Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 16:31 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai
Dyna ddiwedd ein llif byw o'r Eisteddfod am heddiw.
Cofiwch fod yr holl newyddion a lluniau o Feifod ar gael ar wefan Cymru Fyw am weddill yr wythnos.
Diolch am ddilyn.
Alys Hedd Jones yw enillydd y Fedal Ddrama
Yr Urdd yn addo mwy o allanfeydd yn dilyn trafferthion i rai wrth adael y maes parcio
Yr Urdd wedi cyhoeddi Fforwm Hygyrchedd er mwyn gwella mynediad pobl anabl at y maes
Prif seremoni'r dydd yw'r Fedal Ddrama
Ail ddiwrnod y cystadlu yn yr Eisteddfod ym Maldwyn
Dyna ddiwedd ein llif byw o'r Eisteddfod am heddiw.
Cofiwch fod yr holl newyddion a lluniau o Feifod ar gael ar wefan Cymru Fyw am weddill yr wythnos.
Diolch am ddilyn.
Dyma ddau o sêr Cymru, y cantorion Ian 'H' Watkins a Caryl Parry Jones, sydd wedi bod ym Meifod heddiw.
Y llynedd cyfansoddodd y ddau gân gyda phlant Ysgol Bro Morgannwg ar gyfer dathlu Pride y Bontfaen.
Heddiw, roedd perfformiad arbennig o “Bydd Yn Ti Dy Hun” ar y maes, ac fe fuodd y ddau yn dweud mwy o'r hanes wrth Cymru Fyw.
Mae wedi bod yn ddiwrnod llawn hwyl a chystadlu ym Meifod er gwaetha'r tywydd.
Dyma ddetholiad o luniau'r dydd: Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd 2024
Mae'r eisteddfod eleni yn garreg filltir go arbennig i un hyfforddwr llefaru - Alun Jones sy'n byw yn Chwilog.
Mae wedi bod yn dysgu criwiau llefaru ers 60 o flynyddoedd eleni, gan gynnwys dau lefarydd unigol ddoe a pharti heddiw.
Felly beth yw'r gyfrinach wrth hyfforddi pobl ifanc?
"Mae'n rhaid uniaethu â'r bobl ifanc, dwi ddim yn strict o gwbl dwi ddim yn credu... esbonio'r gerdd iddyn nhw dyna sy' bwysica' i fi."
"Fel athro Cymraeg, dadansoddi'r gerdd a bod nhw yn deall y gerdd ac wedyn yn ei dweud hi, gan ddefnyddio rhythmau siarad. Dyna'r unig gyfrinach dwi'n meddwl."
Fe allwch chi glywed sgwrs lawn gydag Alun Jones ar y Post Prynhawn o 17:00 ar BBC Radio Cymru.
Wedi cael llond bol ar gotiau glaw a wellingtons am y dydd?
Ewch draw i'r babell Celf, Dylunio a Thechnoleg am ysbrydoliaeth.
Rhai o blant Llansannan a Llangernyw yn canu karaoke ym mhabell Llywodraeth Cymru... a'r gân? Yma o Hyd wrth gwrs!
Plant meithrinfa Tiny Tots, Meifod, yn gwneud y mwya’ o'r tywydd efo’u hufen iâ.
Y cyflwynydd Mari Lovgreen a Dilwyn Price, sy'n gwirfoddoli gyda'r Urdd ers degawdau, yn diddanu torf Llwyfan y Cyfrwy.
Nid ym mhrif seremoni'r dydd yn unig mae'r cyffro chwaith.
Mae Llwyfan y Cyfrwy yn llawn tensiwn - fan yma mae'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi.
Ac mae'n amlwg o'r llun yma fod disgyblion Ysgol Melin Gruffydd yn eithaf balch o ddod yn gyntaf ar y Parti Deulais Bl 6 ac iau.
Mae Amserlen, gan Alys Hedd Jones, nawr ar werth.
Fe fydd gwaith y prif wobrau llenyddol yn cael eu cyhoeddi yn syth ar ôl enwi'r enillydd - os oes teilyngdod.
Mae drama fer y Fedal Ddrama ar gael o stondin Cyhoeddiadau’r Stamp.
Mae Alys yn 17 oed ac yn astudio Llenyddiaeth, Drama, Cymdeithaseg a Ffrangeg fel Lefelau A yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn theatr a cherddoriaeth ac mae hi’n mwynhau ysgrifennu, actio, canu a chyfansoddi caneuon.
Mae ei drama buddugol ‘Amserlen’ yn stori am ddwy ffrind sydd wedi ffraeo, ac am benderfyniad a fyddai’n newid eu bywydau am byth.
Dywedodd y beirniaid bod y ddrama'n un "agos atoch oedd yn ein annog i barhau i ddarllen o’r cychwyn cyntaf".
"Mae’r ddeialog yn fachog, gwych gyda chysyniad syml ond theatrig sydd yn llwyddo i ddal y boen a'r dasg amhosib o ollwng gafael ar y gorffennol.
"Mae’n archwilio rhywbeth mor gymhleth mewn ffordd agos atat ti a llawn calon.”
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Annell Dyfri o Langynnwr, ac Alaw Jones o Llanbedr Pont Steffan oedd yn drydydd.
Enillydd Y Fedal Ddrama eleni yw Alys Hedd Jones o Gaerdydd.
Llongyfarchiadau mawr!
Wrth draddodi'r feirniadaeth, mae Angharad Lee yn diolch am bob un o'r 12 ymgais am y fedal.
Dywedodd bod gan bob un o'r dramâu botensial, a phob un wedi dangos gallu i gyflwyno cymeriad ac archwilio pwnc.
Ond pwy fydd yn fuddugol tybed?
Mae prif seremoni'r dydd yn dechrau rŵan yn y Pafiliwn Gwyn - Y Fedal Ddrama sydd dan sylw heddiw.
Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.
Y beirniaid oedd Angharad Lee a Sarah Bickerton, a rhoddir y wonr er cof am Meinir Wyn Jones, cyn-drefnydd yr Urdd Maldwyn gan Menna a’r teulu.
Mae Noah, Sion a Iona yn barod am y glaw yn eu cotiau ac yn barod i gefnogi Ysgol Gymraeg Rhydaman y prynhawn 'ma.
Mae'r eisteddfod wedi bod yn rhannu manylion eu cynllun i wella hygyrchedd y maes gyda ni heddiw, gan son am y newidiadau sydd wedi eu cyflwyno eleni.
Dyma oedd ymateb Cat Dafydd, sy'n defnyddio cadair olwyn, i'r maes a'i phrofiad hi yn yr ŵyl.
Mae Catrin o Chwilog yn hapus braf yn y mwd! Ond dydy Heledd ei chwaer ddim cweit mor frwdfrydig!
Ar y maes mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad gan Gyngor Powys i fwrw 'mlaen â chynlluniau i newid Ysgol Llanfair Caereinion yn un iaith Gymraeg.
Mae'r gymdeithas yn cynnal digwyddiad heddiw, gan gyflwyno Proclamasiwn Powys - yn galw am gynyddu'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y gymdeithas ei fod yn "gam cyntaf, ond yn gam pwysig" sy'n "deillio o frwdfrydedd ac agwedd gadarnhaol tuag at addysg Gymraeg gan bobl y sir a'u cyngor".
“Galwn ar Gyngor Powys yn awr i fynd ati i gynyddu addysg Gymraeg trwy Bowys gyfan trwy ddatblygu darpariaeth trochi ehangach a dechrau symud ysgolion eraill ar y daith at fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
"Mae’r camau nesaf yma wedi’u hamlinellu yn ein Proclamasiwn Powys sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, sy’n gosod amcanion tymor byr ymarferol i’r cyngor fynd ati i sicrhau hawl pob plentyn i addysg Gymraeg.”
Mae'n siwr eich bod yn 'nabod y ddau yma - H a Caryl Parry Jones ar y maes heddiw.
Y llynedd cyfansoddodd y ddau gân gyda phlant Ysgol Bro Morgannwg ar gyfer dathlu Pride y Bontfaen.
Bydd perfformiad arbennig o “Bydd Yn Ti Dy Hun” – cân sy’n dathlu pobl yn eu holl amrywiaeth – ar lwyfan y cyfrwy am 14:15 heddiw.
Mae wyres cwpl o Abergele oedd yn rhedeg aelwyd yr Urdd yn y dref wedi helpu ei ail-sefydlu chwarter canrif yn ddiweddarach.
Mae Lois Ellis yn wyres i Len ac Eirlys Ellis oedd yn rhedeg Aelwyd Abergele, oedd gyda thua 100 o aelodau hyd nes dod i ben 25 mlynedd yn ôl.
Felly pan wnaeth ei ffrind Siriol Elin gysylltu gyda hi yn gofyn a oedd hi awydd ail-sefydlu’r aelwyd - fe gytunodd.
Eleni mae Adran Bro Gele yn hyfforddi plant yr ardal unwaith eto ac wedi cael sawl llwyddiant yn y rhanbarth ac felly’n cystadlu ym Meifod.
“Roedd Nain a Taid yn really balch ein bod ni wedi ei ail-sefydlu, doedden nhw ddim yn disgwyl hynny,” meddai Lois.
Ychwanegodd Siriol: “’Da ni wedi defnyddio’r logo gwreiddiol o’r aelwyd ac aeth nain Lois yn reit emosiynol pan welodd hi hynny.”