Crynodeb

  • Alys Hedd Jones yw enillydd y Fedal Ddrama

  • Yr Urdd yn addo mwy o allanfeydd yn dilyn trafferthion i rai wrth adael y maes parcio

  • Yr Urdd wedi cyhoeddi Fforwm Hygyrchedd er mwyn gwella mynediad pobl anabl at y maes

  • Prif seremoni'r dydd yw'r Fedal Ddrama

  • Ail ddiwrnod y cystadlu yn yr Eisteddfod ym Maldwyn

  1. Be' sydd i ginio?wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Be' sydd i ginio heddiw?

    Mae'r Pentre Bwyd yn llawn dop gydag eisteddfodwyr yn llenwi boliau a 'mochel rhag y glaw.

    Bwyd
  2. Joio ar y maeswedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Teulu

    Mae Mali Fflur yn joio bod yn yr eisteddfod am y tro cyntaf, gyda'i rhieni Megan a Mathew o Hendy-gwyn.

  3. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Yn ôl allan ar y maes, a dydy'r tywydd yn gwneud dim i atal yr hwyl.

    Mae Celyn a Hannah o Sanclêr yn mwynhau'r diwrnod yn hyfforddi criw ifanc Aelwyd Hafodwennog, cyn y byddan nhw wrthi'n cystadlu ddiwedd yr wythnos.

    Celyn a Hannah
    Disgrifiad o’r llun,

    Celyn a Hannah Richards

  4. 'Dwi'n gerddor nid meddyg diolch i'r Urdd' - Siân Jameswedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Disgrifiad,

    Llywyddion y dydd, Sian James a Linda Griffiths

    Mae’n bosib mai doctor fyddai Siân James wedi bod yn hytrach na cherddor, oni bai am yr Urdd.

    Dywedodd Llywydd y Dydd ei bod yn cysidro gyrfa yn y byd meddygol tan iddi gymryd rhan yn Sioe Ieuenctid yr Urdd yn 1977.

    “Roedd yn un o’r profiadau hynny sy’n newid cwrs eich bywyd a’ch dirnadaeth o bwy ydych chi,” meddai yng nghynhadledd i’r wasg.

    “Ro’n i’n lodes fach swil ac yn gorfeddwl popeth a dwi’n cofio mynd yn ôl ar ôl y clyweliad ac roedd yn un o’r teimladau od yna bod rhywbeth wedi newid, rhywbeth wedi shifftio a ro’n i’n gwybod bod hyn am fy rhoi i ar lwybr gwahanol.”

    Sian James a Linda Griffiths ydy llywyddion dydd Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian James a Linda Griffiths ydy llywyddion dydd Mawrth

    Ac wrth brofi’r cynnwrf gefn llwyfan wrth ddisgwyl i berfformio’r sioe yn Theatr Felinfach fe wnaeth Siân James, sydd bellach wedi rhyddhau 10 albwm ac yn aelod o’r grŵp Pedair, ei phenderfyniad.

    Meddai: “Dwi jest yn cofio meddwl ‘ia - dyna dwi eisiau ei wneud gweddill fy mywyd’. “Ro’n i’n 15 oed ac mewn amrantiad ro’n i’n gwybod be’ o’n i eisiau gwneud. Ro’n i eisiau bod yn ddoctor ar y pryd ac aeth hynny drwy’r ffenest - a doedd canlyniadau CSE mathamateg ddim yn help!

    “A fan yma ydw i 40 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i wneud be’ dwi’n caru gwneud a fydda i’n fythol ddiolchgar i’r Urdd a Theatr Ieuenctid yr Urdd am hynny.”

  5. Hwyl y ffair beth bynnag y tywydd!wedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Mwd

    Oes, mae 'na rywfaint o fwd ar y maes erbyn hyn ar ôl bore gwlyb, ond peidiwch â phoeni, dydy’r glaw ddim yn stopio pobl rhag mwynhau hwyl y ffair!

    Ffair
  6. Newidiadau i drefn y maes parcio wedi trafferthionwedi ei gyhoeddi 12:25 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Datganiad

    Yn sgil trafferthion yn y maes parcio nos Lun, mae'r Eisteddfod yn dweud eu bod wedi "dyblu nifer yr allanfeydd, dolen allanol" fydd ar gael o heddiw ymlaen.

    Gofynnodd y mudiad i bobl ddilyn yr arwyddion wrth adael y maes, "yn ogystal â chyngor stiwardiaid a'r heddlu".

  7. Cyfuno clocsio a Bollywood ar y maes!wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Plethu

    Dyma brosiect Plethu yn perfformio ar lwyfan yr Arddorfa. Maen nhw’n cyfuno clocsio a Bollywood!

    Bydd y criw yn un o dri prosiect yr Urdd sy’n mynd i fod yng ngŵyl Lorient eleni.

  8. Gwaith y prif lenorion ar werth ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Bydd gwaith y prif wobrau llenyddol ar gael i’w darllen yn syth ar ôl y gwobrwyo eleni.

    Os bydd teilyngdod, bydd gwaith y Fedal Ddrama, y Gadair a’r Goron yn cael eu cyhoeddi gan Cyhoeddiadau'r Stamp ac ar werth ar y maes.

    Ac mae’r artist ifanc o Faldwyn, Aur Bleddyn wedi dylunio’r cloriau mewn ymateb i waith yr enillwyr.

    Dywedodd Iestyn Tyne o Gyhoeddiadau’r Stamp: “Nid syniad newydd ydi hyn, wrth gwrs, ac rydan ni’n cymryd llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfres o’r pamffledi yr arferai’r eisteddfod eu cyhoeddi rhwng y 50au a’r 70au; pamffledi oedd ar gael ar ddiwedd pob seremoni fel bod modd darllen y gwaith yn syth.

    “Mae’n hawdd anghofio yng nghanol y cyffro mai’r gwaith llenyddol ei hun sydd wrth graidd y cyfan, ac mai cyrraedd cynulleidfa gyda’r gwaith hwnnw ydi un o brif fanteision ennill gwobr o’r fath.”

    Bydd y gwaith ar werth yn stondin Cyhoeddiadau’r Stamp ar y maes ac o holl siopau lyfrau lleol ble caiff Cyhoeddiadau’r Stamp eu gwerthu.

  9. Oes ’na fath beth ag estroniaid?wedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    sesiwn y gofod

    Oes ’na fath beth ag estroniaid? Steffan Tudor o’r National Space Academy fuodd yn cynnal sesiwn ddifyr iawn am y gofod yn y GwyddonLe.

    Cyfle i weld siwt ofod go iawn, a chreu a saethu rocedi - fel wnaeth Iwan o Ysgol Llanedi, Pontarddulais. ’Drychwch ar y botel yn hedfan ar dde y llun isod!

    Iwan
  10. PobUrdd yn cychwyn heddiwwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Fe fydd cystadleuaeth newydd PobUrdd yn cychwyn am y tro cyntaf heddiw - coginio pedwar traybake yw’r her.

    Pob lwc i'r rhai sy'n cystadlu!

    cegin
  11. Gwyliau am ddim i 1,000 o blant a phobl ifancwedi ei gyhoeddi 11:20 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Sian lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Sian Lewis y byddai 1,000 o blant yn cael gwyliau am ddim

    Mae’r Urdd wedi cyhoeddi eu bod yn gobeithio cynnig gwyliau haf i 1,000 o blant a phobl ifanc difreintiedig yn 2025.

    Ar faes yr Eisteddfod heddiw fe ddywedodd un rhiant bod ei phlant, sydd mewn addysg Gymraeg ond o deulu di-Gymraeg, wedi cael profiadau bythgofiadwy diolch i Gronfa Cyfle i Bawb.

    Ers 2019 mae’r Urdd wedi gofyn i unigolion, cwmnïau a chynghorau i noddi plant a phobl ifanc o deuluoedd o incwm is fedru mynd i un o wersylloedd y mudiad. Bydd 350 yn cael mynd am ddim eleni, ond y flwyddyn nesaf y gobaith yw cyrraedd targed o 1,000.

    Fe wnaeth dau o blant Emily Bolwell o Risga, Casnewydd, fynd i wersyll Glan-llyn llynedd. Dywedodd eu bod wedi creu ffrindiau newydd a chael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol.

    Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd: “Mae un o fy merched eisiau bod yn athrawes mewn ysgol gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg a wnaeth hyn agor ei llygaid i’r cyfleoedd a’r holl bethau mae’r Urdd yn ei wneud.”

    Ychwanegodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Mae’r Urdd - a’r Gymraeg - yn perthyn i bawb, ac mae’n bwysig i ni fel mudiad i estyn allan a sicrhau bod cyfleodd ar gael ac yn cael eu cynnig i bob plentyn yng Nghymru.”

  12. Y Fedal Ddrama yw prif seremoni dydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Fe edrychwn ymlaen am ychydig rŵan, at brif seremoni'r dydd - y Fedal Ddrama.

    Efallai y gwelsoch chi ddoe, ond mae 'na newid i'r prif seremonïau eleni gyda phob un yn cael eu cynnal yn y Pafiliwn Gwyn o dan arweiniad Iestyn Tyne.

    Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod dros 15 munud o hyd.

    Fe fydd y seremoni yn dechrau am tua 14:30.

    Y drefn am weddill yr wythnos yw:

    • Dydd Mercher: Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones
    • Dydd Iau: Y Gadair
    • Dydd Gwener: Y Goron
    • Dydd Sadwrn: Y Fedal Gyfansoddi
  13. Joio waeth beth yw'r tywyddwedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Dafydd ac Ifan o Ddinbych yn cael hwyl tu allan i'r Pafiliwn Gwyrdd

    Dau o blant yn chwarae tu allan
  14. 'Bythol ddiolchgar i'r Urdd'wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Wrth annerch y wasg ddydd Mawrth, dywedodd y gantores Sian James, un o lywyddion y dydd heddiw ei bod yn "fythol ddiolchgar i fudiad yr Urdd a Theatr Ieuenctid yr Urdd".

    Dywedodd mai ei hoff atgof o fod yn aelod o'r Urdd oedd "cystadlu gydag Ysgol Gynradd Llanerfyl ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion gydol fy mhlentyndod".

    Ychwanegodd bod y ffaith i'r Eisteddfod ddychwelyd i Sir Drefaldwyn "yn golygu cymaint" iddi.

    Dywedodd Linda Griffiths, un arall o lywyddion y dydd heddiw ei bod yn "caru Sir Drefaldwyn".

    Dywedodd fod y sir yn un "ddwyieithog iawn, 'di ddim yn ardal hawdd i’r bobl sy’n trio hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir, maen nhw’n gorfod gweithio'n galed iawn i gael y tegwch a’r statws i’r Gymraeg”.

    Ychwanegodd ei bod yn "codi'n het i bobl Maldwyn i gael y steddfod nôl yn y sir".

    Sian James a Linda Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian James a Linda Griffiths yw llywyddion dydd Mawrth yn yr eisteddfod

  15. Yr Urdd yn mynd i Ŵyl Interceltique Lorientwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Bydd tri o brosiectau'r Urdd yn teithio i ŵyl Interceltique Lorient sy'n cael ei chynnal rhwng 12-18 Awst - gŵyl sy’n denu dros 700,000 o bobl.

    Dyma’r tro cyntaf i’r Urdd gael gwahoddiad i fod yn rhan o’r ŵyl, ac felly wedi dewis Aelwyd yr Ynys fel y côr llwyddiannus i berfformio yno.

    Yn sgil cefnogaeth ariannol cynllun TAITH bydd dau brosiect arall yn cael y cyfle hefyd, sef prosiect Twmpdaith a phrosiect Plethu.

    Yn siarad yng nghynhadledd y wasg fore Mawrth, dywed Llio Maddocks fod y cyfle yma yn rhan o weledigaeth Syr Ifan ab Owen Edwards i "gyfathrebu dros ffiniau a datblygu yn ddinasyddion hyderus y byd”.

    Llio Maddocks
  16. Ble mae Ken?wedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Disgyblion wedi gwisgo fel Barbie

    Mae'n braf o hyd ym myd Barbie...

    Disgyblion Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn paratoi i gystadlu yn y Perfformiad Theatrig Bl 6 ac iau.

  17. Mudiad Meithrin 'wedi gorfod gwneud pethau'n wahanol'wedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Mae gan y Mudiad Meithrin stondin yn yr Eisteddfod eto eleni, ond yn ôl Prif Weithredwr y mudiad maen nhw "wedi gorfod gwneud pethau'n wahanol" y tro hwn.

    Mae'r mudiad wedi rhybuddio eu bod yn wynebu "penderfyniadau anodd" yn sgil heriau ariannol, ac mae Gwenllian Lansdown Davies yn dweud y bydd hynny'n cael effaith ar eu presenoldeb "ym mhob sioe, gŵyl ac eisteddfod eleni".

    "Dwi'n meddwl 'bo ni wedi gorfod newid yr arlwy ond fydd y croeso yr un mor gynnes, a ma' 'na le cysurus a chyfforddus gyda llwyth o adnoddau chwarae," meddai.

    Bydd digwyddiad arbennig yn stondin y mudiad heddiw i lansio sianel Dewin a Doti.

    Cafodd Gwenllian Lansdown Davies ei holi ar Dros Frecwast fore Mawrth
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Gwenllian Lansdown Davies ei holi ar Dros Frecwast fore Mawrth

  18. Gwisg draddodiadol y Steddfod - y pacamac!wedi ei gyhoeddi 10:10 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Wedi anghofio'ch côt law?

    Ewch draw i babell Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fel Menna o Abercraf, ger Abertawe.

    Merch ifanc
  19. Eisteddfod 'wedi ymateb' i drafferthion maes parciowedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Maes parcio

    Mae Prif Weithredwr yr Urdd yn dweud eu bod "wedi ymateb" yn dilyn trafferthion i rai wrth geisio gadael y maes nos Lun.

    Fe wnaeth yr Eisteddfod ymddiheuro neithiwr am yr "anghyfleustra" yn sgil trafferthion wrth geisio gadael y maes parcio.

    Dywedodd rhai wrth Cymru Fyw eu bod yn aros dros awr mewn ciw i adael, gan symud ychydig fetrau yn unig yn y cyfnod.

    Yn siarad fore Mawrth, dywedodd Prif Weithredwr yr Urdd, Sian Lewis bod y diwrnod cyntaf yn "arbennig o dda, tan tua 17:30 pnawn ddoe".

    Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Dio ddim yn rywbeth 'da ni'n hapus fod o 'di digwydd ond 'da ni wedi ymateb.

    "Mae trafodaethau wedi digwydd hefo Cyngor Sir Powys, hefo'r heddlu ac hefo'r Urdd neithiwr... a 'da ni'n gobeithio rhoi rhyw fath o gyhoeddiad allan yn fuan iawn...

    "'Da ni'n trio datrys y broblem."

  20. Barod am ddiwrnod arall o gystadluwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 28 Mai

    Mae Lliwen a Nyfain wedi deffro yn gynnar i gystadlu gydag Adran Bro Alaw ar y gystadleuaeth Grŵp Cerddoriaeth Greadigol.

    Nyfain a Lliwen