Crynodeb

  • Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru

  • Bydd yn parhau yn y ddwy rôl tan fis Mawrth

  • Fe wnaeth y cyhoeddiad annisgwyl mewn cynhadledd i'r wasg yn y Senedd fore Mercher

  • Mae wedi bod yn Brif Weinidog Cymru ers 2018

  • Dywedodd ei fod yn ffyddiog y bydd y broses i ddod o hyd i'w olynydd fel arweinydd Llafur Cymru yn gorffen cyn y Pasg

  • Bydd Pwyllgor Gwaith Llafur Cymru yn cyfarfod nos Fercher i drafod manylion yr amserlen ar gyfer yr ornest i olynu Mr Drakeford fel arweinydd

  • Vaughan Gething a Jeremy Miles yw'r ceffylau blaen, medd gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

  1. 'Prif weinidog mwyaf adnabyddus Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mark Drakeford yw prif weinidog mwyaf adnabyddus Cymru.

    Dyw o erioed wedi mwynhau'r cyhoeddusrwydd, ond yn ystod y pandemig roedd ar ein teledu yn gyson.

    Ac roedd y polisïau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr wedi rhoi datganoli a fo fel prif weinidog dan y chwyddwydr fel na welwyd o'r blaen.

    Nid pawb oedd yn cytuno â'i bolisïau yn ystod y cyfnodau clo, ond ar y cyfan roedd o'n boblogaidd iawn dros gyfnod Covid.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
  2. Amseru'r cyhoeddiad 'wedi synnu pawb'wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Roedd Mark Drakeford eisoes wedi dweud y byddai'n gadael y Senedd yn ystod etholiad nesaf Cymru yn 2026.

    Y disgwyl oedd y byddai'n camu lawr fel prif weinidog o fewn y flwyddyn nesaf.

    Ond mae'r cyhoeddiad yma, cyn y Nadolig, wedi synnu pawb - hyd yn oed rhai o'r aelodau Senedd Llafur.

    Efallai bod amseru'r etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf ar ei feddwl - dyw'r blaid ddim eisiau brwydr fewnol i ganfod arweinydd newydd i darfu ar ymgyrch etholiadol bwysig iawn i'r Blaid Lafur.

    Ond eto, mae'r cyhoeddiad yn dod wythnos cyn y bydd yn cyhoeddi cyllideb ddiweddaraf y llywodraeth, un all fod yn anodd iawn.

  3. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich 13 Rhagfyr 2023

    Diolch am ymuno gyda ni ar ddiwrnod mawr yn y byd gwleidyddol yng Nghymru.

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn camu i lawr fel arweinydd Llafur Cymru.

    Mae'n gadael ar unwaith ond bydd yn parhau yn ei rôl fel Prif Weinidog tan y bydd ei olynydd yn cael ei benodi.

    Arhoswch gyda ni am yr holl ymateb a'r newyddion diweddaraf drwy gydol y dydd.

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Reuters