Crynodeb

  1. 'Plant sy'n siapio defnydd y Gymraeg'wedi ei gyhoeddi 11:51 Amser Safonol Greenwich+1

    Mewn sgwrs am gynllun strategol y Gymraeg dywedodd y Comisiynydd Efa Gruffydd Jones mai “plant a phobl ifanc sy’n siapio defnydd y Gymraeg” yn y dyfodol.

    Esboniodd bod angen sicrhau bod yr iaith yn cael ei defnyddio “wrth symud ymlaen i addysg bellach a’r byd gwaith.

    “Mae angen i ni greu amodau lle gall bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.

    “Rhaid i blant a phobl ifanc gael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg tu hwnt i’r ‘stafell ddosbarth - mewn chwaraeon, diwylliant a bywyd cymunedol.”

    Y panel yn y sgwrs am gynllun strategol y Gymraeg
    Disgrifiad o’r llun,

    Y panel yn y sgwrs am gynllun strategol y Gymraeg

  2. Tri o newyddiadurwyr ITV yn dathluwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1

    Siôn Jenkins, Nest Jenkins a Carwyn Eckley
    Disgrifiad o’r llun,

    Siôn Jenkins, Nest Jenkins a Carwyn Eckley

    Roedd cyfle i dri o newyddiadurwyr ITV Cymru ddathlu ar ôl seremoni'r Orsedd yn y Pafiliwn.

    Roedd dau yn derbyn y Wisg Wen heddiw sef Nest Jenkins, enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn llynedd, a Carwyn Eckley, enillydd Y Gadair Eisteddfod Pontypridd.

    Meddai Nest: "Roeddwn wedi cael y wisg werdd o'r blaen ond mae cael y Wisg Wen yn binacl bod yn yr Orsedd.

    "Mae cymaint wedi gweithio mor galed ar gyfer y seremoni ac aeth pethau mor slic."

    Ychwanegodd Carwyn: "Mae'r ddau ohonon ni'n gweithio efo'n gilydd felly roedd o'n braf cael bod yn y gwasanaeth efo Nest."

    Fe ymunon nhw â'u cydweithiwr Siôn Jenkins yn yr Orsedd, wedi iddo gael ei anrhydeddu ar ôl ennill Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn 2022.

  3. Dafydd Iwan yn 'llawn emosiwn' ar ôl perfformio ar Lwyfan y Maes gyda'i fand am y tro olafwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1

    Y dorf

    Oeddech chi ymysg y cannoedd o bobl ddaeth i wylio gig olaf Dafydd Iwan ar Lwyfan y Maes brynhawn Sul?

    Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd y canwr y bydd yn chwarae gyda'i fand am y tro olaf mewn gŵyl yng Ngwynedd yn hwyrach yn yr haf.

    Meddai wrth Cymru Fyw ar y pryd: "Mae'n rhaid i bawb gydnabod bod yna adeg yn dod i weindio lawr ac i gymryd llai o straen."

    Bydd Dafydd Iwan yn perfformio yng Ngŵyl Llanuwchllyn ar 23 Awst - diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 82 oed.

    Gwyliwch ei ymateb wedi'r perfformiad brynhawn ddoe isod.

  4. Sut i wylio a gwrando ar yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1

    Os na fyddwch yn teithio i Wrecsam, mae sawl ffordd o fwynhau'r Eisteddfod eleni.

    Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen yma trwy wasgu'r botwm 'Gwrando nawr'. Yn ogystal â holl hwyl y Maes ac uchafbwyntiau'r cystadlu, cewch hefyd glywed rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y llwyfannau cerddorol.

    Mae darlledu'r dydd hefyd wedi dechrau ar S4C:

    • Gwyliwch brif rhaglen S4C yn fyw ar iPlayer neu Clic
    • Hawliwch Sedd yn y Pafiliwn er mwyn gwylio'r cystadlu yn ddi-dor ar wasanaeth Clic, dolen allanol

    Wrth i ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi, bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi fideos ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.

    Peidiwch â cholli eiliad!

  5. Yr Archdderwydd Mererid Hopwood yn galw am heddwchwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1

    Mererid Hopwood

    Roedd heddwch yn ganolog i sylwadau'r Archdderwydd, Mererid Hopwood, wrth iddi annerch y Pafiliwn yn seremoni urddo aelodau newydd i'r Orsedd fore Llun.

    Wrth agor y seremoni, dywedodd: "Nid cwestiwn arferol yw'r cwestiwn sy'n agor ein gorsedd ni.

    "Pan ddaw'r gri 'a oes heddwch', nid ateb 'oes' ac 'nac oes' sydd gyda ni, ond ymateb, a'r ymateb hwnnw'n ddeheuad taer.

    "Ymbil, neu yng ngeiriau Iolo, gor-ymbil am heddwch ydyn ni, ac eleni gyfeillion annwyl, mae'r ymbil hwnnw hyd yn oed yn fwy taer na'r arfer."

    Ychwanegodd: "Gallwn i ganolbwyntio heddiw ar groeso twym galon Wrecsam ac ar amrywiaeth rhyfeddol rhaglen yr Eisteddfod hon.

    "Ond wrth baratoi, yr hyn oedd yn mynnu ymwthio i'n meddwl i oedd llun o Robyn McBride yn cario cleddyf yr Orsedd.

    "Cleddyf sydd yn anymarferoldeb ei bwysau, ac yn y wain sy'n wastadol gorchuddio ei lafn, yn symbol o heddwch.

    "Na'r gair sy'n gwasgu heddiw, a'r cwestiwn a oes heddwch ddim yn gofyn am ateb o 'nac oes' neu 'oes', ond yn hytrach yn gofyn am ymateb.

    "Ma'n ymateb ni bob tro, yn ddeheuad gwaelod y galon - heddwch - ry' ni wedi ymbil am heddwch yn sŵn rhyfel ar hyd y canrifoedd.

    Ychwanegodd mai'r "gamp yw newid y naratif a gweud y stori arall, yr un sydd yn siwtio ni - laweroedd cyffredin y byd, ac nid yr ychydig grymus sy'n pesgu ar elw rhyfelgarwch, y stori sy'n dweud digon yw digon ffrindiau."

  6. Anrhydeddu Tony Thomas ar ôl gweithio gyda'r Eisteddfod ers 1984wedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Tony Thomas

    Roedd Tony Thomas o Lanybydder ymysg yr unigolion gafodd eu anrhydeddu gan Orsedd Cymru bore heddiw.

    Mae wedi bod yn gweithio gyda'r Eisteddfod ers 1984 ac erbyn hyn yn Swyddog Technegol.

    Tony sydd yn gyfrifol am osod y llythrennau mawr eiconig ar faes yr Eisteddfod pob blwyddyn yn ogystal â nifer o nodweddion adnabyddus eraill y maes.

    Llongyfarchiadau Tony!

    Tony o flaen y llythrennau
    Disgrifiad o’r llun,

    Tony sy'n gyfrifol am osod y llythrennau mawr eiconig ar faes yr Eisteddfod

    Tony a'i deulu a'i ffrindiau
    Disgrifiad o’r llun,

    Tony gyda'i deulu a'i ffrindiau yn dilyn y seremoni

  7. Lluniau: Seremoni urddo aelodau newydd i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1

    Manon Ogwen Parry
    Disgrifiad o’r llun,

    Manon Ogwen Parry yn cael ei derbyn i'r Orsedd yn y wisg wen

    Owain Rowlands
    Disgrifiad o’r llun,

    Owain Rowlands o Landelio yn cael ei urddo, a'i enw barddol ydi Owain Cadog

    Carwyn Eckley
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prifardd Carwyn Eckley yn cael ei urddo i'r Orsedd

    Eurgain Haf
    Disgrifiad o’r llun,

    Eurgain Haf, enillydd y Fedal Rhyddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

  8. Sefyllfa gwerthu llyfrau plant yng Nghymru yn 'argyfyngus'wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r sefyllfa o ran prynu a gwerthu llyfrau plant yn "ddifrifol" ac yn "argyfyngus", yn ôl pennaeth cyhoeddi Gwasg y Lolfa.

    Dywedodd Lefi Gruffudd, sydd â stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ei fod yn gobeithio y bydd gwerthiant a diddordeb mewn llyfrau Cymraeg yn cynyddu, ond mai dyma'r sefyllfa waethaf iddo ei gweld "erioed".

    Mae'n galw am ragor o gymorth gan y llywodraeth a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darllen i fynd i'r afael â'r "argyfwng o ran llythrennedd plant".

    Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ariannu amrywiaeth o brosiectau llythrennedd i gefnogi ac annog teuluoedd i fwynhau darllen gyda'i gilydd.

    Darllenwch fwy yma.

    Disgrifiad,

    Lefi Gruffydd yn siarad â Garry Owen ar faes yr Eisteddfod

  9. Gwyliwch fideo o seremoni'r Orsedd 100 mlynedd yn ôlwedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1

    Y dyddiau yma mae'n rhaid i aelodau yr Orsedd allu siarad Cymraeg, ond ganrif yn ôl, roedd y meini prawf yn wahanol.

    Yn Eisteddfod Pwllheli yn 1925 cafodd y Frenhines Maria o Romania ei derbyn i'r Orsedd, fel Mari Gwalia, tra'i bod ar ei gwyliau yng Nghymru.

    Yn rhyfeddol mae fideo'n bodoli o'r seremoni honno'n 1925, gallwch ei wylio a darllen yr hanes yn llawn yma.

  10. 'Gwylio yn parhau' o ran y tywyddwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1

    Ac mae'r tywydd hefyd yn bwnc trafod yng nghynhadledd y wasg y bore.

    Fe wnaeth y prif weithredwr Betsan Moses ddweud fod y penwythnos agoriadol wedi bod yn “odidog” gyda’r meysydd parcio yn gweithio’n iawn a’r bysys gwennol yn mynd yn “dda iawn”.

    Fe gadarnhaodd bod gan yr Eisteddfod bolisi goleuadau traffig mewn lle – gwyrdd, oren a choch.

    “O ran y tywydd ma’r gwylio yn parhau.

    “Mae timoedd wedi bod allan ers 5 o’r gloch bore ma i sicrhau bod bob dim yn iawn a thîm o ran stondinwyr wedi bod o amgylch i gael sgyrsiau gyda nhw.

    “Does dim angen mynd o wyrdd i oren,” meddai.

    Mae rhybuddion tywydd yn eu lle mewn rhannau o ogledd Cymru wrth i storm Floris agosáu. Mwy yma.

    Llun o gynhadledd i'r wasg bore Llun
  11. Mererid Hopwood yn arwain seremoni'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae sŵn y gwynt i'w glywed yn y Pafiliwn wrth i Mererid Hopwood arwain seremoni i urddo aelodau newydd i Orsedd Cymru.

    Mererid Hopwood
  12. Cadi wrth ei bodd yn perfformio nos Sulwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1

    Bu degau o blant a phobl ifanc yr ardal yn rhan o sioe Y Stand ar y Maes nos Sul.

    Un o aelodau y cast ydi Cadi Glwys, sydd â chyswllt agos â'r ardal am mai ei thaid oedd Dai Davies, un o gyn-chwaraewyr Cymru a Wrecsam.

    Mae’n chware rhan Grace, syn breuddwydio am gael chware pêl-droed.

    Mae’r sioe yn dilyn ei pherthynas gyda’i rhieni a chefnogwyr eraill yn y stand. Pêl-droed yw ei hangerdd ai chariad cyntaf.

    Meddai: "Ges i lyfr gan Dat cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac yn front y llyfr 'naeth o lofnodi o a dweud ‘cofia fwynhau pob perfformiad’ achos oedd o isio ni gal rhywbeth i gofio fo ar ôl iddo fynd.

    "Felly mae’n fitting iawn rŵan bo’ fi’n deud hanes y clwb roedd o’n ei garu ar lwyfan.

    Wrth sôn am y sioe, dywedodd: “Roedd o’n gymaint o hwyl, oedd cael y côr a’r cast ‘di codi’r peth ac roedd y gynulleidfa’n ymateb mor ffab."

    Bydd y criw yn perfformio unwaith yn rhagor heno.

    Cadi Glwys
  13. Urddo Elainwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Elain Gwynedd ymysg yr unigolion gaiff ei hurddo heddiw, gan dderbyn y wisg werdd am radd yn y Gymraeg.

    Deugain mlynedd i heddiw, cafodd ei mam ei hurddo - enw barddol ei mam ydi Alwen Pennant, ac enw barddol Elain fydd Elain Pennant.

    Elain G
    Disgrifiad o’r llun,

    Elain Gwynedd o Ynys Mon

    Gwisgoedd
  14. Y Pafiliwn dan ei sangwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Digwyddiad cyntaf y dydd yn y Pafiliwn yw seremoni i anrhydeddu aelodau newydd o Orsedd Cymru.

    Mae'r seremoni yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn oherwydd y tywydd gwael.

    Seremoni'r Orsedd

    Dyma rai fydd yn cael eu hurddo heddiw, yn eu plith Carwyn Eckley (enillydd y Gadair llynedd) a Gwynfor Dafydd (enillydd y Goron llynedd).

    Seremoni'r Orsedd
  15. Sut mae cyrraedd y Maes?wedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1

    Os ydych yn bwriadu dod ar y trên, bydd angen teithio i orsaf Wrecsam Cyffredinol.

    Mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol yn ystod yr wythnos.

    Bydd hyn yn cynnwys 12 gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Mae gwybodaeth am fysus gwennol fydd yn eich cludo o'r orsaf drenau i'r Maes isod.

    Dod ar fws?

    Os yn teithio ar fws, mae ystod eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy'r dydd a gyda'r nos.

    Bydd gwasanaeth Traws Cymru T3 yn cludo teithwyr i'r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam.

    Mae gwasanaeth T3 yn cynnig taith uniongyrchol i'r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.

    Bysiau gwennol

    Os ydych yn y ddinas, bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas, a'r Maes o 08:00 tan 23:00.

    Bydd y bysiau'n cychwyn o'r safle bws gyferbyn â'r orsaf ac yn galw yn Arosfa 5, Canolfan Fysiau Wrecsam, cyn dilyn llwybr bws rhif 41 i'r stad ddiwydiannol.

    Teithio mewn car?

    Os ydych yn bwriadu cyrraedd yr Eisteddfod mewn car, cadwch lygad am arwyddion melyn yr 'Eisteddfod' er mwyn cyrraedd y maes.

    Cod Post y Maes yw LL13 9UR.

    Mae arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).

  16. 'Trio denu'r di-Gymraeg i'r Steddfod'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1

    Hefyd ar Dros Frecwast bore heddiw, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts fod y gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod wedi codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yn ardal Wrecsam.

    "Dwi’n meddwl yn yr ardal yma, yn amlwg da ni’n agos at y ffin yn fan hyn, efallai bod y nifer o siaradwyr Cymraeg ddim gymaint â mewn ardaloedd eraill o Gymru.

    "Felly llawer iawn o’r gwaith ‘da ni ‘di bod yn ‘neud ydy codi ymwybyddiaeth, dweud wrth bobl be yn union ydy’r Eisteddfod – bod o’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant ni a bod o’n cynnwys pawb.

    "A ‘da ni ‘di bod yn trio denu pobl falle sydd ddim yn siarad Cymraeg yn Wrecsam i ddod i’r Steddfod.

    "Mae’n gyfle i ni hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant ni yn yr ardal yma a dangos i bawb arall o Gymru be sydd gyda ni i'w gynnig.

    "Dwi’n meddwl bo’ pobl yn dweud ‘O Wrecsam - does dim llawer yn siarad Cymraeg yno.' Ond mae yna, ac mae’r Gymraeg yn fyw.”

    Llinos Roberts
  17. Cynllun tywydd gwael gan yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Betsan Moses

    Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses ar raglen Dros Frecwast ei bod hi'n hyderus y gallai'r Maes ymdopi â'r tywydd garw.

    "Mae gennym ni gynllun tywydd gwael, ac mae'n weithredol ar draws y cyfnod, ac felly mae gennym ni gyfarfodydd yn digwydd pob rhyw dair awr yn gwirio ac yn twtio.

    "Dwi newydd adael cyfarfod gyda'r gwasanaethau brys ac mae pawb yn hyderus.

    "Dyw'r storm ddim wedi cyrraedd ni, mae'n dechrau agor mas ac mae hi fod yn hyfryd erbyn amser cinio.

    Ychwanegodd fod y trefniadau teithio i ac o'r maes yn gweithio'n dda hyd yn hyn.

    "Mae'r traffig yn llifo yn hyfryd, mae'r meysydd parcio yn llenwi - mae'n rhaid i mi ddweud bod y meysydd parcio yn llenwi'n sylweddol erbyn amser cinio ddoe."

  18. Gwyrdd, glas a gwyn yn llenwi cefn llwyfanwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae pethau'n prysuro cefn llwyfan wrth i aelodau'r orsedd dderbyn eu gwisg ar gyfer y seremoni am 10.

    Dywedodd y canwr Rhys Meirion: “Dwi’n cael yr anrhydedd i ganu gweddi’r orsedd heddiw - tipyn o fraint a dwi’n edrych ymlaen."

    Ag yntau wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar, ychwanegodd: "Dwi’n teimlo lot gwell ar ôl fy llawdriniaeth, wedi bod yn lwcus iawn a wedi gwneud gwellhad llwyr."

    Rhys Mierion
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhys Meirion a'i wisg werdd

    dwy fenyw yn eu gwisgoedd
  19. Beth yw'r rhagolygon tywydd?wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae rhybudd am wyntoedd cryfion ar draws rhan helaeth o ogledd Cymru heddiw wrth i storm Floris daro gyda thywydd 'anarferol o wyntog'.

    Ond sut mae pethau'n edrych ar Faes yr Eisteddfod ar hyn o bryd?

  20. Edrych yn ôl ar ddydd Sulwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Tra'n bod yn edrych ymlaen at gychwyn cystadlu y Pafiliwn heddiw, gallwch fwynhau fideos o uchafbwyntiau dydd Sul yma.

    Neu cliciwch yma i weld oriel luniau o'r maes ddydd Sul.