Crynodeb

  1. Llongyfarchiadau Leusa!wedi ei gyhoeddi 14:39 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Leusa Francis o Gaernarfon ydi enillydd yr Unawd allan o Sioe Gerdd o dan 19 oed.

    Bydd Leusa yn derbyn Tlws Derec Williams, Cwmni Theatr Maldwyn, £1,000 rhoddedig gan Ymddiriedolaeth Elusennol Simon Gibson, £75 er cof am Norman Harris, arweinydd Cwmni Theatr Spotlight y Rhondda, Côr Meibion Cwmbach, Côr Cymysg Treorci a Chôr Plant.

    Fe fyddwn yn diweddaru ein tudalen ganlyniadau yn ystod y prynhawn.

    Leusa Francis
  2. Canol tref Pontypridd yn brysur hefydwedi ei gyhoeddi 14:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Er mai ym Mharc Ynysangarad mae'r Maes, dros y bont mae canol tref Pontypridd, ac mae pobl wedi cael eu hannog i fynd yno i roi hwb i fusnesau'r dref yn ogystal â busnesau'r Eisteddfod.

    A hithau'n ddiwrnod braf, mae bwytai a’r farchnad leol i weld yn brysur iawn heddiw!

    Pontypridd
    Pontypridd
  3. Pob ifanc eisiau mwy o gerddoriaeth Gymraeg - ymchwilwedi ei gyhoeddi 14:19 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae adroddiad "arloesol, cyntaf o’i fath" wedi cael ei gyhoeddi y bore 'ma sy'n edrych ar y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg trwy eiriau a barn pobl ifanc.

    Mae'r ymchwil - gan gyrff Amlen a Beacons Cymru - yn awgrym o farn pobl ifanc ynghylch diwydiant cerddoriaeth Cymraeg ei iaith, a beth maen nhw’n dymuno ei weld ar gyfer ei ddyfodol.

    Casglwyd nifer o ystadegau gan gynnwys agwedd pobl tuag at gerddoriaeth Gymraeg, darpariaeth ddaearyddol, hygyrchedd trwy drafnidiaeth i ddigwyddiadau a mwy o amrywiaeth yn ein gwyliau.

    Pan ofynnwyd y cwestiwn “Beth hoffet ti weld yn nyfodol y diwydiant cerddoriaeth iaith Gymraeg?” ateb 82% oedd “mwy" - mwy o amrywiaeth, gigs, caneuon a lein-yps dwyieithog, cyfleoedd gyrfaoedd, a gwell ymwybyddiaeth am y cyfleoedd yna.

    Mae'r data yn awgrymu nad oes digon yn cael ei ddarparu ar gyfer y gogledd a’r canolbarth, ac mae dymuniad i weld mwy o drafnidiaeth, cyllid a gigs i bobl ifanc o gymunedau gwledig.

    Mae'r adroddiad ar gael i'w ddarllen yn llawn yma., dolen allanol

    Yws GwyneddFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Yws Gwynedd ar Lwyfan y Maes nos Sul

  4. Sut mae dyblu defnydd o'r iaith?wedi ei gyhoeddi 14:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae cyfarwyddwr Mentrau Iaith Cymru, Myfanwy Jones wedi bod yn siarad mewn sesiwn ar ddyblu defnydd o’r iaith.

    Fe wnaeth hi gydnabod bod “diffyg awydd, diffyg hyder, diogi, a rhesymau seicolegol cymhleth eraill pam bod pobl ddim yn defnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw”.

    Mae’n rhaid i weithgareddau’r mentrau, felly, fod yn ddefnyddiol, safonol, apelgar a hwyl.

    Mae’n bwysig hefyd, meddai, eu bod nhw’n tynnu sylw at yr holl weithgareddau maen nhw’n eu rhedeg - er enghraifft gwyliau fel Tafwyl, lle nad yw pobl wastad yn ymwybodol mai’r fenter iaith leol sy’n ei threfnu.

    Myfanwy Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Bu Myfanwy Jones yn sgwrsio gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio hefyd

  5. Cofio Brynley Roberts yn y Babell Lênwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Cofio un o feibion Aberdâr - Brynley Roberts - oedd sesiwn amser cinio yn y Babell Lên.

    Yn fab argraffydd yn Aberdâr roedd yn un o ysgolheigion pennaf Cymru, gan arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol ac Edward Llwyd, a rhwng 1985 a 1994 ef oedd y Llyfrgellydd Cenedlaethol.

    Rhoddwyd teyrngedau cynnes iddo gan Gwerfyl Pierce Jones, Rhidian Griffiths a Robert Rhys.

    Cofio Brynley Roberts
  6. Eisteddfod gyntaf Efawedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Dyma Eisteddfod gyntaf Efa, sy'n chwe mis oed!

    Mae ei rhieni Dafydd a Sioned o Gaerdydd wedi teithio i'r Maes ar y trên, ac yn edrych ymlaen at grwydro’r holl stondinau.

    Eisteddfod
  7. Ashok Ahir yn ffafrio 'Eisteddfod drefol'wedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Wrth ymddangos ar raglen Dros Ginio ddoe ar faes yr Eisteddfod, gofynnodd y cyflwynydd, Rhodri Llywelyn wrth Lywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod, Ashok Ahir os oes "well ganddo Eisteddfod drefol?"

    Ymateb Mr Ahir oedd: “Yn bersonol, yn bendant. Fel cadeirydd dwi wastad wedi pwsho y penderfyniadau hynny.

    "Ni’n gweithio’n agos iawn gyda’r Gymdeithas Llywodraeth leol a siapio ble fydd y Steddfod yn mynd yn y pump i 10 mlynedd nesaf.

    “Mae’n bwysig ein bod yn mynd i ardaloedd cefn gwlad ac ardaloedd ar yr arfordir, ond hefyd ry’n ni angen mynd mor aml â phosib i ble mae poblogaeth Cymru."

    Ashok AhirFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  8. Canlyniadau cynta'r dydd o'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, sydd wedi ennill yr Ensemble lleisiol rhwng 3 a 6 mewn nifer.

    Fe fyddwn yn diweddaru ein tudalen ganlyniadau yn ystod y prynhawn.

    Gallwch weld mwy o uchafbwyntiau'r Pafiliwn yma.

    Disgrifiad,

    Ensemble lleisiol rhwng 3 a 6 mewn nifer

  9. Beth sydd i ddod ar lwyfan y Pafiliwn?wedi ei gyhoeddi 13:18 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    • Unawd cerdd dant 16 ac o dan 21 oed - 13:25
    • Dawns unigol 12 oed a throsodd - 13:45
    • Unawd 16 ac o dan 19 oed - 14:05
    • Unawd alaw werin 16 ac o dan 21 oed - 14:40
    • Dawns i bâr | triawd | pedwarawd - 15:00

    Yna bydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen - am 16:00.

    Fe allwch chi wylio'r cystadlu'n fyw ar wefan S4C Clic, dolen allanol.

    PafiliwnFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  10. Plant Derec Williams yn cyflwyno medalau i Penri Roberts a Linda Gittinswedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Medal Goffa Syr TH Parry-Williams

    Mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn mae Medal Goffa Syr TH Parry-Williams wedi cael ei chyflwyno i Penri Roberts a Linda Gittins.

    Fe wnaeth Mr Roberts a Ms Gittins, ynghyd â'r diweddar Derec Williams, sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.

    Plant Derec Williams, Branwen ac Osian, fu'n cyflwyno'r medalau i Mr Roberts a Ms Gittins, a bu côr o aelodau Cwmni Theatr Maldwyn yn canu rhai o'r hen ffefrynnau o'u sioeau dros y blynyddoedd.

    Mae mwy o wybodaeth am y wobr, a Mr Roberts a Ms Gittins, yn yr erthygl yma.

    Medal Goffa Syr TH Parry-Williams
  11. Cinio yn yr haul neu'r cysgod?wedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae hi'n amser cinio, ac i eisteddfodwyr mae dau opsiwn felly.

    Bwyta yn yr haul...

    Eisteddfod

    Neu yn y cysgod!

    Eisteddfod
  12. Mwy o staff ym Maes B er mwyn sicrhau diogelwchwedi ei gyhoeddi 12:43 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae pobl ifanc wedi bod yn dechrau cyrraedd safle gwersylla Maes B y bore 'ma.

    Bydd y gigs yn dechrau yno nos fory, pan fydd Yws Gwynedd yn cloi'r noson yn dilyn perfformiadau gan Sywel Nyw, Kim Hon, HMS Morris, Y Dail a Dadleoli.

    Maes B

    Roedd yr ardal ieuenctid, a’r gigiau oedd yno, yn boblogaidd tu hwnt ym Moduan y llynedd.

    Ond fe wnaeth hynny arwain at rai trafferthion, gyda phobl yn gorfod ciwio am oriau yn y gwres i gael mynediad - a’r Eisteddfod wedyn yn cadarnhau bod person wedi’i arestio, a bod cyffuriau a chyllell wedi’u canfod wrth archwilio’r rheiny oedd yn dod i mewn.

    Dywedodd pennaeth cyfathrebu’r Eisteddfod, Gwenllian Carr bod ganddyn nhw fwy o staff ym Maes B eleni er mwyn sicrhau diogelwch.

    Maes B
  13. 'Proses wedi cychwyn' ar derfynu aelodaeth Huw Edwardswedi ei gyhoeddi 12:33 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst
    Newydd dorri

    Mae'r Eisteddfod wedi rhyddhau datganiad i'r wasg gan Gofiadur yr Orsedd, Christine James, dan y teitl "Terfynu aelodaeth o'r Orsedd".

    Un llinell sydd i'r datganiad, ac mae'n darllen: "Mae proses wedi cychwyn ac nid yw’r briodol i Orsedd Cymru wneud unrhyw sylw pellach tan i’r broses ddod i derfyn."

    Rydyn ni'n gwybod fod bwrdd yr Orsedd wedi bod yn cyfarfod heddiw i drafod dyfodol y cyn-ddarlledwr Huw Edwards wedi iddo bledio yn euog i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant.

    Ond roedden ni'n deall na fydd cyhoeddiad na datganiad ar y mater gan fwrdd yr Orsedd heddiw.

    Bydd unrhyw benderfyniad yn gorfod cael ei gytuno arno yng nghyfarfod cyffredinol bwrdd yr Orsedd, fydd yn digwydd ddydd Iau.

    Huw Edwards
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Edwards ei dderbyn i’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2022

  14. Medal TH Parry-Williams i sefydlwyr Cwmni Theatr Maldwynwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30 bydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn cael ei chyflwyno i Penri Roberts a Linda Gittins.

    Fe wnaeth Mr Roberts a Ms Gittins, ynghyd â'r diweddar Derec Williams, sefydlu Cwmni Theatr Maldwyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth ym 1981.

    Maen nhw'n derbyn y wobr am "gynnig profiadau amhrisiadwy i bobl ifanc cefn gwlad canolbarth Cymru".

    Dyma'r tro cyntaf i fwy nag un person dderbyn y fedal, sy'n cydnabod cyfraniad gwirioneddol yr enillydd i'w ardal leol – yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.

    Bydd modd dilyn y seremoni'n fyw ar S4C Clic, dolen allanol.

    Penri Roberts a Linda GittinsFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  15. 'Co ni off de'wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae criw BBC Radio Cymru yn ôl gyda chi o'r Maes heddiw.

    Bydd Shân Cothi a Steffan Rhys Hughes yn darlledu rhwng 11:00 a 13:00, ac yna o 14:00 tan 17:00, gyda Ffion Emyr yn gwmni yn crwydro'r maes.

    Cliciwch yma i wrando'n fyw, neu mae modd gwrando o fewn y llif byw trwy glicio ar y botwm "gwrando'n fyw" ar dop y dudalen.

    Shân Cothi a Steffan Rhys Hughes
  16. Mae'r beirniaid yn barodwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae beirniaid yr unawd sioe gerdd - Samuel Wyn Morris a Sophie Evans wedi cymryd eu lle wrth y bwrdd yn barod am y gystadleuaeth.

    Mae Samuel Wyn Morris yn enwog am chwarae rhan Enjolras yn sioe gerdd Les Miserables yn y West End a Sophie Evans am chwarae rhan Glinda yn sioe gerdd Wicked.

    Samuel Wyn Morris a Sophie Evans
  17. Y pafiliwn yn llenwi ar gyfer yr unawd Sioe Gerddwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae'r Pafiliwn wedi dechrau llenwi ar gyfer dechrau'r gystadleuaeth unawd allan o Sioe Gerdd o dan 19 oed.

    Mae'n gystadleuaeth boblogaidd iawn, gyda 45 o gystadleuwyr yn y rhagbrawf ddoe.

    Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws Derec Williams, Cwmni Theatr Maldwyn, a gwobr ariannol o £1,000.

    Gallwch wylio'r cystadlu'n fyw ar wefan S4C Clic, dolen allanol.

    Pafiliwn
  18. Pwy sydd ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    • Aelodau o gorau Aloud - 12:30
    • Côr Cwm Rhondda - 14:00
    • Dadleoli - 15:30
    • Pedair - 16:45
    • Hyll - 18:00
    • Kim Hon - 19:20
    • Mellt - 21:00
    Llwyfan y MaesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  19. Torf fawr yn mwynhau Sioe Cywwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Mae maes parcio'r Emporiwm yn y Pentre Plant yn llawn. All ond olygu un peth...

    Emporiwm

    Mae Sioe Cyw ymlaen!

    Cyw
  20. 'Galw aruthrol' am gyrsiau dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 11:20 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst

    Yn siarad ar Dros Frecwast y bore 'ma o faes yr Eisteddfod, dywedodd Dona Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol eu bod yn cyhoeddi eu cynllun strategol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf heddiw er mwyn “gosod uchelgais" y sector am y dyfodol.

    “Mae 'na fwrlwm ym Maes D… mae 'na ymholiadau di-ri yn dod," meddai.

    "'Da ni wrthi’n recriwtio ar gyfer ein cyrsiau mis Medi ar hyn o bryd, a'r niferoedd yn uchel tu hwnt, a dyna 'da ni’n gweld o fewn y sector dysgu Cymraeg ydy twf a chynnydd - y galw aruthrol.

    "Ein huchelgais ni ydy parhau i gyrraedd cymaint o bobl ag sy'n bosib."

    Dona Lewis