Crynodeb

  • Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru

  • Bydd yn parhau yn y ddwy rôl tan fis Mawrth

  • Fe wnaeth y cyhoeddiad annisgwyl mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd fore Mercher

  • Mae wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers 2018

  • Dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn gorffen cyn y Pasg

  • Bydd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru yn cyfarfod nos Fercher i drafod manylion yr amserlen ar gyfer yr ornest i olynu Mr Drakeford fel arweinydd

  • Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r ceffylau blaen, medd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

  1. Drakeford wedi delio â 'baich ofnadwy galar'wedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Fe wnaeth marwolaeth sydyn gwraig Mark Drakeford, Clare, ym mis Ionawr arwain at ddyfalu am ei ymadawiad fel arweinydd Llafur Cymru a rôl y Prif Weinidog.

    Roedd y cwpl wedi bod yn briod am 46, a bu Mr Drakeford yn agored iawn am ei alaru.

    Roedd nifer wedi dyfalu y gallai gyhoeddi ei ymddiswyddiad yng nghynhadledd wanwyn Llafur Cymru ym mis Mawrth.

    Ond yn hytrach, cyhoeddodd ei fod yn teimlo "dyletswydd" i barhau i weithio tuag at nodau'r Blaid Lafur, er ei fod yn delio â "baich ofnadwy galar".

    Mark a Clare DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark a Clare Drakeford yn angladd y Frenhines Elizabeth II ym mis Medi 2022

  2. 'Digon o dalent yna i sicrhau cystadleuaeth'wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Yn trafod dewis olynydd i Mark Drakeford, dywedodd Carwyn Jones fod "digon o dalent yna i sicrhau cystadleuaeth".

    "Mae sawl person yn fy marn i yna allai neud y jobyn," meddai ar Dros Ginio.

    "Mae hynna yn rhywbeth iach ynglŷn â’r sefyllfa sydd gyda ni o fewn y Blaid Lafur.

    "Mae gyda ni genhedlaeth newydd sydd wedi bod yna ers sawl blwyddyn."

  3. Mark Drakeford a Betiwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    BBC Radio Cymru

    Nôl yn 2020, roedd Mark Drakeford yn westai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

    Mae modd gwrando'n ôl ar y cyfweliad yma.

    Mark Drakeford a Beti George
  4. Drakeford 'wedi gwneud argraff fawr ar fywydau pobl'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Disgrifiad,

    Cyn-brif weinidog Cymru fu'n sgwrsio gyda Vaughan Roderick ar Dros Ginio

    Yn siarad ar Dros Ginio dywedodd rhagflaenydd Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

    “Rwy’n credu bod Mark wedi 'neud ei feddwl lan ymhell o flaen llaw - o'dd e moyn 'neud pum mlynedd - ac wrth gwrs mae 'na ffactor arall fan hyn - mae pawb yn disgwyl etholiad cyffredinol rhywbryd y flwyddyn nesaf.

    "'Sa fe’n mynd yn rhy bell mewn i’r flwyddyn mae 'na risg wedyn bydd cystadleuaeth ar gyfer arweinydd y Blaid Lafur yn rhedeg yr un pryd ag ymgyrch etholiadol, a bydde neb moyn gweld 'na.

    "Rwy’n siŵr bod hynny ar ei feddwl e.

    "Gyda Mark, ma' fe’n rhywun fi’n credu sydd wedi 'neud argraff fawr ar fywydau pobl.

    "Gorfodd e ddelio gydag argyfwng mawr - yr argyfwng mwya’ fydden ni yn dweud mae unrhyw brif weinidog wedi gorfod delio gyda - a fe ddaeth e drwyddo hwnna gyda pharch.

    "Fi’n credu mae llawer sydd heddi yn meddwl 'diolch bod Mark wedi bod yna, wedi cymryd y penderfyniad wnaeth e wrth gymharu gyda beth ddigwyddodd dros y ffin'."

  5. Mark Drakeford yn 'ddyn arbennig'wedi ei gyhoeddi 13:34 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Mae Mark Drakeford yn "ddyn arbennig," sydd wedi arwain Cymru drwy "gyfnodau arbennig" yn ôl Gweinidog Addysg a'r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles.

    "Mae wedi bod yn oleuni o ran trugaredd yn ein gwleidyddiaeth, ac yn esiampl o wasanaeth cyhoeddus i’r genedl," meddai.

    "Pan fydd yn camu i lawr fel Prif Weinidog, bydd yn gallu edrych yn ôl ar ei yrfa a’i ymroddiad i helpu eraill – fel gweithiwr yn y gwasanaethau prawf, fel athro o bolisi cymdeithasol, fel cynghorydd i Rhodri Morgan ac fel gweinidog a Prif Weinidog Cymru.

    "Wrth i ni ystyried beth sy’n dod nesaf, dwi’n gobeithio y gallwn adeiladu ar waddol Mark, cwrdd â heriau newydd ac anelu am ddyfodol uchelgeisiol i Gymru."

    Jeremy Miles
  6. 'Gonest, dirodres, diwyd a llawn gofal dynol'wedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Mae Archesgob Cymru, Andrew John, ymysg y rheiny sydd wedi rhoi teyrnged i Mark Drakeford.

    "Y mae Mark Drakeford wedi ymgymryd â'i dasg o arwain yng Nghymru mewn modd gonest, dirodres, diwyd a llawn gofal dynol ac y mae'n haeddu diolch a pharch pawb wrth iddo osod i lawr ei gyfrifoldebau," meddai.

    "Yr ydym yn ei sicrhau ef a'i deulu o'n gweddïau a'n dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol."

    Drakeford ac Andrew JohnFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
  7. Gwyliwch Mark Drakeford yn cyhoeddi ei ymddiswyddiadwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Mewn cynhadledd i’r wasg a barodd bum munud yn unig, fe gyhoeddodd Mark Drakeford fod ei gyfnod fel arweinydd yn dod i ben.

    Wrth siarad yn Oriel Senedd Cymru, doedd dim lle i droi oherwydd yr holl gamerâu a newyddiadurwyr oedd wedi ymgynnull.

    Disgrifiad,

    Cyhoeddiad Mark Drakeford

  8. Cymru'n 'ddyledus' i Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

    Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds wedi dweud ein bod yn "ddyledus" i Mark Drakeford am ei waith o arwain Cymru drwy "gyfnodau anodd".

    “Hoffwn ddiolch i’r Prif Weinidog am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad i Gymru drwy ei bum mlynedd yn y rôl," meddai.

    “Drwy ei gyfnod, mae wedi bod yn gyson gyda’i arweinyddiaeth o'r wlad drwy gyfnodau anodd, o ganlyniad i hynny, rydym yn ddyledus iddo.

    “Mae fy neges i’r arweinydd newydd yn un syml. Mae angen gweledigaeth newydd i Gymru.

    “Rydym angen syniadau newydd i newid dyfodol y wlad am y gorau."

    Jane Dodds
  9. Drakeford wedi gadael ei farc ar Brydain gyfanwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Yn brif weinidog trwy gyfnod Covid, fe wnaeth Mark Drakeford ei farc ar wleidyddiaeth ac ymwybyddiaeth Prydain gyfan fel yr un Prif Weinidog Cymreig cynt - a phrofi’n ddraenen yn ystlys Rhif 10 ar fwy nag un achlysur trwy gyflwyno rheolau gwahanol bob ochr i Glawdd Offa a beriniadu Downing Street am beryglu’r undeb trwy’u gweithredoedd - a’r dyfyniad enwog hwnnw, “he really is awful” yn crynhoi ei farn am Boris Johnson.

    Ond fe fu’n ddraenen yn ystlys ei arweinydd Prydeinig ei hun ar adegau hefyd, a record ei lywodraeth ar iechyd yng Nghymru yn profi’n fwled ddefnyddiol i Rishi Sunak yn erbyn Keir Starmer mewn sawl sesiwn o Gwestiynau’r Prif Weinidog.

    Roedd galwadau Mark Drakeford am ragor o ddatganoli, fel ym maes heddlu a chyfiawnder, hefyd yn gynnen rhwng y ddau, a Keir Starmer dipyn mwy gwyliadwrus am rannu rhagor o rym.

    Er yn wleidydd oedd yn gweld y byd mwy trwy lygaid Jeremy Corbyn na Keir Starmer, fe ddaeth rhyw gyd-weld a chydweithio gwell rhwng y ddau yn y misoedd diwethaf - a Keir Starmer yn cadw cefn Mark Drakeford yn wyneb y feirniadaeth am bolisi 20mya Cymru.

    Heddiw, dymuno’n dda iddo wnaeth Keir Starmer a Rishi Sunak wrth agor cwestiynnau’r Prif Weinidog yn San Steffan, a diolch iddo am ei flynyddoedd lawer, cyn ac yn ystod ei brif weinidogaeth, o wasanaeth cyhoeddus.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Reuters
  10. Ffigyrau Llywodraeth y DU yn dymuno'n ddawedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Yn ymateb i ymadawiad Mark Drakeford dywedodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak:

    “Rwy’n gwybod y bydd pawb am ymuno â fi i ddymuno’r gorau i Mark Drakeford wrth iddo symud ymlaen o’i flynyddoedd lawer o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig.”

    Sunak a DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images

    Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cartref James Cleverly, ar X (Twitter gynt):

    “Nes i ddim gweithio’n agos gyda Mark Drakeford, ond ar yr adegau gwrddon ni nes i weld ei fod yn ŵr bonheddig.

    "Diolch am dy wasanaeth cyhoeddus, a phob lwc am y dyfodol.”

  11. 'Cawr o fewn Llafur a gwleidyddiaeth Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Yn ei ymateb yntau i'r newyddion dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer:

    "Hoffwn gydnabod ymddeoliad fy nghydweithiwr a’m ffrind, Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

    "Mae wedi rhoi ei fywyd i wasanaeth cyhoeddus, ac yn byw ei werthoedd bob dydd.

    "Yn dawel ac yn amyneddgar, mae Mark wedi bod yn gawr o fewn Llafur a gwleidyddiaeth Cymru, ac rydyn ni'n diolch iddo am ei wasanaeth ac yn dymuno’n dda iddo.”

    Drakeford a StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Andrew RT Davies yn 'dymuno'n dda' i Mark Drakefordwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Ceidwadwyr Cymreig

    Mae arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi dweud ei fod yn “dymuno’n dda” i Mark Drakeford wrth iddo gamu o’i rôl fel Prif Weinidog Cymru.

    “Er ein bod gyda gweledigaeth wahanol iawn am Gymru, rwy’n gwybod fod fy nghydweithwyr yn cytuno gyda mi ac yn parchu'r ymroddiad i’w waith fel Prif Weinidog," meddai.

    “Ond, mae’n holl bwysig nad yw’r cyhoeddiad yma’n tynnu sylw oddi ar y gwaith pwysig o wneud y gorau dros bobl Cymru.

    “Dylai’r ffaith y bydd gwleidyddion Llafur nawr yn ymgeisio am rôl y Prif Weinidog ddim amharu ar hyn."

    Andrew RT Davies
  13. Beth mae hyn yn ei olygu i'r llywodraeth?wedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Daniel Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Pentyrru mae'r problemau i Lywodraeth Cymru.

    Does fawr o arwydd fod dim yn tycio yn y frwydr i dorri rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd, ac mae tystiolaeth yn gynyddol fod Covid wedi rhoi clec i'r system addysg.

    Mae gweinidogion eisoes wedi cyfaddef na fydd addewidion i adeiladu mwy o dai ac i greu mwy o brentisiaethau yn cael eu gwireddu.

    Mwy a mwy o arian sy'n cael ei balu mewn i'r cwmni trenau, Trafnidiaeth Cymru, mae sefyllfa argyfyngus yn y diwydiant dur, ac mae ymchwiliad yn mynd rhagddi i ymateb un gweinidog i sgandal Undeb Rygbi Cymru.

    Ac mae hynny cyn sôn am yr ymateb i'r gyfraith 20mya, na chwaith am effaith chwyddiant ar y gyllideb.

    Gellid dadlau wrth gwrs nad ar Mark Drakeford mae'r bai am y rhain, ond bydd hi'n her anferth i'w olynydd fynd i'r afael â hyn oll.

  14. 'Diwedd cyfnod gwleidyddol yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Plaid Cymru

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru bod cyhoeddiad Mark Drakeford yn nodi "diwedd cyfnod gwleidyddol yng Nghymru".

    "Dwi ddim yn meddwl bod neb yn disgwyl hynny," meddai.

    Pan ofynnwyd iddo a fyddai hyn yn effeithio ar y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Senedd, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae'n gytundeb tair blynedd sy'n seiliedig ar set o feysydd polisi y cytunwyd arnynt.

    "Boed hynny gyda Mark Drakeford neu pwy fydd yn olynydd, rydyn ni fel Plaid yn cael ein harwain gan yr hyn sydd orau i Gymru ac ni fydd hynny'n newid."

    Rhun ap Iorwerth
  15. Y diweddaraf gyda Vaughan ar Dros Giniowedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Bydd y diweddaraf ar gyhoeddiad Mark Drakeford yn cael sylw Vaughan Roderick ar Dros Ginio heddiw.

    Fe fydd modd i chi ddilyn y rhaglen heb orfod gadael ein llif trwy glicio ar eicon y rhaglen uchod o 13:00 ymlaen

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Pwy fydd yn y ras i'w olynu?wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images

    Yn dilyn cyhoeddiad Mark Drakeford mae’r sylw’n troi’n syth at y ras i’w olynu.

    Y ddau geffyl blaen yw gweinidog yr economi Vaughan Gething a’r gweinidog addysg Jeremy Miles.

    Mae gan y ddau ymgyrch arweinyddiaeth ar y gweill yn barod.

    Mae Mr Gething wedi cynrychioli De Caerdydd a Phenarth ers 2011 ac wedi bod yn rhan o’r llywodraeth ers 2013.

    Fe oedd y gweinidog iechyd yn ystod y pandemig a daeth e’n ail yn y ras arweinyddiaeth ddiwethaf yn 2018.

    Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    Cafodd Mr Miles ei ethol yn 2016. Yn y gorffennol mae e wedi gwasanaethu fel y cwnsler cyffredinol a’r gweinidog Brexit.

    Mae enw Eluned Morgan bob tro’n codi mewn unrhyw drafodaeth am olynydd posib Mark Drakeford hefyd. Hi yw’r gweinidog iechyd presennol ac fe safodd yn y ras ddiwethaf yn 2018.

    Mae ymgeiswyr posib eraill yn cynnwys y gweinidog newid hinsawdd Julie James a’r dirprwy weinidog dros bartneriaeth gymdeithasol Hannah Blythyn.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Cyfarfod heno i drafod amserlen y ras arweinyddolwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Bydd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru yn cwrdd heno i drafod manylion yr amserlen ar gyfer yr ornest i olynu Mark Drakeford fel arweinydd.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn disgwyl y byddai hwn yn digwydd cyn i’r Senedd dorri ar gyfer gwyliau’r Pasg ym mis Mawrth.

    Ond ni fydd y person sy’n dod yn lle Mark Drakeford yn dod yn Brif Weinidog yn awtomatig.

    Fe fydd y person sy’n cael ei ddewis fel arweinydd Llafur Cymru yn gorfod cael ei enwebu a’i gymeradwyo gan y Senedd gyfan.

    Fe all y pleidiau eraill gyflwyno ymgeisydd am y swydd, ond y tebygrwydd yw y byddai’r arweinydd Llafur yn olynu heb fawr o drafferth.

  18. 'Cyfraniad anhygoel i Gymru'wedi ei gyhoeddi 11:52 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Mark Drakeford, dywedodd llefarydd y Blaid Lafur dros Gymru, Jo Stephens AS:

    “Mae Mark Drakeford wedi arwain ein gwlad gyda gofal, sgil a gwerthoedd sydd wedi’i seilio ar wreiddiau ac egwyddorion y Blaid Lafur.

    “Roedd ei arweinyddiaeth drwy gydol y pandemig yn enghraifft wych o’i wasanaeth cyhoeddus.

    “Mae wedi rhoi cymaint o’i fywyd i ddod â newid positif i bobl Cymru.

    “Mae Mark wedi bod yno drwy gydol ein taith drwy ddatganoli, fel pensaer ac fel adeiladwr.

    "Mae wedi bod yn rhan bwysig o lwyddiant etholiadol y Blaid Lafur dros y 25 mlynedd ddiwethaf ac mae wedi ennill parch gwrthwynebwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol.

    “Wrth i Mark ddod â’i dymor o arwain y Blaid Lafur i ben, rwy’n ei gofio am ei arweinyddiaeth, ei gyfeillgarwch a’i gyfraniad anhygoel i Gymru."

    Jo StephensFfynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
    Disgrifiad o’r llun,

    Jo Stephens

  19. 'Dim lle i droi' yng nghynhadledd Drakefordwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Rhodri Lewis
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mewn cynhadledd i’r wasg annisgwyl, barodd braidd bum munud, fe gyhoeddodd Mark Drakeford fod ei gyfnod fel arweinydd yn dod i ben.

    Wrth siarad yn Oriel Senedd Cymru, rhan gyfyng o’r adeilad sydd ond ar agor i Seneddwyr, doedd dim lle i droi oherwydd yr holl gamerâu a newyddiadurwyr oedd wedi ymgynnull.

    Dywedodd Mark Drakeford y pethau y’n ni’n disgwyl clywed mewn achlysuron fel hyn; ei fod wedi bod yn fraint bod wrth y llyw, yn diolch i’w gyd-weinidogion yn y cabinet, a'n dweud bod 'na waith eto i’w wneud cyn camu lawr.

    Eto, mae’r amseru’n codi cwestiynau; ydy’r Blaid Lafur moyn bod mor sicr ag y gallan nhw bo' nhw’n cael arweinydd newydd mewn lle cyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf?

    Neu oes 'na rywbeth arall tu cefn i’r penderfyniad annisgwyl i gyhoeddi heddi, beth oedd trwch newyddiadurwyr yn disgwyl iddo fe wneud y flwyddyn nesaf?

    Mark Drakeford

    Ar ôl iddo orffen, roedd 'na bwt o gymeradwyaeth o’r llawr islaw lle’r oedd llawer, gan gynnwys rhai o’i staff, wedi ymgynnull.

    'Naeth Mark Drakeford ddim cymryd unrhyw gwestiynau o’r llawr ar ôl ei ddatganiad - yn amlwg ddim am fanylu am y rhesymau tu ôl i’r cyhoeddiad heddiw.

    Ond dywedodd y byddai digon o amser i gloriannu ei yrfa yn y misoedd i ddod.

  20. Beth fydd gwaddol Mark Drakeford?wedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Er ei fod dal yn adnabyddus iawn, mae ei boblogrwydd wedi dirywio dros y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf oherwydd polisïau trafnidiaeth.

    Mae'r polisi 20mya wedi bod yn ddadleuol iawn, a'r gwaharddiad ar adeiladu ffyrdd newydd hyd yn oed wedi codi gwrychyn o fewn ei blaid ei hun.

    Ond mi fydd o hefyd yn cael ei gofio am y cytundeb gyda Phlaid Cymru i weddnewid etholiadau Cymru ac i gynyddu maint y Senedd - polisi fydd nawr yn nwylo ei olynydd.

    Hyd yn oed ar ôl gadael y rôl, mi fydd ei benderfyniadau yn ystod y pandemig yn parhau dan y chwyddwydr, wrth i'r ymchwiliad Covid ganolbwyntio ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf.