Crynodeb
Gwaith clirio yn parhau ddydd Llun wedi difrod Storm Bert
Pobl yn sôn am eu dicter ar ôl yr hyn maen nhw wedi ei ddisgrifio yw diffyg paratoi
Ffermwr o Lanarmon Dyffryn Ceiriog yn dweud bod ei deulu "yn lwcus o fod yn fyw"
Yng Nghwmtyleri, pobl wedi eu symud o gartrefi yn dilyn tirlithriad. Y llywodraeth wedi cadarnhau bod y tirlithriad yno wedi dod o domen lo uwchben yr ardal
AS Pontypridd yn galw am gymorth gan y llywodraeth i bobl yr ardal
Nifer o drenau wedi'u canslo a rhybuddion llifogydd yn parhau
Y Prif Weinidog yn ymweld â Phontypridd ac yn dweud bod trafodaethau ar y gweill am roi arian brys i gymunedau sydd wedi cael eu heffeithio
Y diweddaraf yn fyw
Maes Eisteddfod Genedlaethol 2024 o dan ddŵrwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
'Rydym yn trio cadw mor bositif ag y gallwn ni'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
12:22 GMT 25 Tachwedd 2024Mae Nick Stephanou, 28, wedi byw ar Stryd Sion ym Mhontypridd ers dwy flynedd bellach.
Wrth siarad â'r BBC dywedodd: "Tua 07:30 fe wnaeth ein cymdogion ein deffro yn dweud wrthym ni i symud ein ceir am fod glaw yn cychwyn dod i mewn.
"Ro'n ni mewn sioc achos rydym wedi cofrestru gyda'r rhybudd llifogydd a daeth dim byd o hwnna tan tua hanner ffordd i ni adael y tŷ.
"Gwnaethom ni drio achub cymaint o bethau â phosib. Roedd pawb yn helpu ei gilydd, roedd pobl nad oedd o'r ardal wedi dod i helpu."
Dywedodd iddo glywed am Storm Dennis yn 2020 ond "ei fod yn rhywbeth gwahanol pan rydych yn ei weld e mor agos.
"Rydym wedi gorfod taflu 'chydig o ddodrefn, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd trwyddo yn ystod y dyddiau nesaf.
"Rydym yn trio rheoli'r hyn allwn ni, a brwydro trwyddo."
Achub dau berson a chi yn y gorllewinwedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
12:18 GMT 25 Tachwedd 2024Mae gwasanaeth tân ac achub canol a gorllewin Cymru wedi achub dau berson a chi yn Henllan.
Fe wnaeth y criwiau achub ymateb wedi i ddau berson ac un ci fynd yn sownd mewn cae wedi gorlifo.
Ar ôl sawl tro o geisio achub eu hunain, fe wnaethon nhw ffonio 999 pan oedd yn tywyllu.
Fe wnaeth y criw lwyddo i achub y ddau, a'r ci, gan adael y safle am 19:17 nos Sadwrn.
Mwd yn drwchus ar strydoedd Cwmtyleriwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
12:13 GMT 25 Tachwedd 2024Mae'r awyr yn las a'r glaw wedi stopio uwchben Cwmtyleri, ond mae'r trigolion bellach yn gallu gweld y difrod yn llawn gan gynnwys y mwd ar y strydoedd.
Ymateb pobl leol Cwmtyleri wedi'r tirlithriadwedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
12:08 GMT 25 Tachwedd 2024Dywedodd Rob Scholes, sy'n byw ar waelod y bryn fod y digwyddiad wedi ei ysgwyd.
"Roedd yn frawychus. Roedd yn syndod pa mor sydyn ddigwyddodd y cyfan. Roedd yn bryderus gweld cymaint o sbwriel yn dod i lawr, ond roedd y frigâd dan yn wych.
Dywedodd iddo dreulio'r noson yn nhŷ ei ferch ym Mlaenau gan ddweud ei fod yn "lwcus".
Aeth ymlaen i ddweud nad oedd unrhyw rybudd: "'Nes i jyst gweld rhai o'r cymdogion yn trio mynd i ffwrdd" gan ddweud fod y trirlithriad yn bwerus.
"Dwi wedi byw yma ers 17 o flynyddoedd, y tro diwethaf i mi weld rhywbeth tebyg oedd pedair blynedd yn ôl gyda Storm Dennis, ond doedd e ddim mor wael â hyn."
Tro pedol ar gynllun dadleuol bod 10% o dir ffermio yn goedwedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
12:05 GMT 25 Tachwedd 2024Newydd dorriMae Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau dadleuol oedd yn gofyn i ffermwyr gael coed ar o leiaf 10% o’u tir yn gyfnewid am gyllid.
Fe arweiniodd y cynllun gwreiddiol at brotestiadau chwyrn gan ffermwyr.
Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, amlinelliad o’r cynllun newydd, gan ddweud ei bod hi’n “amlwg bod angen newidiadau".
Y manylion yma.
Y sefyllfa y tu hwnt i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:57 GMT 25 Tachwedd 2024Mae pobl Sir Northampton hefyd yn dioddef heddiw gyda rhybudd o lifogydd difrifol mewn grym yno.
Mae heddlu'r ardal wedi rhybuddio yn erbyn unrhyw deithio diangen ac i “beidio â gyrru trwy ddŵr o ddyfnder”.
Mewn post ar X gofynnodd yr heddlu i drigolion beidio â ffonio 999 oni bai bod "risg i fywyd".
Yn ogystal â’r rhybudd yn Northampton, mae bron i 200 o rybuddion llifogydd a rhybuddion ‘byddwch yn barod’ am lifogydd yn Lloegr.
Mae ffyrdd yng nghanol tref Chippenham wedi cau ar ôl i Afon Avon orlifo ac mae llifogydd sylweddol o amgylch Martock ac ardaloedd eraill yng Ngwlad yr Haf.
Mae maer Lydney, yn Sir Caerloyw, wedi dweud bod busnesau yno wedi cael eu "troi'n afonydd" ac yn Sir Rhydychen mae saith ysgol wedi cau.
Yng Ngogledd Iwerddon, mae trigolion mewn un ardal ger yr arfordir yn Sir Antrim yn dweud eu bod wedi eu ‘torri i ffwrdd’ o drefi cyfagos yn dilyn dau dirlithriad.
Y sefyllfa yn Nantgarw ger Caerffiliwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:49 GMT 25 Tachwedd 2024Mae'r lluniau yna wedi cael eu tynnu gan David Kyle o Nantgarw ac fel hyn roedd y sefyllfa yno dros y penwythnos wedi Storm Bert
Ein teulu yn 'lwcus eu bod yn fyw'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:42 GMT 25 Tachwedd 2024Dywed Emyr Owens bod ei deulu - y rhai a gafodd eu hachub o Lanarmon Dyffryn Ceiriog ddydd Sadwrn "yn lwcus eu bod yn fyw".
Am oddeutu 14:00 fe chwalodd y tirlithriad ffermdy Sarphle.
Mae dau dŷ ar y safle - yn yr un a chwalwyd roedd Lleucu, y ferch-yng-nghyfraith, a phump o blant.
"Gallwn fod wedi colli'r pump," meddai Emyr Owens sy'n byw drws nesaf i'r cartref a chwalwyd.
Cefnogaeth yn 'eithriadol o bwysig' i fusnesau'r ardalwedi ei gyhoeddi 11:35 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:35 GMT 25 Tachwedd 2024Heledd Fychan AS sy'n disgrifio'r sefyllfa 'dorcalonnus' yn yr ardal.
'Syndod o weld y llifogydd eto'wedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:28 GMT 25 Tachwedd 2024“Des i lawr tua 21:30 gan wybod y bydde yna ddifrod ac es i’n syth draw at Clwb y Bont, sydd wedi diodde dipyn dros y blynydde, yn enwedig pedair mlynedd yn ôl gyda Storm Dennis," meddai Jayne Rees sy'n byw yn lleol.
"Roedd e’n hollol amhosib i fynd yn agos at y drysau. Roedd rhai o’r pwyllgor wedi bod lawr y noson cyn hynny yn rhoi llifddorau lan, ond roedd y dŵr yn dod lan y lôn – os chi’n gyfarwydd â Chlwb y Bont chi’n gwybod bod y lôn yn mynd ar ei lawr. Gerddes i draw i Mill Street, ac roedd e’n syndod i fi bod siopau yno hefyd yn diodde oherwydd y llifogydd.”
Ddydd Sul dywedodd Clwb y Bont y bydden nhw'n asesu unrhyw ddifrod ddydd Llun ond roedden nhw'n gobiethio bod y gatiau wedi bod yn effeithiol ac atal unrhwy ddifrod.
Clwb y Bont - 'Diolch am y gatiau atal dŵr'wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:22 GMT 25 Tachwedd 2024Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Osian Rowlands, is-gadeirydd Clwb y Bont "bod rhaid gofyn y cwestiwn pam fod hwn [llifogydd] yn digwydd eto mor fuan?"
Dywedodd bod y staff wedi gosod y giatiau atal dŵr o flaen y clwb nos Sadwrn ac mai dyna'r rheswm nad oes cymaint o ddifrod i Glwb y Bont tro yma.
"Ni’n ffodus ffodus iawn… does dim difrod a diolch diolch byth bod gatiau i atal y dŵr wedi eu rhoi fyny a bod nhw wedi 'neud eu gwaith oherwydd hebddyn nhw byddwn ni siŵr o fod yn edrych ar bedwar, pum troedfedd o ddŵr ac mewn sefyllfa wahanol iawn."
Dywedodd fod y gymuned wedi dod at ei gilydd i helpu a bod hynny yn "braf ond yn drist iawn bod hynny'n gorfod digwydd yn fwyfwy aml y dyddiau yma".
Y Marian, Dolgellau, o dan ddŵrwedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:12 GMT 25 Tachwedd 2024Roedd y glaw mawr yn Nolgellau dros y penwythnos yn golygu bod y Clwb Rygbi wedi ei amgylchynu gan ddŵr. Roedd y caeau rygbi a phêl-droed ar Y Marian Mawr hefyd o dan ddŵr.
Dyma ddelweddau gan y ffotograffydd lleol, Rod Davies.
Prif Weinidog: 'Trafodaeth am roi arian brys i gymunedau'wedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
11:04 GMT 25 Tachwedd 2024Dywed y Prif Weinidog Eluned Morgan bod effaith Storm Bert yn "gwbl ofnadwy".
"Mae difrifoldeb a pha mor aml y mae'r digwyddiadau yma yn rhywbeth sy'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono," meddai gan ychwanegu bod cannoedd o filiynau o bunnau wedi cael eu gwario ar amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd bod trafodaethau ar y gweill am roi arian brys i gymunedau sydd wedi cael eu heffeithio.
'Dim rhybudd' - Cyfoeth Naturiol Cymru i ymchwiliowedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:52 GMT 25 Tachwedd 2024Dywed Sian Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru y byddan nhw'n ymchwilio i adroddiadau nad oedd y rhybuddion llifogydd yn ddigonol.
Mae nifer wedi dweud na chawson nhw ddigon o amser i ymateb.
Dywedodd un person wrth y BBC bod e wedi derbyn rhybudd am 07:30 ac yna o fewn awr roedd y lle wedi gorlifo'n llwyr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu pob digwyddiad ac "fe fyddwn yn ymchwilio i adroddiadau o wahanol lefydd nad oedd yna rybudd digonol," medd Ms Williams.
Difrod i bentref Cwmtyleriwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:41 GMT 25 Tachwedd 2024Y bore 'ma daeth y difrod i bentref Cwmtyleri i'r amlwg, gyda glaw mawr dros nos yn cario tir a budreddi i lawr y strydoedd.
Rhybudd am drafferthion ar y rheilffyrddwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:36 GMT 25 Tachwedd 2024Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud bod nifer o'u gwasanaethau yn wynebu oedi ddydd Llun.
Y cyngor yw i deithwyr wirio y manylion diweddaraf am drenau.
"Roedd fy nhrên i o Gaerdydd i Fangor wedi ei ganslo bore 'ma a bu'n rhaid i mi fynd mewn car," meddai un myfyriwr wrth siarad â Cymru Fyw.
Mae eraill ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod yn cael trafferth teithio o Gaerdydd i Lundain.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod gwasanaethau rhwng Radyr a Threherbert, Merthyr Tudful a Radyr a Llanhilleth a Glyn Ebwy wedi eu gohirio oherwydd y llifogydd.
Mae disgwyl i'r rhain eu gohirio am weddill y dydd. Mae gwasanaethau rhwng Amwythig a Chasnewydd wedi eu gohirio.
Mae disgwyl i'r rhain barhau nes 12:00. Oherwydd tirlithriad, mae gwasanaethau Y Fenni a Henffordd wedi eu gohirio nes 11:00.
Mae 'na oedi i wasanaethau rhwng Platfform 1 Aberdâr a Radur oherwydd llifogydd.
Mae'r holl wybodaeth ddiweddar ynghylch y trafferthion i'w gweld yma. , dolen allanol
Dinistr Cwmtyleri yn dod i'r amlwgwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:28 GMT 25 Tachwedd 2024Ein gohebydd Alun Thomas sydd wedi bod yng Nghwmtyleri y bore 'ma i weld y dinistr.
Mae nifer o deuluoedd wedi gorfod symud o'u cartrefi yn dilyn tirlithriad dros nos.
Llanarmon Dyffryn Ceiriog: 'Gallwn fod wedi colli pump o blant'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:16 GMT 25 Tachwedd 2024Bu'n rhaid achub deg o bobl o fferm yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ddydd Sadwrn wedi tirlithriad sydyn.
Mae'r teulu bellach yn cael lloches yn y pentref ac yn diolch i'r gymuned leol am bob neges, bwyd, dillad a chymorth.
Dywedodd y ffermwr, Emyr Owens, a oedd yn y tŷ drws nesaf bod y difrod yn ddegau o filoedd o bunnau ac yn ei ddagrau dywedodd y gallai ei fod wedi "colli pump o'i wyrion bach".
Rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grymwedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
10:07 GMT 25 Tachwedd 2024Mae 10 o rybuddion am lifogydd, dolen allanol mewn grym am 10:00 fore Llun.
Mae dros 30 o ysgolion yn siroedd y de ar gau ddydd Llun yn dilyn y llifogydd - ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Powys a Mynwy.