Crynodeb

  • Mae cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething wedi cael ei basio yn y Senedd, o 29 pleidlais i 27

  • Roedd angen cefnogaeth pob aelod Llafur er mwyn bod yn sicr na fydd y cynnig yn pasio

  • Dywedodd Llafur fod dau AS - Hannah Blythyn a Lee Waters - yn sâl ac yn absennol o'r gwaith

  • Dywedodd Vaughan Gething yn dilyn y bleidlais na fydd yn ymddiswyddo, ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw arno i fynd

  • Roedd y prif weinidog yn ddagreuol wrth wrando ar gyfraniadau aelodau yn ystod y ddadl ar y pwnc

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 19:20 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar y llif byw am heddiw - diwrnod enfawr ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru wrth i'r prif weinidog Vaughan Gething golli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn y Senedd.

    Mae'r gwrthbleidiau wedi galw arno i ymddiswyddo, ond mae Mr Gething wedi dweud y bydd yn parhau yn ei swydd.

    Mae modd dal i fyny gyda'r hanes trwy ddarllen y llif byw, neu yn yr erthygl yma ar ein hafan.

    Beth bynnag ddaw dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf i'r prif weinidog, bydd y cyfan yn cael sylw ar Cymru Fyw wrth i ni nesáu at yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

    Diolch am ddilyn, a hwyl am y tro.

    GethingFfynhonnell y llun, Reuters
  2. Keir Starmer: Y bleidlais yn 'chwarae gemau'wedi ei gyhoeddi 19:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Ond yn siarad cyn y bleidlais, dywedodd Syr Keir Starmer mai "y Ceidwadwyr yn chwarae gemau" oedd y bleidlais, "gyda Phlaid Cymru'n chwarae hefyd".

    "Rwy'n credu ei bod hi'n hynod o bwysig gweld hyn am beth ydy o," meddai'r arweinydd Llafur.

    "Rwy'n credu bod pobl Cymru eisiau iddo [Gething] gyflawni iddyn nhw.

    "Ac mae o eisiau bwrw ati er mwyn cyflawni dros bobl Cymru."

    StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Colled Gething yn 'broblem' i Keir Starmerwedi ei gyhoeddi 19:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Yn siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Syr Deian Hopkin bod cwestiynau am effaith colled Mr Gething ar ymgyrch etholiad cyffredinol y Blaid Lafur.

    “Mae 'na broblem i Keir Starmer achos oedd o wedi cefnogi Vaughan Gething yn rymus iawn, felly beth fydd ei ymateb ef?

    "Yn sicr, os nad yw hyn yn angheuol, mae’n anghyfforddus.

    "Wrth gwrs, mae’n ddiddorol bod y ddau oedd wedi mynd yn sâl - Hannah Blythyn a Lee Waters - yn ddau sy’n teimlo’n anniddig iawn.

    "Felly nid y bleidlais yma sy’n bwysig, ond y cyd-destun ehangach."

    Vaughan Gething a Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
  4. Y bleidlais 'ddim yn ergyd fawr i ymgyrch Llafur'wedi ei gyhoeddi 18:59 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Cyn y bleidlais, roedd un o aelodau mwyaf blaenllaw Llafur yn San Steffan wedi dweud na fyddai pleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething yn ergyd fawr i ymgyrch etholiad cyffredinol y blaid.

    Dywedodd Emily Thornberry ar raglen BBC Politics Live heddiw fod y bleidlais yn "ychydig o gimic gan y gwrthbleidiau" a bod ganddi "ffydd llwyr ynddo".

    "Mae gan bobl Cymru fwy o ddiddordeb yn yr etholiad cyffredinol a sut allwn ni wneud eu bywydau'n well," meddai Ms Thornberry.

    Gwadodd fod y sefyllfa'n "llanast", ond dywedodd hefyd na fyddai sefyllfa o'r fath yn cael ei weld yn San Steffan pe bai Llafur yn ennill yr etholiad.

    Emily ThornberryFfynhonnell y llun, Reuters
  5. 'Uwch aelodau Llafur wedi colli ffydd a hyder'wedi ei gyhoeddi 18:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Yn siarad gyda'r BBC yn dilyn y bleidlais dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth fod "uwch aelodau Llafur, o'i lywodraeth, yn awyddus i'r bleidlais hon gael ei chynnal oherwydd eu bod wedi colli ffydd a hyder yn Vaughan Gething".

    Ychwanegodd nad yw'n credu fod pobl Cymru yn "poeni os yw'r bleidlais yn rhwymol ai peidio".

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. 'Ensyniadau yn niweidiol ac yn brifo'wedi ei gyhoeddi 18:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Mewn cyfweliad ar ôl y bleidlais, dywedodd Mr Gething fod y "misoedd a misoedd o ensyniadau yn niweidiol ac yn brifo".

    “Dw i’n meddwl bob hyn a hyn y dylen ni i gyd gofio bod y gwleidyddion sy’n gwasanaethu ein cymunedau a'n gwledydd yn fodau dynol hefyd," meddai.

    Dywedodd Mr Gething fod y cynnig a basiwyd yn "gimic anobeithiol i geisio tynnu sylw oddi wrth yr etholiad cyffredinol".

    Ychwanegodd nad oedd yn meddwl "y bydd Llafur Cymru yn caniatáu i bleidiau eraill benderfynu pwy sy'n ein harwain".

  7. 'Anodd gwybod beth nesaf' i Gethingwedi ei gyhoeddi 18:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru ar Post Prynhawn

    Ni'n gwybod bod y bleidlais yma ddim yn rhwymo Gethin yn gyfreithiol.

    Ond i brif weinidog golli pleidlais o hyder ynddo fe mewn Senedd etholedig, mae "be' nesaf?" yn gwestiwn enfawr.

    Mae suon fod Vaughan Gething falle'n ystyried prosesau seneddol er mwyn trio adennill hyder ynddo, ond yn y bôn, os mae o ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif, mae unrhyw symudiad ar hyn o bryd â risgiau mawr i Vaughan Gething.

    Mae e'n brif weinidog sydd wedi cael ei glwyfo'n gyson dros fisoedd, ond dyma benllanw'r holl beth hyd yn hyn.

    Mae'n anodd gwybod beth yw'r symudiadau nawr i Brif Weinidog Cymru sydd wedi colli pleidlais hyder yn ei erbyn e gan ei gyd-aelodau yn Senedd Cymru.

  8. Fydd y sefyllfa'n rhoi pwysau ar Keir Starmer?wedi ei gyhoeddi 18:22 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Gyda'r etholiad cyffredinol lai na mis i ffwrdd, sut fydd arweinydd Llafur y DU Syr Keir Starmer yn teimlo am y bleidlais heddiw?

    Ar hyn o bryd yr awgrym yw fod Llafur ymhell ar y blaen, ond allai'r sefyllfa yma daro hynny, yn enwedig yng Nghymru?

    Mae Syr Keir wedi rhoi ei gefnogaeth yn gyhoeddus i Mr Gething yn ddiweddar, ac yn y gorffennol fe ddywedodd mai Cymru oedd ei "lasbrint" ar gyfer llywodraethu ar draws y DU.

    Dyw'r bleidlais heddiw ddim yn rhoi gorfodaeth ar Mr Gething i ymddiswyddo, ond fydd pwysau'n dod gan dîm Syr Keir nawr ei fod wedi colli?

    Starmer a GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  9. Ni wnaeth ddau AS Llafur bleidleisiowedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Dyma sut y pleidleisiodd pob AS, dolen allanol.

    Fel y rhagwelwyd, ni wnaeth dau AS Llafur sy'n sâl bleidleisio.

    Y rheiny oedd Hannah Blythyn, a gafodd ei diswyddo o Lywodraeth Cymru gan Vaughan Gething am ryddhau gwybodaeth - rhywbeth y mae hi'n ei wadu - a Lee Waters, y cyn-weinidog trafnidiaeth.

  10. Ysgrifennydd Cymru'n galw am ymddiswyddiad Gethingwedi ei gyhoeddi 18:12 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Mae Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies wedi ymuno â'r galwadau ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.

    "Mae ei safle bellach yn anghynaladwy a rhaid iddo ymddiswyddo ar unwaith," meddai ar X, dolen allanol.

    David TC DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Gething yn gwrthod ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024
    Newydd dorri

    "Rwy'n parhau â'm dyletswydd i wasanaethu fy ngwlad," meddai Vaughan Gething mewn cyfweliad â'r wasg yn dilyn y bleidlais.

    Dywedodd Mr Gething fod "afiechyd dau o'n haelodau wedi effeithio ar ganlyniad y bleidlais".

    “Rydw i yma, yn falch o fod yn Brif Weinidog Cymru i wasanaethu ac arwain fy ngwlad.

    "Dyna beth rydw i wedi'i wneud heddiw. Dyna beth fydda' i'n parhau i'w wneud."

    Gething
  12. 'Dylai Gething fod wedi gallu ennill y bleidlais yma'wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru

    Yn siarad ar raglen Post Prynhawn yn dilyn y canlyniad, dywedodd Catrin Haf Jones ei fod yn "hollol ddigynsail yma yn Senedd Cymru".

    "Ry'n ni wedi gweld prif weinidog mewn dagrau, nawr yn colli pleidlais o ddiffyg hyder ynddo fe.

    "Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd nesaf.

    "Heddiw, doedd gan Vaughan Gething ddim y niferoedd i ennill y bleidlais yma. Ar bapur fe ddylai o fod wedi gallu ennill y bleidlais yma.

    "Mae gan Lafur hanner y seddi yn y Senedd, ond gyda dau aelod Llafur yn sâl, ddim yn pleidleisio heddiw, a’r gwrthbleidiau’n unedig, mae Vaughan Gething wedi colli'r bleidlais."

    GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  13. Be' nesa' i Vaughan Gething?wedi ei gyhoeddi 17:53 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Y cwestiwn mawr rŵan yw beth nesaf i'r prif weinidog, sydd wedi bod dan y lach ers iddo gael ei benodi yn arweinydd rai misoedd yn ôl?

    Yn y lle cyntaf fe fydd o'n rhuthro i Ffrainc er mwyn gallu ymuno â digwyddiad coffa D-Day fore Iau.

    Ond mae'r pwysau arno yn fwy nag erioed.

    Ac efallai mai'r cwestiwn pwysicaf oll yn hyn yw beth yw barn yr arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ynglŷn â hyn, ag yntau yn gwneud popeth o fewn ei allu i gipio grym yn San Steffan.

  14. Y Llywydd yn galw am 'barch a charedigrwydd'wedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Yn dilyn y canlyniad dywedodd y Llywydd Elin Jones: “Mater i’r Prif Weinidog nawr yw myfyrio ar y farn y mae’r Senedd wedi ei mynegi a’r cynnig a basiwyd.

    “Mae cynigion hyder yn wleidyddol, ydyn, ond maen nhw hefyd yn hynod bersonol, ac er y bydd gan bleidlais o’r natur hon ganlyniadau, gofynnaf i ni gyd drin ein gilydd â pharch a charedigrwydd nawr.

    "Mae pobl Cymru yn disgwyl hynny o'u Senedd."

    Elin JonesFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  15. Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am ymddiswyddiadwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd wedi galw am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Vaughan Gething yn dilyn canlyniad y cynnig o ddiffyg hyder.

    Dywedodd eu harweinydd Jane Dodds, a bleidleisiodd o blaid y cynnig: “Mae’r Senedd wedi siarad, a nawr rhaid i Vaughan Gething fynd.

    "Byddai unrhyw ymgais i ddal gafael ar rym yn mynd yn groes i normau ein democratiaeth seneddol.

    "Heb fandad y Senedd, does gan y prif weinidog ddim hawl i aros yn ei swydd.

    "Mae democratiaeth Cymru wedi cael dweud ei dweud a nawr mae’n rhaid iddo fynd.”

    Jane DoddsFfynhonnell y llun, Senedd
  16. Plaid Cymru yn galw am ymddiswyddiad Gethingwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024
    Newydd dorri

    Wrth siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae’r Senedd wedi siarad ar ran pobl Cymru – does gennym ni ddim hyder yn y prif weinidog Llafur.

    "Heb i bob aelod Llafur ei gefnogi yn y bleidlais heno, rhaid i Vaughan Gething wneud y peth anrhydeddus ac ymddiswyddo i sicrhau na fydd ansefydlogrwydd pellach wrth galon Llywodraeth Lafur Cymru.

    "Mae ei lywodraeth yn amlwg mewn anhrefn ac felly ni all wynebu'r heriau sylweddol sydd i ddod i Gymru.

    "Drwy anrhydeddu canlyniad y bleidlais, gall Llywodraeth Cymru a’n Senedd symud ymlaen o’r bennod anffodus hon.”

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. 'Wedi colli hyder pobl Cymru a'r Senedd'wedi ei gyhoeddi 17:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Yn ymateb i'r bleidlais dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies AS: “Mae Vaughan Gething wedi colli hyder pobl Cymru.

    “Mae wedi colli hyder y Senedd.

    “Yr unig berson sy’n dal i fatio dros Vaughan Gething yw Keir Starmer.”

    RTFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Gething yn colli'r bleidlaiswedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024
    Newydd dorri

    Mae'r cynnig o ddiffyg hyder yn y prif weinidog yn cael ei basio, gyda 29 o blaid, neb yn ymatal a 27 yn erbyn.

    Union eiriad y cynnig oedd bod y Senedd:

    1. Yn cydnabod pryder gwirioneddol y cyhoedd fod y Prif Weinidog wedi derbyn rhodd o £200,000 ar gyfer ei ymgyrch i arwain y Blaid Lafur gan gwmni sy'n eiddo i unigolyn sydd â dwy euogfarn droseddol amgylcheddol, ac yn gresynu at y diffyg crebwyll a ddangoswyd gan y Prif Weinidog wrth dderbyn y rhodd hon, a'i fethiant i'w ad-dalu.

    2. Yn gresynu at gyhoeddiad negeseuon gweinidogion Llywodraeth Cymru lle mae'r Prif Weinidog yn datgan ei fwriad i ddileu negeseuon a allai fod wedi bod o gymorth yn ddiweddarach i'r ymchwiliad COVID yn ei drafodaethau ynghylch y penderfyniadau a wnaed adeg y pandemig COVID, er i'r Prif Weinidog ddweud wrth ymchwiliad COVID y DU nad oedd wedi dileu unrhyw negeseuon.

    3. Yn nodi diswyddiad y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol gan y Prif Weinidog o'i Lywodraeth, yn gresynu nad yw'r Prif Weinidog yn fodlon cyhoeddi ei dystiolaeth ategol ar gyfer y diswyddiad, ac yn nodi bod y cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn yn gryf.

    4. Am y rhesymau uchod, yn datgan nad oes ganddi hyder yn y Prif Weinidog.

  19. Arolwg barn: 57% yn meddwl bod Gething yn gwneud yn waelwedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Fe wnaeth arolwg diweddar gan YouGov ar gyfer Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru ofyn i 1,066 o bobl yng Nghymru rhwng 30 Mai a 3 Mehefin "pa mor dda neu ddrwg ydych chi’n meddwl y mae Vaughan Gething yn ei wneud fel Prif Weinidog Cymru?"

    Dywedodd 1% ei fod yn gwneud yn dda iawn ac 14% ei fod yn gwneud yn weddol dda.

    Dywedodd 25% ei fod yn gwneud yn weddol wael a 32% ei fod yn gwneud yn wael iawn.

    Atebodd 28% nad ydyn nhw'n gwybod.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. 'Newid yn y negesu dros nos' gan gefnogwyr Gethingwedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin 2024

    Richard Wyn Jones
    Canolfan Llywodraethiant Cymru

    Yn siarad â Vaughan Roderick ar raglen Dros Ginio heddiw, dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones bod "peryg einioes" i Vaughan Gething.

    "Mae’n ddiddorol iawn, 'da ni wedi gweld newid yn y negesu gan gefnogwyr Vaughan Gething dros nos," meddai.

    "Oedden nhw’n ymddangos yn hyderus neithiwr am ryw reswm y byddan nhw'n mynd i fod yn fuddugol.

    "Erbyn heddiw, maen nhw’n dweud ‘wel, da ni’n mynd i golli'r bleidlais ond ‘di o ddim yn cyfrif’.

    "Y gwir amdani ydy, os mae’n mynd i golli’r bleidlais yma, dwi’n meddwl bod ei hygrededd wedi mynd erbyn y pwynt yna.

    "O ystyried ei drafferthion o yn y Senedd a hefyd y ffaith bod gennym ni rŵan gryn dipyn o ddata o’r farn gyhoeddus sy’n awgrymu fod y stori yma ddim yn stori yn y swigen, fel oedd cefnogwyr Vaughan Gething yn ei awgrymu, ond bod hyn ar lawr gwlad, yn niweidiol i’r Blaid Lafur, yna dwi’n meddwl bydd rhyw ffordd o gael ymadael â fo."

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images