Crynodeb

  • Mae cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething wedi cael ei basio yn y Senedd, o 29 pleidlais i 27

  • Roedd angen cefnogaeth pob aelod Llafur er mwyn bod yn sicr na fydd y cynnig yn pasio

  • Dywedodd Llafur fod dau AS - Hannah Blythyn a Lee Waters - yn sâl ac yn absennol o'r gwaith

  • Dywedodd Vaughan Gething yn dilyn y bleidlais na fydd yn ymddiswyddo, ond mae'r gwrthbleidiau wedi galw arno i fynd

  • Roedd y prif weinidog yn ddagreuol wrth wrando ar gyfraniadau aelodau yn ystod y ddadl ar y pwnc

  1. Pwy sy'n absennol i Lafur?wedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Y gred yw mai'r ddau AS sy'n sâl yw Hannah Blythyn, a gafodd ei diswyddo o Lywodraeth Cymru gan Vaughan Gething am ryddhau gwybodaeth - rhywbeth y mae hi'n ei wadu - a Lee Waters, y cyn-weinidog trafnidiaeth.

    Doedd yr un o'r ddau yn siambr y Senedd ddydd Mawrth.

    Mae'n bosib i aelodau bleidleisio o bell ar-lein, ond dyw hi ddim yn glir a ydyn nhw am wneud hynny.

    Does gan yr un o'r ddau bleidlais procsi - sy'n cael ei ganiatáu pan fydd absenoldeb hir dymor.

    Blythyn a WatersFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  2. Beth yw'r sefyllfa heddiw?wedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Y Ceidwadwyr wnaeth y cynnig am y bleidlais yn dilyn wythnosau o feirniadaeth o Vaughan Gething, yn cynnwys gan rai o fewn Llafur.

    Mae disgwyl i'r ddadl yn y Senedd ddechrau am 16:00, ac yna pleidlais am tua 18:00.

    Mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond does dim digon o aelodau i ennill pleidlais petai pob aelod Llafur yn pleidleisio.

    Ond petai aelod Llafur yn mynd yn erbyn y blaid, ymatal pleidlais neu fethu â phleidleisio, fe allai cynnig y Ceidwadwyr lwyddo.

    SeneddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  3. Aniddigrwydd hefyd am negeseuon a diswyddiad gweinidogwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Mae'r prif weinidog hefyd wedi gorfod amddiffyn neges a yrrodd yn ystod y pandemig, tra'n weinidog iechyd, yn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn dileu negeseuon testun o grŵp tecstio.

    Aeth ati i ddiswyddo Hannah Blythyn, gan honni taw hi oedd wedi rhannu'r wybodaeth yna gyda gwefan Nation.Cymru.

    Mae hi'n gwadu hynny, a dydy hi heb siarad yn y Senedd ers hynny.

    Mae'r gwrthbleidiau wedi mynnu tystiolaeth, ond mae Mr Gething wedi gwrthod gwneud hynny.

  4. Pam bod Vaughan Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder?wedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Enillodd Vaughan Gething arweinyddiaeth Llafur Cymru ym mis Mawrth ond roedd yna gysgod dros ei ymgyrch yn sgil rhodd o £200,000 gan gwmni Dauson Environmental Group.

    Perchennog y cwmni yw David John Neal, sydd wedi ei gael yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.

    Daeth i'r amlwg bod Mr Gething wedi lobïo ar ran un o gwmnïau Mr Neal, cyn ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid y tro cyntaf yn 2018.

    Cadw'n dawel i raddau helaeth wnaeth ASau Llafur yn ystod yr ymgyrch, ond mae'n ymddangos bod dicter preifat yn codi i'r wyneb erbyn hyn.

    Fe alwodd un cyn-aelod o'r cabinet, Lee Waters, am ddychwelyd y rhodd i'r cwmni, ac mae'r Blaid Lafur wedi penderfynu rhoi'r arian dros ben at "achosion blaengar ehangach" yn hytrach na'i choffrau ei hun.

    Mae Mr Gething yn mynnu o'r cychwyn ei fod wedi dilyn y rheolau priodol wrth dderbyn yr arian.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 14:30 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mehefin

    Prynhawn da, a chroeso i'n llif byw arbennig wrth i'r Prif Weinidog Vaughan Gething wynebu pleidlais ar gynnig o ddiffyg hyder ynddo yn y Senedd.

    Mae'n edrych yn debygol y gallai golli'r bleidlais gan fod dau Aelod o'r Senedd Llafur yn sâl, medd y blaid.

    Gan fod yr un nifer o aelodau Llafur ag aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd, mae Mr Gething - sy'n brif weinidog ers 77 diwrnod yn unig - angen cefnogaeth pob aelod o'i blaid.

    Arhoswch gyda ni am y cyfan.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images