Ceidwadwyr: 'Angen atebion gan y llywodraeth'wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
Wrth ymateb i Storm Bert dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies: "Mae'r lluniau ni wedi'u gweld yn ofnadwy ac rwy'n diolch i'r timau sydd wedi bod yn cynorthwyo busnesau a thrigolion.
"Yn anffodus bu farw un dyn yng ngogledd Cymru.
"Mae'n rhaid gofyn pam mai rhybudd melyn yn unig a roddwyd pan roedd y rhagolygon mor ddychrynllyd.
"Hefyd o weld ardaloedd fel Pontypridd mae'n rhaid gofyn pam nad oes gwersi wedi'u dysgu.
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu atebion a chyllid i ddelio gydag efaith y llifogydd a sicrhau ein bod wedi paratoi'n well ar gyfer y tro nesaf pan fydd rhwybeth fel hyn yn digwydd eto."

Daeth cadarnhad ddydd Sul bod corff wedi ei ganfod wedi i'r heddlu apelio am help i ddod o hyd i Brian Perry