Crynodeb

  1. Cyfansoddiad i gloi'r nos Sadwrn olaf yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Hefyd yn y gynhadledd i'r wasg y bore 'ma roedd y cyfansoddwr Eilir Owen Griffiths yn sôn am ei gyfansoddiad fydd yn cloi’r nos Sadwrn olaf yn y Pafiliwn.

    Mae’n ddarn sy’n seiliedig ar Hen Wlad Fy Nhadau, a gafodd ei gyfansoddi gan y brodyr lleol Evan James a James James.

    Mae pedwar o feirdd - Mari George, Christine James, Aneirin Karadog a Delwyn Sion - wedi cyfrannu at y darn, fydd yn cynnwys themâu gwladgarol gan hefyd guddio alawon eraill yn y darn.

    Eilir Owen Griffiths
  2. Mwy o olygfeydd o'r Maes...wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae ein criw ar y Maes wedi dod ar draws ein cyfaill, y cyflwynydd Tudur Owen.

    Mae'n gweithio gydag S4C yr wythnos hon, yn troi at fyd teledu yn hytrach na'i raglen arferol ar BBC Radio Cymru.

    Tudur Owen

    Cai ac Efan yn cadw’r maes yn ddiogel y bore 'ma.

    Cai ac Efan

    Ac o bosib y stondin brysuraf ar y Maes wrth iddi gynhesu - Dŵr Cymru er mwyn ail-lenwi poteli!

    Eisteddfod
  3. 'Clywed Saesneg ar y Maes yn dangos llwyddiant y Steddfod'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru ddoe, roedd Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf yn trafod y defnydd o'r Saesneg sydd i'w glywed ar y Maes.

    "Y mwyaf o Saesneg sy’n cael ei glywed ar y Maes y mwyaf o lwyddiant yw’r Steddfod," meddai.

    "Mae’n golygu fod y bobl leol a’r rhieni [di-Gymraeg] sydd wedi gwneud y dewis anodd i anfon eu plant i gael addysg Gymraeg... maen nhw wedi dod gyda’u plant.

    "Mae’r teuluoedd wedi dod i gefnogi ac i flasu’r cyfoeth sy’n digwydd yma yn y Parc."

    Dros GinioFfynhonnell y llun, Dros Ginio
    Disgrifiad o’r llun,

    Osian Rowlands, prif weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ar raglen Dros Ginio

  4. Y cystadlu ar fin dechrau yn y Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae'r cystadlu'n dechrau ar lwyfan y Pafiliwn am 11:00.

    Dyma'r cystadlaethau sydd i ddod dros yr oriau nesaf:

    • Deuawd cerdd dant o dan 16 oed - 11:00
    • Ensemble lleisiol - 11:20
    • Unawd allan o sioe gerdd o dan 19 oed - 11:40
    • Monolog 16 ac o dan 19 oed - 12:00

    Fe allwch chi wylio'r cystadlu'n fyw ar wefan S4C Clic, dolen allanol.

    PafiliwnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  5. Dianc rhag wres Strasbourg ym Mhonty!wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae Tom o Bont-y-pŵl wedi dod i’r Steddfod am y diwrnod.

    Mae o bellach yn byw yn Strasbourg yn Ffrainc, ond wedi dod nôl i Gymru am gyfnod i ddianc rhag y gwres yno!

    Tom

    Ond nid pawb sydd ar y Maes i fwynhau yn unig.

    Mae Eyobe yn rhan o'r tîm sy'n gweithio i gadw Parc Ynysangharad yn daclus trwy gydol yr wythnos - diolch Eyobe!

    Eyobe
  6. Eisiau dal i fyny gyda chanlyniadau'r Pafiliwn ddoe?wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Wedi colli canlyniadau'r Pafiliwn ddydd Llun?

    Mae'r holl ganlyniadau, a chlipiau o'r cystadlaethau i'w gweld yma.

    Disgrifiad,

    Clip o gystadleuwyr Ysgoloriaeth W Towyn Roberts, ble daeth Owain Rowlands o Landeilo i'r brig

  7. Yr Orsedd i drafod dyfodol aelodaeth Huw Edwardswedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Fe fydd bwrdd yr Orsedd heddiw yn trafod a ddylid diarddel y cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards.

    Mae'r cyn-ddarlledwr wedi pledio yn euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.

    Cafodd Edwards ei dderbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2022.

    Dywedodd Christine James, Cofiadur yr Orsedd, nad oes gan y sefydliad "drefn neu beirianwaith benodol i ddiarddel aelodau” ond y bydd y mater yn cael ei drafod heddiw wrth i Fwrdd yr Orsedd gyfarfod ar y Maes.

    Ond rydyn ni'n deall na fydd cyhoeddiad na datganiad ar y mater gan fwrdd yr Orsedd heddiw.

    Bydd unrhyw benderfyniad yn gorfod cael ei gytuno arno yng nghyfarfod cyffredinol bwrdd yr Orsedd, fydd yn digwydd ddydd Iau.

    Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
  8. 'Diwrnod da iawn eto ddoe'wedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Yng nghynhadledd i'r wasg foreol yr Eisteddfod, mae'r pennaeth cyfathrebu Gwenllian Carr yn dweud eu bod nhw wedi cael “diwrnod da iawn eto ddoe”, gan gynnwys gweld “enillydd poblogaidd iawn i’r goron”.

    Ychwanegodd ei bod yn “ddiolchgar iawn i bawb” sydd wedi bod yn dilyn y cyfarwyddiadau traffig a theithio hyd yma, er mwyn osgoi tagfeydd ym Mhontypridd.

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  9. Beth yw'r rhagolygon tywydd ar gyfer heddiw?wedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Yn syml, hyfryd!

    Ond os ydy'r rhagolygon yn gywir, gwnewch y mwyaf o'r haul dros y diwrnod neu ddau nesaf - mae hi'n addo glaw mawr ddydd Iau.

    Tywydd
    Eisteddfod
  10. Y Maes yn dechrau prysuro!wedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Eisteddfod
    Eisteddfod
  11. Sut mae cyrraedd yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Ydych chi'n ymweld â'r Eisteddfod am y tro cyntaf heddiw, neu dros y dyddiau nesaf?

    Mae eisteddfodwyr yn cael eu hannog i gyrraedd y Maes ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i barcio, os yn gyrru, yn y meysydd parcio a theithio penodol.

    Mae Pontypridd yn dref brysur ar y gorau, medd y trefnwyr, a gall traffig fod yn broblem ar ddiwrnod arferol.

    Mae anogaeth hefyd i bobl drefnu eu cludiant adref o flaen llaw er mwyn cadw eu hunain ac eraill yn ddiogel.

    Mae'r holl fanylion ar sut i gyrraedd y Maes ar gael yma.

    Eisteddfod
  12. Diolch i'r rheiny sy'n helpu eisteddfodwyr i gyrraedd y Maeswedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyma dair sy'n helpu eisteddfodwyr i gyrraedd y Maes y bore 'ma.

    Mae Georgia, Lily a Caitlyn yn helpu gyda'r bysiau gwennol o'r Ddraenen Wen, i'r de o Bontypridd.

    Diolch iddyn nhw am eu gwaith!

    Georgia, Lily a Caitlyn
  13. Prif seremoni'r dydd - Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Prif seremoni’r prynhawn yn y Pafiliwn yw cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen.

    Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 gair sydd ei hangen i ennill y wobr.

    Y beirniaid eleni yw Catrin Beard, Jerry Hunter a Marlyn Samuel.

    Alun Ffred Jones oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 am ei nofel 'Gwynt y Dwyrain'.

    Medal Daniel Owen
  14. Sut mae hi dan draed y bore 'ma?wedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Yn dilyn y glaw ddoe, mae hi'n wlyb dan droed mewn ambell fan, ond ar y cyfan, mae'r Maes yn edrych yn sych, gyda nifer o lwybrau tarmac ar y Maes ym Marc Ynysangharad.

    Dyw'r pyllau dŵr ddim yn debygol o aros am hir chwaith, os ydy hi'n aros mor braf ag ydy hi ar hyn o bryd!

    Eisteddfod
    Eisteddfod
    Eisteddfod
  15. Llongyfarchiadau Gwynfor Dafydd!wedi ei gyhoeddi 09:04 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mewn seremoni emosiynol yn y Pafiliwn brynhawn ddoe cafodd Gwynfor Dafydd ei gyhoeddi fel enillydd y Goron eleni.

    Daeth y bardd o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau.

    Wrth iddo gael ei longyfarch ar y llwyfan gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood, cafodd y bardd ei gofleidio gan ei fam, Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni.

    Mae'n derbyn gwobr ariannol o £750 hefyd, a hynny am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc 'Atgof'.

    Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

    Gwynfor DafyddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  16. Croeso i ddydd Mawrth yr Eisteddfod!wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Bore da a chroeso nôl i'n llif byw o Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf!

    Mae hi'n dechrau prysuro draw ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd, felly arhoswch gyda ni am y diweddaraf o'r Maes drwy gydol y dydd.

    EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol