Crynodeb

  1. Eluned Morgan yn ymatebwedi ei gyhoeddi 06:56 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Mae fy meddyliau gyda phawb a fu'n rhan o'r digwyddiad rheilffordd ym Mhowys yn gynharach heno.

    "Hoffwn ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb ac rwyf wedi gofyn am gael gwybod am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y nos."

  2. Beth ydyn ni'n ei wybod hyd yma?wedi ei gyhoeddi 06:40 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Cafodd swyddogion eu galw tua 19:29 neithiwr ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel ger Llanbrynmair, Powys.

    Cadarnhaodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru bod y gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad rhwng y trên 18:31 o Amwythig i Aberystwyth a thrên 19:09 o Fachynlleth i Amwythig.

    Mae Heddlu-Dyfed Powys wedi cau ffordd yr A470 yn ardal Talerddig ac yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.

    map

    Bore 'ma, daeth cadarnhad fod dyn wedi marw yn y digwyddiad a bod ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

    Cafodd 15 person arall eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried fel rhai sydd yn peryglu nac yn newid bywyd.

    Mae'r holl deithwyr eraill bellach wedi cael eu symud o'r ddau drên.

  3. Diolch am ymuno â niwedi ei gyhoeddi 06:30 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Bore da. Newyddion mawr yn torri dros nos wrth i Heddlu Trafnidiaeth gadarnhau fod dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên.

    Cafodd swyddogion eu galw tua 19:29 nos Lun ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel ger Llanbrynmair.

    Fe gafodd 15 person arall hefyd eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.

    Byddwn yn dod â'r newyddion a'r ymatebion diweddaraf i chi yma drwy gydol y dydd wrth i'r stori ddatblygu.