Crynodeb

  • Mae cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething wedi cael ei basio yn y Senedd, o 29 pleidlais i 27

  • Roedd angen cefnogaeth pob aelod Llafur er mwyn bod yn sicr na fydd y cynnig yn pasio

  • Dywedodd Llafur fod dau AS - Hannah Blythyn a Lee Waters - yn sâl ac yn absennol o'r gwaith

  • Dywedodd Vaughan Gething yn dilyn y bleidlais na fydd yn ymddiswyddo, ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw arno i fynd

  • Roedd y prif weinidog yn ddagreuol wrth wrando ar gyfraniadau aelodau yn ystod y ddadl ar y pwnc

  1. 'Un o'r dadleuon mwyaf syfrdanol i mi ei wylio'wedi ei gyhoeddi 17:10 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Dyna un o'r dadleuon mwyaf syfrdanol i mi ei wylio yn y Senedd.

    Er i rai aelodau Llafur ddisgrifio’r bleidlais o hyder fel gimic, roedd yr awyrgylch yn hynod o sobr ac ychydig yn anghyfforddus i'w wylio ar adegau.

    Roedd 'na ddicter a chryn dipyn o emosiwn hefyd, gyda Vaughan Gething yn ei ddagrau wrth i'r gwrthbleidiau ymosod ar ei grebwyll a chyd aelodau Llafur amddiffyn ei waith.

    Roedd yna gefnogaeth a chymeradwyaeth o’r galeri cyhoeddus, a'r Llywydd Elin Jones yn gorfod galw ar y cyhoedd i beidio â chlapio yn ystod y ddadl.

  2. Diwedd y ddadl - disgwyl pleidlais cyn hirwedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Dyna ddiwedd y ddadl am y cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Vaughan Gething.

    Bydd dadl arall ar HS2 yn digwydd am ychydig, ond arhoswch gyda ni - mae disgwyl i'r bleidlais ar gynnig y Ceidwadwyr gael ei chynnal mewn rhyw awr.

  3. Fideo: Vaughan Gething yn ddagreuolwedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Roedd Vaughan Gething yn ddagreuol wrth wrando ar gyfraniad cadeirydd y grŵp Lafur yn y senedd, Vikki Howells.

    Disgrifiad,

    Vaughan Gething yn ddagreuol yn y Senedd

  4. 'Wedi rhoi fy mywyd i wasanaeth cyhoeddus ac i Gymru'wedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    "Rwy'n gresynu bod y Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw," meddai'r prif weinidog.

    Dywedodd ei fod wedi "rhoi fy mywyd fel oedolyn i wasanaeth cyhoeddus ac i Gymru".

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd
  5. Gething: Cyhuddiadau'n 'brifo'n fawr'wedi ei gyhoeddi 16:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    "Mae'n brifo'n fawr pan fydd fy mwriadau'n cael eu cwestiynu," meddai Vaughan Gething, yn amddiffyn ei hun yn ystod y ddadl.

    "Nid wyf erioed wedi gwneud penderfyniad fel gweinidog er budd personol."

  6. Awgrym o hiliaeth yn 'sarhaus'wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae’r awgrym mai hiliaeth sydd wrth wraidd y feirniadaeth o Mr Gething yn “sarhaus” meddai yr AS Ceidwadol, Natasha Asghar.

    Ond nid pawb sy'n cytuno.

    Mae Hefin David, AS Llafur Caerffili, wedi cwestiynu a yw ethnigrwydd Vaughan Gething wedi chwarae rhan yn rhywfaint o'r feirniadaeth a anelwyd ato.

    Dywedodd Hefin David, AS Caerffili: “Mae gen i hawl i ofyn a yw ei ethnigrwydd yn dylanwadu ar gymhellion rhai o’r tu allan i’r siambr.

    "Allwn ni ddim anwybyddu'r cwestiwn hwnnw."

    Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Senedd
  7. 'Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymddiheuro'wedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru, wrth siarad am roddion Vaughan Gething gan Dauson Environmental Group: “Mae'n rhaid eich bod chi'n gwybod fod hyn yn anghywir, ac mae'n rhaid eich bod chi'n difaru derbyn yr arian.

    "Dyw hi ddim yn rhy hwyr i roi'r gorau i guddio y tu ôl i'r rheolaut. Dyw hi ddim yn rhy hwyr i ymddiheuro.

    “Rwy’n difaru’n fawr ei fod wedi dod i hyn.”

    Heledd FychanFfynhonnell y llun, Senedd
  8. Dicter fod Gething wedi gorfod methu digwyddiad D-Daywedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Fe wnaeth AS Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson, ymosod ar y Ceidwadwyr am gynnal y bleidlais ar yr un diwrnod â choffau D-Day.

    Dywedodd na fyddai'r Ceidwadwyr "yn cael maddeuant" am achosi i'r prif weinidog fethu digwyddiad yn Portsmouth heddiw.

    "Yr hyn rydych chi wedi'i wneud heddiw yw rhoi ffocws fan hyn.

    "Rydych chi wedi atal pobl fel fi rhag cael eu cynrychioli gan y prif weinidog i lawr yn Portsmouth."

    Joyce WatsonFfynhonnell y llun, Senedd
  9. 'Mae'n rhaid i'r prif weinidog wneud y peth iawn'wedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae cyn-arweinydd a chyn-brif chwip y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, Paul Davies, yn cyfeirio at ei ymddiswyddiad ef yn 2021, wedi i ymchwiliad ddod i'r casgliad ei fod wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad Covid-19.

    "Fe wnes i'r peth iawn, nawr mae'n rhaid i'r prif weinidog wneud y peth iawn," meddai.

    Paul Davies
  10. Jane Hutt yn cysuro Gethingwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Cafodd Mr Gething ei gysuro gan y prif chwip, Jane Hutt.

    GethingFfynhonnell y llun, Senedd
  11. Gething yn ddagreuolwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae'r prif weinidog yn ddagreuol wrth wrando ar gyfraniad Ms Howells.

    Gething yn ddagreuolFfynhonnell y llun, Senedd
  12. 'Vaughan Gething wedi'i ethol yn ddemocrataidd'wedi ei gyhoeddi 16:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae Vikki Howells, AS Cwm Cynon a chadeirydd y grŵp Llafur, yn cyfeirio at yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.

    “Nid yw’n syndod,” meddai, y byddai'r Ceidwadwyr “yn gwneud unrhyw beth, unrhyw beth o gwbl, i geisio symud y chwyddwydr o’u record eu hunain o fethiant enbyd".

    "Vaughan Gething yw arweinydd Llafur Cymru, sydd wedi'i ethol yn ddemocrataidd.

    "Llafur Cymru yw'r blaid lywodraethol sy'n cael ei hethol yn ddemocrataidd."

    Dywedodd fod llywodraeth Mr Gething wedi bod yn "cyflawni" dros bobl Cymru.

    “Rwy’n credu y byddai’n gywilydd pe bai’r gimic hwn o gynnig Torïaidd, sydd ddim yn rhwymol, yn cael ei ddefnyddio i wyrdroi democratiaeth,” meddai.

    Cafwyd curo’r byrddau ar feinciau Llafur wrth iddi orffen ei haraith.

    Vikki HowellsFfynhonnell y llun, Senedd
  13. 'Diwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd'wedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    “Mae heddiw yn ddiwrnod difrifol iawn yn hanes y Senedd,” meddai Rhun ap Iorwerth.

    Mae'n rhestru rhai o egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan, megis gweithredu er lles y cyhoedd yn unig.

    Mae arweinydd Plaid Cymru yn cwestiynu a oedd er budd y cyhoedd i Mr Gething gymryd yr arian.

    "Dwi’n credu nad ydyn nhw’n dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer swydd y prif weinidog," meddai.

    "Rhaid i ni fod yn wahanol i San Steffan, nid yn unig mewn geiriau, ond gweithredoedd hefyd."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Senedd
  14. Y bleidlais i anfon 'neges arwyddocaol' i Gethingwedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae Andrew RT Davies yn dweud wrth y Senedd hefyd y byddai "y rhan fwyaf o bobl resymol yn amau ​​beth oedd yn cael ei sicrhau" gan y rhodd o £200,000 gan Dauson Environmental Group.

    Mae’n codi’r ddadl ynghylch y neges destun a ddatgelwyd gan Mr Gething, lle dywedodd ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs grŵp yn ystod y pandemig, a gwadiad Hannah Blythyn iddi ei rhyddhau.

    Dywedodd Mr Davies y dylai'r prif weinidog gyflwyno'r dystiolaeth mai Ms Blythyn oedd wedi rhyddhau y neges destun yn gyhoeddus.

    Dywedodd efallai nad yw'r cynnig yn rhwymo Mr Gething ond y byddai'n anfon "neges arwyddocaol".

  15. 'Crebwyll, tryloywder a gonestrwydd'wedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Wrth gyflwyno'r ddadl, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, fod y ddadl yn ymwneud â'r hyn y mae Mr Gething "wedi'i wneud yn ystod ei gyfnod fel prif weinidog, ac yn yr ymgyrch" dros arweinyddiaeth Llafur Cymru.

    "Mae hyn yn ymwneud â chrebwyll, tryloywder a gonestrwydd," meddai.

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Senedd
  16. 'Sefyllfa'r prif weinidog yn edrych yn fregus iawn'wedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Ddoe fe ddywedodd Vaughan Gething ei fod yn hyderus o ennill y bleidlais o hyder.

    Ond gyda dau o'i aelodau yn sâl ac yn annhebygol o bleidleisio, mae sefyllfa'r prif weinidog yn edrych yn fregus iawn.

    Er mae'n glir waeth beth fydd y canlyniad, nad yw Vaughan Gething yn bwriadu ildio'r awenau

    Ac mae'r esgusodion eisoes yn cael eu gwyntyllu - gimic yw'r bleidlais, nid dyma flaenoriaeth pobl a dyw'r bleidlais ddim yn ei orfodi i ymddiswyddo.

    Ond parhau fydd y pwysau gan y gwrthbleidiau wedi'r bleidlais, ac mae Plaid Cymru eisoes yn ei gyhuddo o drin y Senedd â dirmyg.

    Efallai yn bwysicach fydd ymateb ei blaid ei hun - mae rhai ymgeiswyr Llafur wedi dweud bod problemau Vaughan Gething yn codi ar y stepen drws yn ystod yr ymgyrch.

    Faint o bryder yw hynny iddyn nhw?

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Gwyliwch y ddadl yn fyw uchodwedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae'r ddadl cyn y bleidlais o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething wrthi'n dechrau yn y Senedd.

    Gallwch wylio'r cyfan yn fyw trwy glicio ar yr eicon chwarae uchod.

  18. Beth mae'r gwrthbleidiau wedi'i ddweud?wedi ei gyhoeddi 15:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, nad oedd "yn bersonol wedi cael cais ynghylch paru", ond bod trafodaethau wedi bod rhwng rheolwyr ar y mater.

    Ychwanegodd na fyddai ei blaid yn paru gan nad oedd hynny'n addas ar bleidlais diffyg hyder.

    Dywedodd y byddai "pob un o'n 16 aelod yn pleidleisio ar ddiwedd y dydd heddiw" a'i fod yn "gobeithio y byddai pob plaid arall yn gallu sicrhau bod eu haelodau'n pleidleisio un ai yn y siambr neu'r system hybrid".

    "Peidiwch anghofio bod gyda ni system hybrid felly os oes rhywun yn sâl mae'n bosib pleidleisio o bell - does dim rhaid bod yn y siambr."

    Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod y canlyniad "i fyny i Lafur".

    "Oes 'na aelodau Llafur sy'n brwydro gyda'u cydwybod? Yn sicr, 'da ni'n gwybod bod rhai."

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Fydd dau aelod o'r gwrthbleidiau yn atal eu pleidlais nhw?wedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Soniodd Vikki Howells y bore 'ma am y broses o baru aelodau gyda'r pleidiau eraill - cytundeb gwirfoddol sy'n golygu na fydd aelod o wrthblaid yn pleidleisio os oes aelod o'r brif blaid yn methu â bod yn bresennol.

    Mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthod cytundeb o'r fath heddiw.

    Dywedodd Ms Howells, AS Cwm Cynon: "Hoffwn ddweud ein bod ni fel grŵp Llafur wedi paru yn gyson gyda'r pleidiau eraill pob tro maent wedi gofyn.

    "Dyma'r traddodiad hiraf mewn gwleidyddiaeth ac mae'r ffaith eu bod nhw [y gwrthbleidiau] yn gwrthod gwneud hyn heddiw yn dangos faint o gimic ydy'r bleidlais a'r bwriad yw tanseilio ein democratiaeth."

    HowellsFfynhonnell y llun, Llafur
  20. Fydd Gething yn ymddiswyddo pe bai'n colli?wedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Cadeirydd y grŵp ASau Llafur, Vikki Howells, ddatgelodd y bore ma fod dau aelod yn sâl ac felly ddim yn gallu pleidleisio.

    Yn ei chyfweliad ar BBC Radio Wales dywedodd Ms Howells na fyddai Vaughan Gething yn ymddiswyddo petai'n colli.

    Galwodd y bleidlais yn "gimic" a dweud mai'r "etholwyr sy'n penderfynu pwy sydd yn y Senedd".

    Ond bydd y pwysau ar y Prif Weinidog yn fwy nag erioed pe bai'n colli'r bleidlais yma.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Dim ond 77 diwrnod yn ôl y daeth Vaughan Gething yn brif weinidog