Crynodeb

  1. Lluniau: Difrod i'w weld yng ngolau dyddwedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Mae 'na fwy o luniau wedi'n cyrraedd ni sy'n dangos y difrod.

    tren1
    tren2
    tren3
  2. Tua 40 o bobl ar y trenauwedi ei gyhoeddi 09:45 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    BBC Radio Wales

    Roedd y dyn fu farw yn teithio ar y trên oedd yn mynd tua'r gorllewin i gyfeiriad Aberystwyth, yn ôl Jan Chaudhry-Van Der Velde o Drafnidiaeth Cymru.

    "Roedd y trên hwnnw'n teithio o'r Amwythig ac roedd tua 37 o deithwyr ar y trên penodol hwnnw tua'r gorllewin ac roedd pedwar teithiwr ar y trên tua'r dwyrain," meddai.

    Wrth droi i drafod yr ymchwiliad sydd eisoes wedi'i lansio, ychwanegodd fod gan Gymru un o'r rheilffyrdd mwyaf diogel yn Ewrop.

    "Mae gennym hefyd un o'r sefydliadau Ymchwilio i Ddamweiniau mwyaf proffesiynol sy'n gweithredu yn y DU," meddai wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast.

    "Cyrhaeddodd eu staff ymchwilio i'r safle yn hwyr neithiwr. Maen nhw'n dal i fod yna nawr a byddan nhw'n edrych ar bob elfen a allai fod wedi achosi hyn.

    "Fe fydden nhw’n cynhyrchu rhyw fath o fwletin yn ystod y dyddiau nesaf gyda rhai casgliadau cynnar ac yna byddan nhw'n cynhyrchu adroddiad llawn unwaith y bydden nhw wedi edrych ar bob rhan o’r dystiolaeth. Fe allai hynny gymryd sawl mis."

  3. 'Angen atebion mor fuan â phosib'wedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    “Dyna yw y cwestiwn hanfodol ynde: pam?"

    Dyna oedd ar feddwl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, sydd yn gwasanaethu ward Glantwymyn ar Gyngor Powys.

    Roedd yn siarad ar Dros Frecwast ac yn holi'r cwestiynau am sut y gallai damwain o'r fath fod wedi digwydd.

    "Ydi o yn fater ar y trên ei hun? Ydi o yn gyflwr y trac, achos mae rhai yn honni bod y trac yn llithrig iawn?

    "Ynte ydi o yn rhywbeth am y system signalau sydd yn weddol newydd? Felly mae angen gwybodaeth arnon ni, mae angen ymchwiliad ac mae angen atebion mor fuan â phosib.

    “Mae’n bryder, mae’n lein pwysig iawn yn y canolbarth yma yn uno yr arfordir gyda chanolbarth Lloegr.”

    Elwyn Vaughan
  4. Galw am drafodaeth yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Mae Aelod o'r Senedd Ceidwadol Sir Drefaldwyn, Russell George, wedi gofyn am gwestiwn brys yn y Senedd am y ddamwain trên.

    Bydd angen i’r mater gael ei gymeradwyo gan y llywydd, Elin Jones, cyn iddo fynd yn ei flaen heddiw.

  5. Pa mor gyffredin ydy digwyddiadau fel hyn?wedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    SalisburyFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Llun o'r difrod ar ôl damwain rhwng dau drên ger Twnnel Fisherton rhwng Andover a Salisbury yn Wiltshire ym mis Hydref 2021

    Fel wnaeth yr arbenigwr trafnidiaeth, Rhodri Clark, grybwyll yn gynharach, mae digwyddiadau fel yr un yma yn anghyffredin iawn.

    Ym mis Hydref 2021, roedd yn rhaid i 13 o deithwyr a gyrrwr gael triniaeth ysbyty ar ôl damwain rhwng dau drên y tu allan i dwnnel ger Salisbury, Wiltshire.

    Llithrodd trên o'r South Western Railway ar ddail wedi'u malu, gan achosi iddo lithro heibio signal stopio a tharo mewn i ochr trên Great Western Railway.

    Mae cyfyngiadau cyflymder yn aml yn cael eu gosod mewn ymgais i leihau damweiniau.

    Mae dail yn achosi aflonyddwch mawr bob hydref pan fyddan nhw'n glynu wrth reiliau llaith ac yn cael eu cywasgu gan olwynion trên.

    Mae hyn yn creu haen llyfn, llithrig tebyg i iâ du ar ffyrdd, gan leihau gafael - neu grip - trenau.

  6. Y tywydd yn ffactor?wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Bydd ymchwiliad yn dilyn, ac mae Rhodri Clark - yr arbenigwr trafnidiaeth - yn pwysleisio bod angen dod o hyd i beth achosodd y ddamwain, er mwyn osgoi'r un peth rhag digwydd eto.

    Mae'n cynnig awgrym am beth allai fod wedi digwydd, yn dilyn y tywydd hydrefol diweddar.

    "O weld y lluniau mae 'di atgoffa fi o ddamwain dair blynedd yn ôl yn Salisbury; roedd 'na ddau drên o’r un math wedi gwrthdaro, ac un o’r achosion fan'na oedd bod y cledrau yn llithrig oherwydd bod dail wedi cwympo a bod yna lysnafedd ar hyd top y cledrau.

    "Wedyn pan mae’r trên yn trio brêcio dyw’r olwynion ddim yn glynu at dop y cledrau ac mae’r trên yn gallu llithro heibio.

    "I atal hynny mae Network Rail yn danfon trên arbennig dros bob llinell yn rheolaidd sydd yn golchi y trac.

    "Dwi'n meddwl bod y trên yma wedi pasio drwy'r ardal yma ger Llanbrynmair amser cinio ddoe, felly mae’n rhyfedd os taw hwnna oedd yr achos, neu rhan o’r achos. Ond eto i gyd falle bod y trac wedi bod yn llithrig."

  7. Gwyliwch: Beth sydd wedi digwydd hyd yma?wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Craig Duggan
    Gohebydd BBC Cymru ar leoliad

  8. Aelod Seneddol yn cwestiynu'r drefn signaluwedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Yn ôl yr Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, mae angen, o bosib, edrych ar y system signalau sydd mewn lle ar y rheilffordd yn yr ardal ble ddigwyddodd y ddamwain.

    "Yn amlwg mi ydan ni yn dyfalu am yr hyn sydd yn digwydd ar hyn o bryd," meddai Liz Saville Roberts ar Dros Frecwast.

    "Falle bydd yna gwestiynau cynnar am y drefn signalu – mae’n drefn maen nhw’n ei alw yn ETCS ac roedd lein y Cambrian yn un o’r rhai cynharaf; mae’r drefn ETCS wedi bod ar y lein yna ers 2011.

    "Mae’r drefn yna o reoli signalu y trenau yn cael ei rolio allan fel 'da ni yn siarad ar y prif leiniau trwy Brydain ben baladr, felly mae’n andros o bwysig bod ni yn cael at wraidd yr hyn sydd wedi digwydd."

    Liz Saville Roberts

    Mae hi hefyd yn estyn ei chydymdeimlad i'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio.

    “Mae’n newyddion gwbl frawychus. Mae llawer iawn o bobl yn defnyddio'r lein trên yma i fynd i’r ysgol, i fynd i’r gwaith; dwi wedi bod arni hi bythefnos yn ôl.

    "Wrth gwrs, cydymdeimlo gyda'r teulu sydd wedi colli aelod, ac mae'n rhaid bod o wedi bod yn brofiad gwbl frawychus bod ar y trên.

    "Mae calon rhywun yn mynd allan i’r teithwyr a diolch wrth gwrs i’r gwasanaethau brys sydd wedi bod yn gweithio yna drwy’r nos."

  9. Dyn fu farw 'yn deithiwr'wedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    PA Media

    Mae asiantaeth newyddion PA yn deall bod y dyn fu farw yn y gwrthdrawiad yn deithiwr (passenger).

  10. 'Mewn tipyn o boen'wedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    BBC Breakfast

    Rydyn ni wedi clywed mwy gan Anthony Hurford, un o'r teithwyr oedd ar y trên a oedd yn teithio i Amwythig neithiwr.

    "Does dim syniad gen i pa mor gyflym o’n i’n teithio - o tua 40, 50, 60mya i ddim byd o gwbl," meddai wrth BBC Breakfast.

    "Rhywsut wnaeth fy nghorff blygu un o goesau’r bwrdd a rhwygo fe oddi ar y wal.

    "Yn sydyn roeddwn i ar y llawr gyda fy laptop wedi’i wasgaru o'm mlaen, yn meddwl beth uffern oedd wedi digwydd.

    "O’n i’n meddwl bydden ni'n dal yn symud ond do’n ni ddim. Collon ni’r holl gyflymder yna mewn eiliad – rwy' mewn sioc fawr ac mae fy abdomen a fy asennau mewn tipyn o boen."

    Ychwanegodd fod y trên wedi methu stopio "am ba bynnag reswm", a bod "rhywbeth fel hyn yn anochel oherwydd diffyg gwaith cynnal a chadw ar y traciau".

  11. Ble ddigwyddodd y ddamwain?wedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn y canolbarth, ger Llanbrynmair.

    Mae Heddlu-Dyfed Powys wedi cau ffordd yr A470 yn ardal Talerddig, Powys ac yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.

    Mae'r A470 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Caersws a Glantwymyn ac mae Traffig Cymru yn annog pobl i osgoi'r ardal.

    map
  12. Saith o bobl yn yr ysbytywedi ei gyhoeddi 08:26 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref
    Newydd dorri

    Mae saith o bobl yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad neithiwr, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.

    Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Cawsom ein galw am 19:34 ddoe i ddigwyddiad ger Llanbrynmair ym Mhowys.

    "Anfonwyd wyth ambiwlans brys i’r lleoliad, lle cefnogwyd y criw gan ddau barafeddyg o Uned Ymateb Acíwt Uchel Cymru, un uwch barafeddyg, dau reolwr gweithredol, un Gwasanaeth Chwilio ac Achub ac un Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus.

    "Cyflwynwyd cymorth gofal critigol uwch gan y Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys mewn pedwar hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru a dau gar.

    "Cafodd saith claf eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans."

  13. 'Y ddau drên ddim i fod ar yr un trac ar yr un pryd'wedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Roedd yr arbenigwr trafnidiaeth, Rhodri Clark, yn trafod y ddamwain ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru: "Doedd y ddau drên yna ddim i fod ar yr un trac ar yr un pryd.

    "Wrth gwrs ar llinell y Cambrian rhwng Machynlleth a’r Amwythig dim ond un trac sydd yna i’r ddau gyfeiriad felly mae’r trenau yn dibynnu ar lefydd lle mae 'na ddau drac gydag ychydig bach o bellter iddyn nhw gael pasio yn ddiogel.

    "Mae’n debyg bod un trên fod i ddod i stop a’r llall i fod i fynd i mewn i drac arall ac mae un wedi mynd yn rhy bell, mae’n debyg, yn lle stopio lle oedd angen."

    Rhodri ClarkFfynhonnell y llun, Rhodri Clark

    Mae damweiniau o'r fath yn anghyffredin yng Nghymru, meddai.

    “Mae’n ergyd i ni mewn ffordd yng Nghymru achos ni ddim wedi cael damwain angheuol ar drên mewn 37 mlynedd – mae marwolaethau wedi bod efo croesfannau a pethe fel'na ond o ran pobl ar y trên ei hunain yn marw, mae’n beth anarferol iawn.”

  14. Trên yn dal ar y cledrauwedi ei gyhoeddi 08:05 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Craig Duggan
    Gohebydd BBC Cymru ar leoliad

    Mae'r heddlu wedi cau'r ffordd yma, lai na milltir o'r man lle digwyddodd y gwrthdrawiad.

    Mae’r A470, y brif ffordd o ogledd i dde Cymru, yn rhedeg wrth ymyl y lein ac mae’r gwasanaethau brys yn gweithio mewn man sy’n weddol agos at safle’r gwrthdrawiad.

    Mae’r trên yn dal ar y cledrau, yn ôl un o’r teithwyr a ddaeth allan ar ôl y gwrthdrawiad.

    tren
  15. Plismyn yn yr ardal am ddyddiau i ddodwedi ei gyhoeddi 07:41 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Heddlu Trafnidiaeth Prydain

    Toc cyn 1:30 bore 'ma, fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain fod dyn wedi marw yn y digwyddiad.

    Mewn datganid yn yr oriau mân, dywedodd yr Uwcharolygydd Andrew Morgan: "Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w anwyliaid, ochr yn ochr â phawb arall yr effeithiwyd arnynt ac mae swyddogion arbenigol yn parhau i ddarparu cymorth.

    "Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn gweithio’n gyflym, ynghyd â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a’r diwydiant rheilffyrdd, i ddeall yr amgylchiadau a arweiniodd at y gwrthdrawiad hwn.

    "Bydd trigolion yn gweld presenoldeb plismona cynyddol yn yr ardal yn y dyddiau nesaf o ganlyniad."

    Difrod i un o'r trenauFfynhonnell y llun, Dan Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Llun yn dangos difrod i un o'r trenau yn y digwyddiad

  16. 'Sioc mewn ardal dawel yng nghefn gwlad'wedi ei gyhoeddi 07:29 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Craig Duggan
    Gohebydd BBC Cymru ar leoliad

    Mae llawer o sioc yma. O’n i allan neithiwr ac roedd tipyn o bobl leol wedi dod allan.

    Ddim cymaint ar ôl clywed y gwrthdrawiad – 'odd neb ryw lawer wedi clywed hynny - ond yn sicr fe welodd ac fe glywodd pobl y golau glas yn y lle tawel yma.

    Dyma gefn gwlad Powys, ar y ffordd fawr ar yr A470 sydd yn rhedeg yn agos iawn at y trac rheilffordd - ond daeth pobl mas a gwylio'r ymateb gan y gwasanaethau brys.

    Siaradais i gydag un dyn a ddywedodd iddo fe gyfri bron â bod deugain o gerbydau rhwng y gwasanaethau brys gan gynnwys yr hofrenyddion hefyd. Roedden nhw wedi ymateb yn gloi i’r digwyddiad.

    Mae rhan o'r A470 yn parhau ar gau y bore 'ma
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae rhan o'r A470 yn parhau ar gau y bore 'ma

  17. Un o'r teithwyr yn ymatebwedi ei gyhoeddi 07:20 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    BBC Breakfast

    Dywedodd Anthony Hurford, teithiwr ar y trên a oedd yn teithio i Amwythig, ei fod yn "shellshocked" ar ôl y digwyddiad.

    “Yn sydyn roeddwn i ar y llawr gyda fy laptop wedi’i wasgaru o'm mlaen, yn meddwl beth uffern oedd wedi digwydd,” meddai wrth BBC Breakfast.

    Anthony Hurford
  18. Lluniau sydd wedi'n cyrraedd niwedi ei gyhoeddi 07:13 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Dyma ychydig o luniau sydd wedi ein cyrraedd ni o'r digwyddiad drwy law Dan Jones.

    Mae'n dangos difrod amlwg i o leiaf un o'r trenau.

    trenauFfynhonnell y llun, Dan Jones
    trenFfynhonnell y llun, Dan Jones
    trenFfynhonnell y llun, Dan Jones
  19. Trên 'wedi sleidio a methu stopio'wedi ei gyhoeddi 07:05 Amser Safonol Greenwich+1 22 Hydref

    Mae Ifan Edwards yn byw rhyw hanner milltir o'r digwyddiad ac fe aeth allan neithiwr i weld be ddigwyddodd ar ôl gweld goleuadau glas.

    Dywedodd ei fod wedi "gwrando ar y radio plismon yn d'eud bod 'na train incident a ffeindio allan bod dau drên wedi collidio a clywed rhai erill yn siarad a bod y trên wedi methu stopio yn Talerddig... a sleidio a sleidio a just 'di methu stopio".

    Disgrifiad,

    Ifan Edwards yn ymateb i ddamwain trên ger Llanbrynmair, Powys