Crynodeb

  1. Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 17:15 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyna'r cyfan gan ein tîm ar faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd am heddiw.

    Mae mwy o straeon, uchafbwyntiau cystadlu ac oriel luniau'r diwrnod yma.

    Fe fydd criw Cymru Fyw yn ôl ar y Maes yfory. Hwyl am y tro!

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  2. Pontio Cymru ac Iwerddon yn y Tŷ Gwerinwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Un o uchafbwyntiau'r Tŷ Gwerin heddiw fydd perfformiad gan Aoife Ní Bhriain, un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon, a’r delynores Catrin Finch sy'n mentro i dir newydd drwy gydweithio ag artistiaid rhyngwladol.

    Bydd y perfformiad am 21:30 heno.

    Aoife Ní Bhriain a Catrin Finch
  3. 'Mwy o gyfrifoldeb os mai dyma un o'r gwerthwyr gorau'wedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dwy o'r beirniaid ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen, Marlyn Samuel a Catrin Beard, fu'n egluro i'n gohebydd Alun Thomas pam nad oedd modd rhoi'r wobr eleni.

    Dywedodd fod gan bob un o'r pum ymgeisydd yn dangos addewid, ond "mae rhywun yn disgwyl safon, ac yn anffodus eleni, chafwyd 'mohono fo".

    Ychwanegodd Ms Beard eu bod yn llwyr ymwybodol o'r siom i werthwyr llyfrau gan fod enillydd y Daniel Owen yn un o werthwyr gorau'r flwyddyn.

    "Mae 'na hyd yn oed fwy o gyfrifoldeb os mai dyma un o'r gwerthwyr gorau, mae'n rhaid iddi fod yn dda.

    "Allwch chi ddim rhoi nofel sydd ddim yn barod i'w chyhoeddi."

    Disgrifiad,

    Marlyn Samuel a Catrin Beard, fu'n siarad â'n gohebydd Alun Thomas

  4. Digon i ddod eto ar lwyfan y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 16:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Bydd y cystadlu'n parhau tan yn hwyr heno yn y Pafiliwn. Dyma sydd ar y gweill dros yr oriau nesaf:

    • Dawns i grŵp dros 4 mewn nifer - 17:00
    • Parti Alaw Werin o dan 25 oed - 18:05
    • Dawns gelf | greadigol | gyfoes | ballet i grŵp dros 4 mewn nifer - 18:30
    • Parti cerdd dant o dan 25 oed - 18:50
    • Parti dawnsio gwerin o dan 25 oed - 19:15
    • Côr ieuenctid o dan 25 oed - 20:00

    Fe allwch chi wylio'r cystadlu'n fyw ar wefan S4C Clic, dolen allanol.

    PafiliwnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  5. Fydd deallusrwydd artiffisial yn hunllef i weithwyr?wedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ym mhabell Cymdeithasau, un o’r pynciau trafod y prynhawn yma oedd deallusrwydd artiffisial - neu AI.

    Ydy hwn yn freuddwyd, neu’n hunllef, i weithwyr a’r Gymraeg?

    Mae Ceri Williams o undeb TUC Cymru yn paentio darlun llwm, gan ddweud bod nifer o weithwyr, fel pobl sy’n dosbarthu parseli, yn cael eu “rheoli” yn y gweithle bellach gan AI.

    Os ydyn nhw’n codi cwyn, yr ateb yn aml yw bod y “cyfrifiadur yn gwybod yn well na chi”.

    Hunllef yw’r argraff gan Manon Eames hefyd, sy’n cynrychioli Undeb yr Ysgrifenwyr.

    Mae rhaglenni AI bellach yn crafu data llawer o ysgrifenwyr creadigol, meddai, a hynny yn aml heb yn wybod iddyn nhw.

    Ychwanegodd y gallai mwy o ddefnydd o AI ar gyfer sgriptio neu gyfieithu hefyd effeithio ar dâl gweithwyr creadigol, yn ogystal â safon cynyrchiadau.

    Pabell y Cymdeithasau 2
  6. Pryd oedd y tro diwethaf i neb fod yn deilwng o'r Daniel Owen?wedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn gwerthu'n dda iawn i siopau llyfrau Cymraeg, ac felly nid ar chwarae bach mae atal y wobr.

    Dyma'r trydydd gwaith yn unig ers troad y ganrif i neb fod yn deilwng o'r wobr.

    Y tro diweddaraf oedd ym Môn yn 2017, a chyn hynny mae'n rhaid mynd nôl i Eisteddfod Dinbych 2001.

    Medal
  7. Dysgu Cymraeg yn ‘antur’wedi ei gyhoeddi 16:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ym Maes D mae cynulleidfa wedi dod i glywed profiadau tair dynes sydd wedi symud i Gymru a dysgu’r iaith.

    Dywedodd Rosa Hunt o Malta ei bod hi wedi byw mewn sawl gwlad ar draws y byd, ond ar ôl symud i Gymru, “am y tro cyntaf o’n i’n teimlo’n gartrefol”.

    O Norwy y daw Sylvia Strand, ac wrth annog eraill i fynd ati, dywedodd bod “dysgu Cymraeg yn antur wych”.

    Ychwanegodd Sandra De Pol o Ariannin: “Ti ddim yn gwybod beth fydd y Gymraeg yn gwneud i dy fywyd.”

    Maes D
  8. 'Cael fy siomi wrth ddarllen pob un'wedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Roedd y beirniad olaf, Marlyn Samuel hefyd yn siomedig nad oedd modd gwobrwyo eleni.

    “Ro’n i’n edrych ymlaen at ddarllen storïau difyr a diddan: nofelau a fyddai’n cydio yn fy nychymyg ac yn dal fy niddordeb efo cymeriadau diddorol a chredadwy.

    "Yn anffodus, cael fy siomi wnes i wrth ddarllen pob un ohonynt.

    "Cafwyd ambell syniad digon difyr ond, yn ddieithriad, drafft cyntaf a gyflwynwyd gan bob un o’r pum ymgeisydd.

    "Ar gyfer cystadleuaeth fel hon, mae rhywun yn disgwyl nofelau sy’n barod i’w cyhoeddi fwy neu lai."

    Beirniaid
  9. 'Mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel'wedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Er yn siomedig, roedd gan Catrin Beard air o gefnogaeth i’r rheini a ymgeisiodd eleni.

    “Os yw ein prif ŵyl lenyddol am anrhydeddu nofel gyda gwobr ariannol hael a chlod cynulleidfa’r pafiliwn, mae’n deg bod y disgwyliadau’n uchel, a gyda chynifer o nofelau graenus yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn, maen nhw’n uwch fyth," meddai yn ei beirniadaeth ysgrifenedig.

    "Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu nofel, ac fel un sydd â sawl ‘Pennod Un’ yn y drôr, allaf i wneud dim ond edmygu dyfalbarhad a dycnwch y rheiny sy’n dwyn y maen i’r wal.

    "Ond mae mwy i ysgrifennu nofel na’r drafft cyntaf, a gyda’r disgwyliad y bydd cyfrol fuddugol ‘Y Daniel’ yn y siopau o fewn ychydig fisoedd yn unig i dderbyn y feirniadaeth, ein gobaith fel beirniaid oedd derbyn nofelau a oedd yn agos at fod yn ‘barod i fynd’.

    “Siomedig, felly, oedd mai egin nofelau a ddaeth i law.

    "Oes, mae yma addewid, gwreiddioldeb, difyrrwch ac enghreifftiau o ysgrifennu godidog, ond does dim un o’r cyfrolau yn agos at fod yn barod i’w chyhoeddi."

  10. 'Atal y wobr yn destun siom'wedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Jerry Hunter oedd â’r dasg annifyr o gyhoeddi nad oedd modd gwobrwyo eleni.

    Yn ei feirniadaeth ysgrifenedig yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, dywedodd: “Gwn fod atal y wobr yn destun siom i ddarllenwyr ffuglen Gymraeg, ond peidied neb â digalonni.

    “Ymddengys fod y gystadleuaeth hon yn denu darpar nofelwyr yn hytrach na rhai profiadol yn aml, ac er bod enillwyr y gorffennol wedi llwyddo i greu nofel gyntaf lwyddiannus, mae’n afrealistig disgwyl i hynny ddigwydd bob blwyddyn.

    “Yn hytrach na chwyno nad yw’r gystadleuaeth hon wedi esgor ar nofel newydd eleni, ewch yn syth at un o’r mannau hynny ar faes yr Eisteddfod sy’n gwerthu llyfrau - neu at eich siop lyfrau lleol - a phrynu nofel Gymraeg nad ydych wedi’i darllen.

    "Mae digon o ddewis ac mae’r dewis hwnnw’n destun diolch, pleser a balchder.”

    Jerry Hunter
  11. Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 16:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst
    Newydd dorri

    Newyddion trist o lwyfan y Pafiliwn yn seremoni'r brif wobr heddiw - does dim teilyngdod.

    Fe fydd y newyddion yn siŵr o fod yn destun siom i siopau llyfrau - mae enillydd y wobr hon wastad yn o'r llyfrau Cymraeg sy'n gwerthu orau trwy'r flwyddyn.

    Pum ymgais ddaeth i law, a'r beirniaid oedd Jerry Hunter, Catrin Beard a Marlyn Samuel.

    Y dasg oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau, gyda Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 yn wobr.

  12. A fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 15:58 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Bydd seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen yn dechrau'n fuan.

    Gallwch wylio'r cyfan yn fyw ar S4C Clic, dolen allanol neu iPlayer.

    Neu, wrth gwrs, byddwn ni'n dod â'r wybodaeth am yr enillydd i chi yma ar y llif byw!

    EisteddfodFfynhonnell y llun, S4C
  13. 'Mosg' y maes yn teimlo croeso'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Eisteddfodwyr wedi bod mynd i babell y Mosg ar y Maes i ddangos cefnogaeth mewn cyfnod o drais yn erbyn Mwslemiaid.

    Mae’r babell yn rhoi gofod i addoli, gyda matiau yn wynebu’r dwyrain, ac yn cynnig gwybodaeth am hanes Islemiaeth yng Nghymru.

    Yn dilyn y trais mewn dinasoedd ar draws Lloegr dros yr wythnos ddiwethaf, dywed trefnwyr y Mosg bod nifer o'u cyd-Gymru wedi bod yn galw heibio i ddangos cefnogaeth.

    Dywedodd Bea, o Flaenau Ffestiniog yn wreiddiol ond nawr yn byw yng Nghaerdydd: ”Mae wedi bod yn rili positif, mae wedi bod yn sioc i fod yn onest.

    “Ro’n i’n gwybod y byddai pobl yn gefnogol, ond mae mwy nag oeddwn i’n disgwyl wedi dod i’r mosg, yn Gristnogion ac yn atheists, i roi cefnogaeth.”

    Ychwanegodd Mahum, o Gaerdydd: “Dwi’n meddwl efo beth sy’n digwydd yn wleidyddol ar hyn o bryd mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni yma.”

    Mae mwy ar y stori yma.

    Eisteddfod
  14. Anrhydedd mwyaf yr Eisteddfod i beiriannydd o Fônwedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae anrhydedd mwyaf yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei gyflwyno i beiriannydd o Fôn sydd wedi rhoi bron i 50 mlynedd o wasanaeth i'r sefydliad.

    Cafodd Dyfrig Roberts ei gyflwyno fel cymrawd anrhydeddus mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.

    Mae'r anrhydedd yn arwydd o ddiolchgarwch am flynyddoedd o wasanaeth i’r Eisteddfod.

    "Dyma anrhydedd 'nes i erioed ei ddychmygu fyddai'n dod i fy rhan i," meddai Mr Roberts.

    Mae modd darllen mwy am hanes Mr Roberts a'r anrhydedd yma.

    Dyfrig Roberts
  15. Ydy Cymru’n wlad oddefgar?wedi ei gyhoeddi 15:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    A ydyn ni’n byw mewn cymdeithas oddefgar?

    Dyna oedd y cwestiwn gerbron panel ar stondin Prifysgol Bangor, dan gadeiryddiaeth Gareth Evans-Jones.

    Roedd y tri siaradwr - Malachy Edwards, Sian Melangell Dafydd a Kayley Roberts - yn teimlo efallai bod y gair ei hun ychydig yn anghynnes, a bod angen ymarfer bod yn groesawgar i eraill, yn hytrach na dim ond eu "goddef".

    Dywedodd Malachy Edwards fod pobl yn teimlo “pryder” am yr atgasedd diweddar yn y protestiadau ar y strydoedd, gan holi a oedden ni’n mynd am yn ôl fel cymdeithas yn hynny o beth.

    Ychwanegodd Kayley Roberts bod gan bobl agwedd “berfformiadol” neu “tic bocs” weithiau am bethau fel nodi rhagenwau rhywun, heb wir geisio cael sgwrs am y peth.

    Mae bod yn oddefgar, meddai Sian Melangell Dafydd, yn rhywbeth “actif” sy’n rhaid i ni i gyd barhau i’w wneud.

    Panel Prifysgol Bangor
  16. Enillydd y Goron yn ddyn prysurwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ddoe, Y Goron. Heddiw, Ymryson y Beirdd.

    Mae Gwynfor Dafydd yn ddyn prysur - ac wedi bod yn cystadlu yn rownd gynderfynol cystadleuaeth Barddas o'r ymryson yn y Babell Lên y prynhawn 'ma.

    Ymryson
  17. Mwy o olygfeydd o'r Maeswedi ei gyhoeddi 15:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Alis a'i thaid balch wedi bod yn crwydro'r Maes heddiw...

    Alis a taid

    Dawn yn denu sylw tu allan i Gaffi Maes B...

    Dawn

    Cyfnod prysur yn y pentref bwyd...

    Eisteddfod

    Ac i Eluned a Mary hefyd, yn gwneud paneidiau ym mhabell Merched y Wawr!

    Eluned a Mary
  18. Clwb y Bont yn 'ganolbwynt i ddiwylliant Cymraeg' Pontypriddwedi ei gyhoeddi 15:08 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Roedd "lot o heriau" yn wynebu sylfaenwyr Clwb y Bont pan gafodd ei sefydlu yn 1983, yn ôl swyddog datblygu'r ganolfan Gymraeg ym Mhontypridd.

    Yn siarad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru heddiw bu Aled Wyn Phillips yn trafod ei rôl ef yn diogelu dyfodol y clwb yn dilyn llifogydd a chyfnod clo'r pandemig.

    "Yn y man cychwyn, rhaid ail-sefydlu'r brand bod y clwb yn le ble mae 'na adloniant a digwyddiadau Cymraeg," meddai.

    "Bod 'na Chymraeg i'w chlywed ac yn ganolog, ac yn amlwg wrth galon y gweithgareddau."

    Y gobaith yw agor y clwb yn fwy rheolaidd, meddai, gan "ymestyn allan at ddysgwyr newydd, at gynulleidfaoedd newydd".

    Gardd Radio Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Aled Wyn Phillips yn siarad gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio

  19. Trafod Saesneg ar S4C ar stondin Dyfodolwedi ei gyhoeddi 14:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Saesneg ar S4C yw un o’r pynciau trafod ar stondin Dyfodol i'r Iaith heddiw.

    Gan gyfeirio at gyflwyno cymeriad sy’n siarad Saesneg yn Pobol y Cwm, dywedodd cyfarwyddwr strategaeth cynnwys a chyhoeddi'r sianel, Geraint Evans efallai nad yw’r syniad wedi gweithio’n iawn ond mai’r nod yw cyflwyno bywyd bob dydd.

    O fesur y Saesneg ar S4C ychwanegodd Mr Evans, wrth gael ei holi gan Angharad Mair, mai ychydig o Saesneg sydd ar S4C ond ei fod yn deall bod y gyfran honno yn gwylltio pobl.

    Wrth ymhelaethu ar ddefnyddio actores ddi-Gymraeg i actio’r ddysgwraig, ychwanegodd Mr Evans bod hynny'n bwysig - yn yr un modd ag y dylid cael person anabl i actio cymeriad anabl, neu berson hoyw i actio cymeriad hoyw.

    Eisteddfod
  20. Brwydr y Cyfeilyddion yn denu'r torfeyddwedi ei gyhoeddi 14:46 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ym mhabell Encore mae sesiwn hynod boblogaidd newydd ddechrau, gyda chiwiau i fynd i mewn i wylio.

    Y digwyddiad ydy Brwydr y Cyfeilyddion - sy'n cael ei disgrifio fel "sesiwn hwyliog yng nghwmni tri thîm o gyfeilyddion sy'n ymrafael i fod yn bencampwr Brwydr y Cyfeilyddion 2024".

    Encore