Crynodeb

  • Alys Hedd Jones yw enillydd y Fedal Ddrama

  • Yr Urdd yn addo mwy o allanfeydd yn dilyn trafferthion i rai wrth adael y maes parcio

  • Yr Urdd wedi cyhoeddi Fforwm Hygyrchedd er mwyn gwella mynediad pobl anabl at y maes

  • Prif seremoni'r dydd yw'r Fedal Ddrama

  • Ail ddiwrnod y cystadlu yn yr Eisteddfod ym Maldwyn

  1. Poeth neu oer?wedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Diwrnod diod oer oedd hi ddoe... ond paned gynnes sy'n galw bore 'ma.

    Stondin dwr
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim llawer o fynd ar lenwi poteli dŵr...

    Ciw am goffi
    Disgrifiad o’r llun,

    ... ond y Lolfa Goffi yn llawn.

  2. Cymru Fyw ar y maeswedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Er bod y glaw wedi cyrraedd, mae'r cystadlu wedi hen gychwyn.

    Annell Dyfri sydd ar y maes.

    Disgrifiad,

    Ail ddiwrnod o gystadlu ar faes Eisteddfod yr Urdd

  3. Eisteddfod yn 'dysgu, addasu, moderneiddio'wedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Nia BennettFfynhonnell y llun, Urdd

    Roedd Nia Bennett, cadeirydd yr Urdd, yn siarad ar raglen Dros Frecwast y bore 'ma, gan roi ychydig yn fwy o wybodaeth am eu cynllun i wella mynediad at y maes.

    'Urdd i bawb' ydy enw'r strategaeth, a dywedodd bod sicrhau mynediad i bawb at y maes a'r cystadlu "mor bwysig i ni".

    Dywedodd bod y gwelliannau eleni'n cynnwys toiledau anabl, traciau metel o amgylch y maes a chydweithio gyda phobl anabl i brofi'r maes.

    Ychwanegodd bod y mudiad wedi derbyn arian gan y llywodraeth i roi mynediad am ddim i bobl ar incwm isel.

    "Da ni wedi newid yr arlwy, da ni'n eisteddfod sy'n datblygu, yn esblygu trwy'r amser, da ni'n dysgu, yn addasu, yn moderneiddio, a sicrhau bod gynnon ni rywbeth ar gyfer dant pawb."

  4. Tro cyntaf ar y maeswedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Sion, Mirain, Aria

    Dyma'r tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd i Mirain (canol), sydd wedi dod gyda Sion ac Aria i weld eu chwaer Elsa yn cystadlu yn y parti llefaru.

    Ffwrdd â nhw i’r pafiliwn gwyrdd!

  5. Edrych ymlaen at 2026wedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Dyma'r teulu Moxon sydd wedi dod o Fodedern, Ynys Môn i Faldwyn.

    Maen nhw'n edrych 'mlaen at 2026 pan fydd yr Eisteddfod ym Môn.

    Teulu Moxon
  6. Sut mae cyrraedd y maes?wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    I'r rhai ohonoch chi sy'n mentro i'r maes am y tro cyntaf heddiw, dyma'r manylion hollbwysig.

    Mae'r maes ar gaeau Fferm Mathrafal ym Meifod - SY22 6HT.

    I gyrraedd y meysydd parcio dilynwch yr arwyddion swyddogol.

    O'r Trallwng cymerwch yr A458 i'r gorllewin o'r Trallwng (arwydd ar gyfer Dolgellau). Trowch i'r dde ar y B4389 a dilynwch yr arwyddion.

    O Groesoswallt dilynwch yr A483 i'r de allan o Groesoswallt (arwydd ar gyfer y Trallwng). Trowch i'r dde i'r A495 (arwydd ar gyfer Llansanffraid-ym-Mechain). Parhewch ar y ffordd hon drwy Feifod nes i chi gyrraedd arwyddion i'r meysydd parcio.

    MaesFfynhonnell y llun, Urdd
  7. Cadi'n barod am y glaw!wedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Cadi

    Dydy'r tywydd ddim cystal heddiw ar y maes, ond mae Cadi o Lanelli yn barod amdani beth bynnag ddaw!

  8. Croesowedi ei gyhoeddi 08:58 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Maes

    Bore da a chroeso i'n llif byw o faes Eisteddfod yr Urdd!

    Fe gewch chi holl ddigwyddiadau a hwyl ail ddiwrnod yr ŵyl ym Meifod, felly peidiwch â mynd yn bell!

    Maes