oedi am oriau wrth gyrraedd

  • Artistiaid gwerin yn cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Gwerin

  • Meuryn ac Islwyn newydd i'r ymryson

  1. Ar eich ffordd i Maes B?wedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Bydd Maes B yn croesawu'r gwersyllwyr cyntaf heno - ac mae'r paratoadau olaf ar waith cyn i'r giatiau agor...

    Arwydd Maes B

    Mae'r criw wedi rhyddhau'r holl fanylion sydd angen eu cofio cyn cyrraedd...

    ✅ Rhaid bod yn 16 neu'n hŷn i fynychu

    ✅ Peidiwch a phacio gwydr

    ✅ Cofiwch eich tocyn

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  2. Dadarchuddio gwaith celf ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae ‘na waith celf gan yr artist Manon Awst wedi cael ei ddadorchuddio ar y maes, er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd mawndiroedd a’r angen i ofalu am yr amgylchedd.

    Bydd ‘Cerfluniau Gludiog’, sy’n cynnwys haenau o ddeunyddiau gan gynnwys gwair gwastraff a chregyn gleision, ar gael i’w weld ar stondin Cyfoeth Naturiol Cymru.

    manon

    Pwrpas y gwaith yw archwilio cyfansoddiad unigryw mawndiroedd, sy’n gorchuddio tua 4% o dir Cymru ond yn storio 30% o garbon y tir.

    “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu dangos fy ngwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gobeithio y gallwn gysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mawndiroedd, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang,” meddai Manon Awst.

  3. Beth sydd ar Lwyfan y Maes heno?wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae Llwyfan y Maes yn llawn dop efo sêr y sîn heno - pwy y'ch chi'n edrych 'mlaen at eu gwylio fwyaf?

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  4. O Ecwador i Lŷn ac Eifionyddwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Dyma Maria, Anahi a Luis sy'n wreiddiol o Ecwador, De America, a bellach yn byw yn Nottingham.

    Maria, Anahi a Luis

    Er nad ydynt yn medru’r Gymraeg maent yn gallu siarad Sbaeneg a’u mamiaith Quichua.

    Maen nhw’n gwneud yn siwr eu bod yn dod i’r Eisteddfod yn flynyddol ac yn mwynhau clywed a gweld diwylliant Cymru.

  5. Cyfle i ysgolion lleol serennu!wedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae plant a phobl ifanc Llŷn, Eifionydd ac Arfon wedi bod yn paratoi ar gyfer yr wythnos hon ers amser.

    Fe fydd dwy ysgol leol yn cymryd rhan mewn sioe yn Y Sfferen yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg ddydd Mawrth sef Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Pentreuchaf – sydd dafliad carreg o’r maes.

    Mae’r sioe Y Peiriant Amser, sydd wedi’i pharatoi o dan arweiniad Y Galeri yng Nghaernarfon, yn gyfle i fynd ar daith drwy amser a thrwy gyfrwng cymeriadau eiconig bydd modd dysgu mwy am dechnoleg a gwyddoniaeth.

    Y pentref gwyddoniaeth a thechnoleg
    Disgrifiad o’r llun,

    Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Pentreuchaf fydd yn diddanu yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg heddiw

  6. Coffi a chacen? Ie plis...wedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Dyw hi ddim yn 'Steddfod heb alw draw yn stondin Merched y Wawr.

    Mae Merched Bethel yn brysur yn gweini paneidiau ers codi cyn cŵn Caer y bore 'ma!

    Merched y Wawr
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jen, Meira, Gwenan, Mair a Rhian yn barod i groesawu 'steddfodwyr mewn o'r glaw...

  7. Arbrofi gyda llwyfan agored ym Maes Bwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae Elan Evans, sydd yn trefnu Maes B, yn dweud bod eu tocynnau gwersylla “bron â gwerthu mas”, a’u bod yn disgwyl y bydd hynny’n digwydd cyn diwedd yr wythnos ✨

    Ond bydd dal modd prynu tocynnau i’r gigs yn unig, ar ben hynny.

    Ychwanegodd y byddan nhw’n arbrofi gyda llwyfan agored heb do ym Maes B eleni i gynnig mwy o ofod i artistiaid.

    Dydy hynny heb ddigwydd ers Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.

    Elan Evans
  8. 'Prisiau stondinau heb godi'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Mae'r gynhadledd i'r wasg wedi dechrau ar y maes.

    Wrth drafod costau i stondinwyr ar y maes eleni, mae swyddog cyfathrebu’r Eisteddfod, Gwenllian Carr, yn dweud nad yw prisiau stondinau wedi mynd i fyny.

    Gwenllian Carr yng nghynhadledd y wasg
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwenllian Carr (dde) yn ymateb i gwestiwn am gostau ar y maes

    Mae’n dweud fod hynny er bod costau i'r Brifwyl “wedi mynd fyny 30-40% ers y flwyddyn ddiwethaf”.

    Ychwanegodd bod rhai stondinau bwyd heb ddod eleni am “resymau personol”.

  9. Y maes ar y meic!wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Cofiwch fod modd gwrando ar holl fwrlwm Boduan yn fyw ar BBC Radio Cymru drwy'r dydd

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Oes eisteddfod leol yn eich ardal chi?wedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Wrth nodi chwarter canrif ers sefydlu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, mae galw am ragor o gydweithio rhwng eisteddfodau lleol.

    Ellis Wyn Roberts

    Cafodd y gymdeithas ei ffurfio gydag Aled Lloyd Davies yn gadeirydd, Ellis Wyn Roberts yn is-gadeirydd a Gron Ellis yn ysgrifennydd.

    Nawr, mae Ellis Wyn Roberts yn dweud ei fod "yn meddwl bod yr eisteddfodau lleol o bosib wedi ymbellhau wrth ei gilydd".

    "Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ardderchog, ond efallai bod pellter wedi codi."

  11. Trafodaeth gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg am ariannu'r Brifwylwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Roedd Jeremy Miles yn trafod ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru y bore 'ma ynglŷn ag ariannu'r Eisteddfod Genedlaethol.

    "Ry'n ni wedi cynyddu grant craidd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i fwy na £1m dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf," dywedodd.

    "Bydd y Llywodraeth yn edrych ar y gefnogaeth y gallan nhw roi'r flwyddyn nesaf gan gydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod yr Eisteddfod yn hygyrch i gymaint o bobl a phosib."

    Pan holwyd a fydd yna fwy o arian i'r Eisteddfod Genedlaethol allu ehangu ei hapêl y flwyddyn nesaf yn Rhondda Cynon Taf, dywedodd Jeremy Miles eu bod nhw mewn trafodaethau parhaus gyda'r Eisteddfod Genedlaethol ac y byddai'n cael trafodaethau pellach heddiw.

    "Ry'n ni wastad yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r Eisteddfod, mae'n Ŵyl bwysig iawn i ni fel cenedl."

  12. Mae braidd yn gymylog - ond digon sych dan draed!wedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Maes gwag fore Mawrth a chymylau

    Yn ôl gohebwyr Cymru Fyw ar y maes, mae'n ddigon sych dan draed er iddi bigo bwrw glaw am gyfnod y bore 'ma.

    Ma 'na dipyn mwy o drainers a sandalau o gwmpas y lle erbyn hyn, yn hytrach na welis ac esgidiau cerdded!

  13. Rhywbeth i'r rhai â dant melys...wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Lisa o Dudweiliog a Cian o Bryncroes yn mwynhau 'Steddfod leol!

    becws
  14. Cofio'r Coroni?wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Prif seremoni ddoe oedd y Coroni - a Rhys Iorwerth o Gaernarfon oedd yn fuddugol.

    Roedd pedwar bardd wedi dod i'r brig gan y beirniaid, ond roedd un yn "sefyll ar wahân i'r gweddill".

    "Crefftwr gorau'r gystadleuaeth" oedd Rhys Iorwerth, meddai'r beirniaid, ac roedd yn "haeddu clod arbennig".

    Ar ôl ennill y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam 2011, dywedodd ei fod yn benderfynol o fwynhau'r seremoni y tro hwn.

    Er iddo fwynhau, dywedodd ei fod yn dal i deimlo'r nerfau wrth eistedd yn y pafiliwn!

    Darllenwch y cyfan yma.

    Prif seremoni ddydd Mawrth yw Gwobr Goffa Daniel Owen. Dyma fanylion y gystadleuaeth.

  15. O'r pafiliwn i'r theatr...wedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Beth am fwynhau ychydig o ddrama yr wythnos hon? Mae gan y Theatr Genedlaethol ddigon i'ch cadw chi'n brysur...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Paratoi am ddiwrnod ar y stondinwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Gwenllian Ellis yn barod am ddiwrnod o waith ar stondin ddillad.

    Mae Gwenllian yn dod o Lŷn, ac fe wnaeth hi Ateb y Galw gyda BBC Cymru Fyw ychydig wythnosau yn ôl.

    gwenllian
  17. Tips ar sut i gadw'n ddiogel yn ystod yr wythnos 🎪wedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Gyda rhai o griw ifanc Maes B yn cyrraedd heddiw, dyma gynghorion Ryan o dîm Ambiwlans St John ar y maes.

    1. Gwisgwch yn addas

    2. Bwytewch ac yfwch ddigon

    3. Gofalwch am eich gilydd

    4. Er ei bod hi’n gymylog, gall yr haul gael cryn effaith arnoch chi felly byddwch yn ymwybodol o hyn.

    Ryan o St John

    Trwy gydol y dydd mae’r criw yn cynnal arddangosiadau diogelwch a chymorth cyntaf yn eu stondin ger y pentref bwyd.

  18. Y criw tu ôl y camera 👋wedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    Dyma Rhys, un o'r criw sy'n chwilio am gynnwys ar y maes, er mwyn dod â'r diweddaraf ar ein llif byw!

    Rhys
  19. Cyfle i roi hwb i gyrraedd miliwn o siaradwyr ym Mhontypridd 2024?wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst 2023

    BBC Radio Cymru

    Ddoe fe wnaeth yr Eisteddfod gyhoeddi mai ym Mhontypridd y bydd y Brifwyl yn cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.

    Eisteddfod

    Fe ddywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fod y brwdfrydedd eisoes i'w weld yn yr ardal - sy'n draddodiadol llai 'Cymraeg' nag ardal fel Llŷn ac Eifionydd.

    "Mae rôl yr Eisteddfod yn hollbwysig i ni fel cenedl gyda'n hiaith ond yn llawer mwy na gŵyl un wythnos," dywedodd.

    "Maen benllanw cyfnod o flwyddyn neu ddwy o weithio yn y gymuned a sicrhau ein bod ni'n creu'r cyfleoedd hynny i bobl ddefnyddio eu Cymraeg - a ry'n ni'n gweld hynny'n digwydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf yn sgil y cynlluniau'r flwyddyn nesa'."

    Disgrifiad,

    Yr Aelod o'r Senedd dros Ganol De Cymru Heledd Fychan

    "Mae hi'n ardal lle mae angen hwb i'r Gymraeg os y'n ni am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr," ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd Plaid Cymru lleol Heledd Fychan.

    "Pa well cyfle? Cael Eisteddfod yng nghanol bwrlwm tref prysur... mi allai fod mor bositif i'r Gymraeg."