Tri o newyddiadurwyr ITV yn dathluwedi ei gyhoeddi 11:46 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst

Siôn Jenkins, Nest Jenkins a Carwyn Eckley
Roedd cyfle i dri o newyddiadurwyr ITV Cymru ddathlu ar ôl seremoni'r Orsedd yn y Pafiliwn.
Roedd dau yn derbyn y Wisg Wen heddiw sef Nest Jenkins, enillydd Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn llynedd, a Carwyn Eckley, enillydd Y Gadair Eisteddfod Pontypridd.
Meddai Nest: "Roeddwn wedi cael y wisg werdd o'r blaen ond mae cael y Wisg Wen yn binacl bod yn yr Orsedd.
"Mae cymaint wedi gweithio mor galed ar gyfer y seremoni ac aeth pethau mor slic."
Ychwanegodd Carwyn: "Mae'r ddau ohonon ni'n gweithio efo'n gilydd felly roedd o'n braf cael bod yn y gwasanaeth efo Nest."
Fe ymunon nhw â'u cydweithiwr Siôn Jenkins yn yr Orsedd, wedi iddo gael ei anrhydeddu ar ôl ennill Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn yn 2022.