Crynodeb

  1. Diolch am ymunowedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Rydyn ni'n mynd i ffarwelio â chi am y tro.

    Felly, beth rydyn ni'n ei wybod hyd yma?

    • Mae dyn - sydd heb ei enwi eto - wedi marw yn dilyn ar ôl i ddau drên daro'n erbyn ei gilydd ger Llanbrynmair, Powys nos Lun
    • Roedd y dyn yn teithio ar drên oedd yn mynd i gyfeiriad Aberystwyth a chafodd 15 person arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd
    • Roedd un o'r trenau yn teithio o Amwythig i Aberystwyth a'r llall o Fachynlleth i Amwythig
    • Mae adroddiadau fod un trên wedi llithro ac wedi methu â dod i stop
    • Does yna ddim trenau yn teithio ar Reilffordd Calon Cymru ddydd Mawrth chwaith oherwydd amodau gwael
    • Mae'r digwyddiad yn debygol o achosi oedi a thrafferthion teithio mewn ardal sydd eisoes yn wynebu cau rhan o'r A470 i drwsio rhan o'r ffordd.

    Yn y cyfamser, bydd unrhyw ddiweddariadau am y stori yma ar gael i'w darllen fan hyn.

    Diolch i chi am ddilyn ein llif byw heddiw. Hwyl fawr.

    tren
  2. Disgwyl i'r gwrthdrawiad amharu ar wasanaethau am rai diwrnodauwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Yn sgil y gwrthdrawiad does yna ddim trenau yn teithio rhwng Yr Amwythig ac Aberystwyth ond mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu ffordd arall o deithio.

    Oherwydd bod ffyrdd cyfagos ar gau does yna'r un gwasanaeth o orsaf Caersws.

    Does yna ddim trenau yn teithio chwaith rhwng Amwythig a Machynlleth ond mae yna drenau yn teithio rhwng Machynlleth a Phwllheli.

    Mae disgwyl i'r gwrthdrawiad amharu ar wasanaethau am rai diwrnodau wrth i'r ymchwiliadau barhau.

    Yn y cyfamser mae ffordd yr A470 rhwng Carno a Chomins-Coch hefyd ar gau ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i deithio ar ffyrdd eraill.

  3. Uchel Siryf Powys yn canmol y gwasanaethau bryswedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Mae Uchel Siryf Powys, Katherine Silk, ymhlith nifer sydd wedi canmol ymdrechion cyflym y gwasanaethau brys.

    Fe wnaeth Ms Silk hefyd gydymdeimlo gyda theulu y dyn fu farw a dymuno'n dda i'r rhai a gafodd eu hanafu.

    Ambiwlans
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon wyth ambiwlans i'r safle

  4. Effaith ar drafnidiaeth ysgolwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Cyngor Powys

    Bydd trafnidiaeth i ddisgyblion ysgol sy’n byw yn ardal Talerddig yn cael ei effeithio gan y ddamwain.

    Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Er bod y darparwr cludiant ysgol yn ceisio lleihau’r effaith cymaint â phosib, fe fydd yn cael ei amharu tra bod yr A470 yn yr ardal yma yn parhau ar gau."

  5. Gwyliwch: Y diweddaraf o safle'r gwrthdrawiadwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Mari Grug
    Gohebydd BBC Cymru ar leoliad

  6. Cynghorydd Elwyn Vaughan: 'Pwysig bod Bronglais ac ambiwlans yn agos'wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Wrth siarad â'r BBC, dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sy'n gwasanaethu ward Glantwymyn ar Gyngor Powys fod y lein yn un bwysig i'r ardal leol.

    Dywedodd fod "nifer o drigolion ac ymwelwyr yn defnyddio'r lein yn gyson ac yn ddyddiol" gan ychwanegu fod "angen atebion".

    "'Da ni angen lleddfu pryderon a chael atebion cyn gynted â phosib."

    Aeth ymlaen i sôn am bwysigrwydd cael ysbyty yn agos i'r lleoliad. "Oedd e’n bwysig iawn fod Bronglais ddim yn rhy bell, ac mae’n dangos pwysigrwydd Bronglais. Mae hefyd yn dangos pwysigrwydd cael gwasanaeth ambiwlans os ga’i ddeud a phresenoldeb hynny bedair awr ar hugain ar stepen drws".

    Disgrifiad,

    Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, mae angen lleddfu pryderon pobl leol am y digwyddiad

  7. ‘Hanfodol cael dealltwriaeth fanwl o beth ddigwyddodd’wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb trafnidiaeth TSSA Maryam Eslamdoust ei bod yn "hanfodol cael dealltwriaeth fanwl o’r hyn ddigwyddodd" gan fod diogelwch rheilffyrdd yn flaenoriaeth.

    Maryam Eslamdoust, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb TSSAFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Maryam Eslamdoust, Ysgrifennydd Cyffredinol undeb TSSA

    Ychwanegodd: “Mae ein hundeb yn tristáu’n fawr pan mae rhywun yn colli bywyd neu yn cael ei anafu ar y rhwydwaith rheilffyrdd ac rydym yn anfon ein cydymdeimlad at deuluoedd a ffrindiau’r rhai fu’n gysylltiedig â’r digwyddiad hwn.”

  8. Canslo gwasanaethau Rheilffordd Calon Cymru ddydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar drac sengl yn agos i'r ddolen lle mae trenau sy'n teithio i gyfeiriadau gwahanol yn pasio ei gilydd.

    Yn gynharach ddydd Llun fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru rybuddio teithwyr bod eu trenau yn teithio ar gyflymder arafach drwy orsaf Cyffordd Dyfi gan fod y trac yn "eithriadol o lithrig", medd adroddiad gan asiantaeth newyddion PA.

    Ddydd Mawrth mae holl wasanaethau rheliffordd Llinell Calon Cymru wedi'u canslo oherwydd "amodau gwael ar y rheilffordd".

    Llinell Calon CymruFfynhonnell y llun, Wicipedia
    Disgrifiad o’r llun,

    Does yna ddim trenau yn teithio ar Reilffordd Calon Cymru ddydd Mawrth

  9. Miles yn diolch i'r gwasanaethau bryswedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    X (Twitter gynt)

    “Rwy’n hynod ddiolchgar i weithwyr y gwasanaethau brys a staff ysbytai sy’n gofalu am bobl yn sgil y digwyddiad rheilffordd ym Mhowys neithiwr," meddai Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Jeremy Miles.

    “Mae fy meddyliau gydag anwyliaid y dyn a gollodd ei fywyd a phawb fu'n gysylltiedig â'r digwyddiad.”

  10. Damwain 'drasig' - undeb RMTwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Dywedodd Mick Lynch, ysgrifennydd cyffredinol undeb RMT, fod y digwyddiad yn un "trasig".

    "Mae meddyliau pawb yn RMT gyda theulu a ffrindiau’r teithiwr a fu farw, a’r holl griw trên a’r cyhoedd sy’n teithio a gafodd eu hanafu yn ystod y ddamwain hon."

    Mick LynchFfynhonnell y llun, PA Media
  11. Y Senedd i drafod y digwyddiadwedi ei gyhoeddi 11:45 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Llywodraeth Cymru

    Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates wedi cydymdeimlo gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan ddweud mai diogelwch yw’r flaenoriaeth.

    Bydd y digwyddiad yn cael ei drafod yn y Senedd ym Mae Caerdydd y prynhawn yma, ac mae disgwyl i Mr Skates wneud datganiad.

    Mae'n dilyn ceisiadau am gwestiwn brys gan wleidyddion Ceidwadol, Plaid Cymru a Llafur.

    Ken SkatesFfynhonnell y llun, Getty Images

    Yn y cyfamser, fe ddywedodd Mr Skates mewn datganiad: "Fe fydd Rheilffordd Cambrian i’r dwyrain o Fachynlleth wedi cau tra bod timau arbenigol yn parhau gyda’u hymchwiliadau, ac rydym yn annog teithiwr i beidio teithio ar y rhan yma o’r rhwydwaith.

    "Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwasanaethau brys wnaeth fynd i’r lleoliad a helpu ein teithwyr a staff.

    "Diogelwch ein teithwyr a staff yw ein blaenoriaeth - fel bob amser.

    "Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r holl asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau brys a Changen Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd, er mwyn deall beth ddigwyddodd ac mae ganddyn nhw fy nghefnogaeth lawn."

  12. Gwyliwch: Yr olygfa o'r awyr drannoeth y ddamwainwedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

  13. 'Pwysig i ni beidio dyfalu'wedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Cafodd y digwyddiad ei ddisgrifio fel un "trasig" gan Aelod Seneddol dros Drefaldwyn a Glyndŵr, Steve Witherden.

    "Mae fy meddyliau gyda theulu’r dyn fu farw a’r 15 arall sydd wedi eu hanafu ac yn yr ysbyty," meddai.

    "Rwy’n siŵr y byddai’r bobl oedd yn rhan o’r ddamwain a’u teuluoedd eisiau atebion cyn gynted â phosib ond rwy' hefyd yn credu bod hi’n bwysig i ni beidio â dyfalu a gadael i’r ymchwiliad wneud y gwaith."

    Diolchodd hefyd i’r gwasanaethau brys am eu gwaith.

  14. Diogelwch rheilffyrdd yn 'flaenoriaeth'wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Llywodraeth y DU

    "Mae’n ddrwg iawn gen i glywed bod un dyn wedi marw a llawer o rai eraill wedi’u hanafu yn y ddamwain trên ym Mhowys," meddai'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Louise Haigh.

    "Mae fy meddyliau gyda phawb sy’n gysylltiedig, a’u teuluoedd.

    "Rwyf hefyd am ddiolch i’r gwasanaethau brys a ymatebodd mor gyflym neithiwr ac sy’n aros yn y lleoliad.

    "Diogelwch ar ein rheilffyrdd yw fy mlaenoriaeth lwyr ac rydym yn gweithio’n gyflym gyda Thrafnidiaeth Cymru a Network Rail i ddeall beth ddigwyddodd a sut y gallwn ei atal yn well wrth symud ymlaen."

    Louise Haigh
    Disgrifiad o’r llun,

    Louise Haigh ydy Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU

  15. 'Wnes i weld y trên wedi stopio'wedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    X (Twitter gynt)

    Mae'r sylwebydd pêl-droed Dylan Llewelyn wedi dweud, dolen allanol iddo weld safle’r ddamwain ar ei ffordd adref i'r gogledd neithiwr.

    Roedd wedi dal y trên i Gaersws, cyn gyrru yn ei flaen mewn car i Bwllheli.

    Dywedodd ar safle X, neu Twitter gynt: “Wnes i weld y trên wedi stopio ar ochr Llanbrynmair o oleuadau traffig Talerddig.

    "Roedd y ddau drên i’w gweld yn sefyll efo’r goleuadau ymlaen felly [croesi bysedd] bod y gwasanaethau brys yno fel rhagofal, yn hytrach na bod eu hangen nhw."

  16. Union leoliad y ddamwainwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Dyma fap sy'n dangos lle ddigwyddodd y ddamwain, ar reilffordd y Cambrian mewn lleoliad gwledig gyda thrac sengl, yn agos at ddolen basio lle gall trenau sy’n teithio i gyfeiriadau gwahanol basio ei gilydd.

    Yn gynharach ddoe, roedd Trafnidiaeth Cymru - oedd yn rhedeg y ddau drên fu'n rhan o'r digwyddiad - wedi dweud wrth deithwyr fod gwasanaethau'n rhedeg ar gyflymder is trwy orsaf Cyffordd Dyfi - sydd ar yr un lein - oherwydd bod trenau blaenorol wedi dweud bod y trac yn "hynod llithrig".

    Heddiw, fe wnaeth TC atal yr holl wasanaethau ar reilffordd ar wahân - Calon Cymru - oherwydd "amodau rheilffordd gwael".

    union leoliad y ddamwain ar fap
  17. Datganiad i ddodwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Trafnidiaeth Cymru

    Mae disgwyl i Drafnidiaeth Cymru ddarllen datganiad i'r wasg yn ardal Talerddig am 11:00.

  18. Faint o bobl gafodd eu hanafu?wedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Mae 'na rywfaint o ddryswch wedi bod y bore 'ma ynglŷn â faint o bobl a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad neithiwr.

    Er i'r gwasanaeth ambiwlans ddweud yn gynharach mai saith o bobl gafodd eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau, mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi cadarnhau bellach mai 15 ydy'r ffigwr mewn gwirionedd.

    Dyna oedd yn cael ei adrodd yn wreiddiol gan y gwasanaethau brys.

    I'ch atgoffa, nid yw'r anafiadau yna yn rhai sy'n peryglu na chwaith yn rhai sy'n newid bywyd, yn ôl yr awdurdodau.

  19. Gwaith casglu tystiolaeth wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Mae Asiantaeth Llywodraeth y DU sydd yn ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd (RAIB) wedi cadarnhau eu bod wedi anfon arolygwyr i safle'r ddamwain yn Llanbrynmair neithiwr.

    Maen nhw'n nodi y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar anfon mwy o adnoddau ar ôl archwilio’r safle.

    Prif fwriad tîm RAIB yw casglu tystiolaeth a gweithio drwy safle'r ddamwain.

    Mae disgwyl mwy o fanylion gan yr asiantaeth maes o law.

    Cerbydau ymchwilio

    Bydd yr arolygwyr yn ceisio darganfod recordiad o ddata'r trenau y gallai gael eu defnyddio a’u dadansoddi.

    Byddan nhw ar y safle er mwyn cyfweld y tystion, ac archwilio'r ddau drên a’r trac, gan weld a oes yna gamerâu CCTV yn bodoli ar y trenau.

    Yna bydd yr RAIB yn ceisio canfod sut ddigwyddodd y ddamwain ac yna gwneud argymhellion.

    Yn gyffredinol y bwriad yw cwblhau ymchwiliad o'r fath o fewn blwyddyn.

  20. 'Ychwanegu at drafferthion traffig yr ardal'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref 2024

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae'r ddamwain am achosi trafferthion trafnidiaeth ychwanegol, meddai Ifan Edwards, sy'n byw yn lleol.

    Mae rhan o'r A470 am fod ar gau am bron i ddeufis o ddiwedd Hydref i drwsio'r ffordd.

    “’Dyw rhywun ddim yn disgwyl ei weld felly, mae‘n eitha concerning ac i feddwl bod nhw yn pasio defnyddio trên i gludo disgyblion i’r ysgol gan bod y ffordd yn cau yn yr ardal yma am saith wythnos."

    Ym mis Tachwedd y llynedd fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig ym Mhowys i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd
    Disgrifiad o’r llun,

    Ym mis Tachwedd y llynedd fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig ym Mhowys i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd

    Ychwanegodd: “Y poendod mwya' yw bod ni yr ochr wrong i’r gwaith i fynd â’r plant i’r ysgol i Fachynlleth.

    "Yr alternative route nawr yw mynd â nhw i Gaersws a defnyddio trên gan obeithio bydd y trên yn rhedeg wythnos nesaf."