Crynodeb

  1. 'Gwylio yn parhau' o ran y tywyddwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1

    Ac mae'r tywydd hefyd yn bwnc trafod yng nghynhadledd y wasg y bore.

    Fe wnaeth y prif weithredwr Betsan Moses ddweud fod y penwythnos agoriadol wedi bod yn “odidog” gyda’r meysydd parcio yn gweithio’n iawn a’r bysys gwennol yn mynd yn “dda iawn”.

    Fe gadarnhaodd bod gan yr Eisteddfod bolisi goleuadau traffig mewn lle – gwyrdd, oren a choch.

    “O ran y tywydd ma’r gwylio yn parhau.

    “Mae timoedd wedi bod allan ers 5 o’r gloch bore ma i sicrhau bod bob dim yn iawn a thîm o ran stondinwyr wedi bod o amgylch i gael sgyrsiau gyda nhw.

    “Does dim angen mynd o wyrdd i oren,” meddai.

    Mae rhybuddion tywydd yn eu lle mewn rhannau o ogledd Cymru wrth i storm Floris agosáu. Mwy yma.

    Llun o gynhadledd i'r wasg bore Llun
  2. Mererid Hopwood yn arwain seremoni'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae sŵn y gwynt i'w glywed yn y Pafiliwn wrth i Mererid Hopwood arwain seremoni i urddo aelodau newydd i Orsedd Cymru.

    Mererid Hopwood
  3. Cadi wrth ei bodd yn perfformio nos Sulwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1

    Bu degau o blant a phobl ifanc yr ardal yn rhan o sioe Y Stand ar y Maes nos Sul.

    Un o aelodau y cast ydi Cadi Glwys, sydd â chyswllt agos â'r ardal am mai ei thaid oedd Dai Davies, un o gyn-chwaraewyr Cymru a Wrecsam.

    Mae’n chware rhan Grace, syn breuddwydio am gael chware pêl-droed.

    Mae’r sioe yn dilyn ei pherthynas gyda’i rhieni a chefnogwyr eraill yn y stand. Pêl-droed yw ei hangerdd ai chariad cyntaf.

    Meddai: "Ges i lyfr gan Dat cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac yn front y llyfr 'naeth o lofnodi o a dweud ‘cofia fwynhau pob perfformiad’ achos oedd o isio ni gal rhywbeth i gofio fo ar ôl iddo fynd.

    "Felly mae’n fitting iawn rŵan bo’ fi’n deud hanes y clwb roedd o’n ei garu ar lwyfan.

    Wrth sôn am y sioe, dywedodd: “Roedd o’n gymaint o hwyl, oedd cael y côr a’r cast ‘di codi’r peth ac roedd y gynulleidfa’n ymateb mor ffab."

    Bydd y criw yn perfformio unwaith yn rhagor heno.

    Cadi Glwys
  4. Urddo Elainwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Elain Gwynedd ymysg yr unigolion gaiff ei hurddo heddiw, gan dderbyn y wisg werdd am radd yn y Gymraeg.

    Deugain mlynedd i heddiw, cafodd ei mam ei hurddo - enw barddol ei mam ydi Alwen Pennant, ac enw barddol Elain fydd Elain Pennant.

    Elain G
    Disgrifiad o’r llun,

    Elain Gwynedd o Ynys Mon

    Gwisgoedd
  5. Y Pafiliwn dan ei sangwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Digwyddiad cyntaf y dydd yn y Pafiliwn yw seremoni i anrhydeddu aelodau newydd o Orsedd Cymru.

    Mae'r seremoni yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn oherwydd y tywydd gwael.

    Seremoni'r Orsedd

    Dyma rai fydd yn cael eu hurddo heddiw, yn eu plith Carwyn Eckley (enillydd y Gadair llynedd) a Gwynfor Dafydd (enillydd y Goron llynedd).

    Seremoni'r Orsedd
  6. Sut mae cyrraedd y Maes?wedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich+1

    Os ydych yn bwriadu dod ar y trên, bydd angen teithio i orsaf Wrecsam Cyffredinol.

    Mae Trafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast yn rhedeg gwasanaethau ychwanegol yn ystod yr wythnos.

    Bydd hyn yn cynnwys 12 gwasanaeth ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Gwener.

    Mae gwybodaeth am fysus gwennol fydd yn eich cludo o'r orsaf drenau i'r Maes isod.

    Dod ar fws?

    Os yn teithio ar fws, mae ystod eang o fysiau cyhoeddus yn rhedeg drwy'r dydd a gyda'r nos.

    Bydd gwasanaeth Traws Cymru T3 yn cludo teithwyr i'r Maes bob dwy awr o orsaf fysiau Wrecsam.

    Mae gwasanaeth T3 yn cynnig taith uniongyrchol i'r Maes o Abermaw, Dolgellau, Bala, Corwen a Llangollen.

    Bysiau gwennol

    Os ydych yn y ddinas, bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim yn rhedeg yn rheolaidd rhwng yr orsaf drenau, yr orsaf fysiau yng nghanol y ddinas, a'r Maes o 08:00 tan 23:00.

    Bydd y bysiau'n cychwyn o'r safle bws gyferbyn â'r orsaf ac yn galw yn Arosfa 5, Canolfan Fysiau Wrecsam, cyn dilyn llwybr bws rhif 41 i'r stad ddiwydiannol.

    Teithio mewn car?

    Os ydych yn bwriadu cyrraedd yr Eisteddfod mewn car, cadwch lygad am arwyddion melyn yr 'Eisteddfod' er mwyn cyrraedd y maes.

    Cod Post y Maes yw LL13 9UR.

    Mae arwyddion yn annog pawb i gyrraedd y Maes o gyffordd 6, A483 (Gresffordd).

  7. 'Trio denu'r di-Gymraeg i'r Steddfod'wedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1

    Hefyd ar Dros Frecwast bore heddiw, dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts fod y gwaith paratoi ar gyfer yr Eisteddfod wedi codi ymwybyddiaeth am y Gymraeg yn ardal Wrecsam.

    "Dwi’n meddwl yn yr ardal yma, yn amlwg da ni’n agos at y ffin yn fan hyn, efallai bod y nifer o siaradwyr Cymraeg ddim gymaint â mewn ardaloedd eraill o Gymru.

    "Felly llawer iawn o’r gwaith ‘da ni ‘di bod yn ‘neud ydy codi ymwybyddiaeth, dweud wrth bobl be yn union ydy’r Eisteddfod – bod o’n ddathliad o’n hiaith a’n diwylliant ni a bod o’n cynnwys pawb.

    "A ‘da ni ‘di bod yn trio denu pobl falle sydd ddim yn siarad Cymraeg yn Wrecsam i ddod i’r Steddfod.

    "Mae’n gyfle i ni hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant ni yn yr ardal yma a dangos i bawb arall o Gymru be sydd gyda ni i'w gynnig.

    "Dwi’n meddwl bo’ pobl yn dweud ‘O Wrecsam - does dim llawer yn siarad Cymraeg yno.' Ond mae yna, ac mae’r Gymraeg yn fyw.”

    Llinos Roberts
  8. Cynllun tywydd gwael gan yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Betsan Moses

    Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses ar raglen Dros Frecwast ei bod hi'n hyderus y gallai'r Maes ymdopi â'r tywydd garw.

    "Mae gennym ni gynllun tywydd gwael, ac mae'n weithredol ar draws y cyfnod, ac felly mae gennym ni gyfarfodydd yn digwydd pob rhyw dair awr yn gwirio ac yn twtio.

    "Dwi newydd adael cyfarfod gyda'r gwasanaethau brys ac mae pawb yn hyderus.

    "Dyw'r storm ddim wedi cyrraedd ni, mae'n dechrau agor mas ac mae hi fod yn hyfryd erbyn amser cinio.

    Ychwanegodd fod y trefniadau teithio i ac o'r maes yn gweithio'n dda hyd yn hyn.

    "Mae'r traffig yn llifo yn hyfryd, mae'r meysydd parcio yn llenwi - mae'n rhaid i mi ddweud bod y meysydd parcio yn llenwi'n sylweddol erbyn amser cinio ddoe."

  9. Gwyrdd, glas a gwyn yn llenwi cefn llwyfanwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae pethau'n prysuro cefn llwyfan wrth i aelodau'r orsedd dderbyn eu gwisg ar gyfer y seremoni am 10.

    Dywedodd y canwr Rhys Meirion: “Dwi’n cael yr anrhydedd i ganu gweddi’r orsedd heddiw - tipyn o fraint a dwi’n edrych ymlaen."

    Ag yntau wedi derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar, ychwanegodd: "Dwi’n teimlo lot gwell ar ôl fy llawdriniaeth, wedi bod yn lwcus iawn a wedi gwneud gwellhad llwyr."

    Rhys Mierion
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhys Meirion a'i wisg werdd

    dwy fenyw yn eu gwisgoedd
  10. Beth yw'r rhagolygon tywydd?wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae rhybudd am wyntoedd cryfion ar draws rhan helaeth o ogledd Cymru heddiw wrth i storm Floris daro gyda thywydd 'anarferol o wyntog'.

    Ond sut mae pethau'n edrych ar Faes yr Eisteddfod ar hyn o bryd?

  11. Edrych yn ôl ar ddydd Sulwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Tra'n bod yn edrych ymlaen at gychwyn cystadlu y Pafiliwn heddiw, gallwch fwynhau fideos o uchafbwyntiau dydd Sul yma.

    Neu cliciwch yma i weld oriel luniau o'r maes ddydd Sul.

  12. Diwrnod y Coroniwedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1

    Y GoronFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Coroni'r prifardd buddugol fydd prif seremoni Eisteddfod Wrecsam ddydd Llun a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau.

    'Adfeilion' oedd y testun gosod a'r beirniaid eleni yw Ifor ap Glyn, Siôn Aled a Gwyneth Lewis.

    Mae'r tri beirniad yn brifeirdd - fe enillodd Ifor ap Glyn y goron yn Eisteddfod Môn 1999 - am ei gerdd "Golau yn y Gwyll", ac yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2013 am ei gerdd "Terfysg" - "Rhywun" oedd ei ffugenw y tro cyntaf a "Rhywun Arall" yr eildro.

    Enillodd Siôn Aled goron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'i chyffiniau yn 1981 am bryddest ar y teitl "Wynebau" ac yn 2012 yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg enillodd Gwyneth Lewis y goron am ddilyniant o gerddi ar y testun "Ynys".

    Noddir y goron gan Elin Haf Davies a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Prydwen Elfed Owens.

    Mae'r goron eleni wedi'i chreu gan Neil Rayment ac Elan Rowlands - y ddau a greodd goron Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.

    Darllenwch fwy am y Goron yma.

  13. Croeso'n ôl i Wrecsamwedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Llun yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae gohebwyr Cymru Fyw ar y Maes i'ch tywys drwy ddigwyddiadau diwrnod y Coroni, ac er fod angen ymbarél ar hyn o bryd mae ymwelwyr yn mwynhau ar y Maes yn barod.

    Arhoswch gyda ni yn ystod y dydd.

    Dydd Sadwrn ar y Maes