Crynodeb

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    A dyna ni gan dîm llif byw Cymru Fyw am heddiw.

    Mae'n ymddangos bod Storm Éowyn bellach yn gostegu ond y cyngor o hyd yw i wirio amserlenni cyn teithio a chymryd gofal.

    Bydd y diweddaraf ar wefan Cymru Fyw heddiw a gydol y penwythnos.

    Diolch am eich cwmni - cadwch yn gynnes ac yn ddiogel.

    Aberystwyth
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa yn Aberystwyth fore Gwener

  2. Rhagolygon y tywydd dros y penwythnoswedi ei gyhoeddi 13:50 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    BBC Radio Cymru

    Wrth edrych ar dywydd y penwythnos, mae rhagor o rybuddion ar y ffordd yn ôl Robin Owain Jones, cyflwynydd tywydd Radio Cymru.

    "Bydd y gwynt yn gostegu'n raddol heno," meddai, "ac fe fydd hi'n noson sych a chlir i'r mwyafrif, gyda dim ond ambell gawod ynysig. Y tymheredd isaf yn radd o dan y rhewbwynt mewn rhai mannau mewndirol, 4 selsiws mewn ambell ardal ger y glannau.

    "Dros y penwythnos - sych a braf fory gyda chyfnodau heulog, cyn i fand o law gyrraedd o'r gorllewin yn ddiweddarach.

    "Diwrnod gwlyb a gwyntog ddydd Sul, gyda glaw cyson a thrwm yn ymledu o'r de-orllewin yn ystod y dydd - ac mae 'na ragor o rybuddion melyn am wyntoedd cryfion a glaw trwm wedi eu cyhoeddi. Y tymheredd uchaf rhwng pump a naw selsiws."

  3. Rhai busnesau yn ailagor gan gynnwys tafarn yn Nhudweiliogwedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae nifer o fusnesau wedi cau eu drysau yn ystod y bore am nad oedd ganddyn nhw drydan - yn eu plith tafarn y Lion yn Nhudweiliog ond mae'r dafarn wedi nodi ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod bellach wedi ailagor.

  4. Tonnau ac ewyn rhyfeddol ym Mhorthcawl ddydd Gwenerwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Porthcawl

    Dyma'r olygfa ryfeddol ym Mhorthcawl fore Gwener.

    Mae'r RNLI yn rhybuddio pobl i beidio mynd yn agos i'r arfordir os yw'r môr yn arw.

    Porthcawl
    Porthcawl
    Porthcawl
  5. 'Colli trydan am yr eildro yn anodd i bensiynwr'wedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Olwen Owen yn cael diod a bwyd cynnes mewn hwb yng Nghaergybi
    Disgrifiad o’r llun,

    Olwen Owen yn cael diod a bwyd cynnes mewn hwb yng Nghaergybi

    Un o'r rhai a gollodd y trydan yng Nghaergybi fore Gwener oedd Olwen Owen, 74.

    Roedd hi'n un o'r rhai aeth i'r hwb cynnes yng nghaffi Cuffed-in Coffee yn y dre - caffi a oedd yn cynnig diod a bwyd cynnes.

    "Dyma'r eildro mewn chwe wythnos iddi golli'r cyflenwad," meddai.

    "Dwi ddim yn beio'r bobl trydan. Maen nhw'n gwneud eu gorau.

    "Ond mae'n anodd ac yn gyfnod hir i bensiynwr. Mae fy nghartref cyfan yn ddibynnol ar drydan."

    Yn y cyfamser roedd Bethan Jones sy'n nain wrth ei bodd yn cael cynnal ysgol yn ei chartref bore 'ma.

    Roedd Ysgol Corn Hir a Meithrinfa Medra ar gau i Gruffydd ac Alaw, ac mae eu cyfneitherod, Weronika Dwynwen a Liwia Gwenllian yno ar wyliau o Wlad Pwyl.

    plant adref gyda nainFfynhonnell y llun, Bethan Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Bethan Jones wrth ei bodd yn cael cynnal ysgol yn ei chartref bore 'ma

  6. Y diweddaraf o ran y rhai sydd heb gyflenwad trydanwedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Am 12:00 roedd y National Grid yn adrodd bod 702 o gwsmeriaid yn parhau heb drydan yn ne a gorllewin Cymru.

    Yn gynharach fe ddywedodd cwmni Scottish Power bod 5,000 heb drydan yn rhanbarth ManWeb - rhanbarth sy'n cynnwys gogledd a chanolbarth Cymru a rhannau o lannau Mersi a Sir Gaer.

    Dywed y cwmni eu bod yn gwneud eu gorau i adfer y cyflenwad ond bod cryfder y gwynt yn gwneud y gwaith yn anodd.

    Am 12:30 roedd problemau yn parhau yn ardaloedd Bangor, Deiniolen a Bethesda yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn roedd problemau o hyd yng Nghaergybi, Dwyran, Moelfre ac Amlwch.

    Y cyngor i bobl sydd heb gyflenwad yw i fod yn amyneddgar ac os ydych am roi gwybod am ddiffyg cyflenwad rhif y llinell gymorth frys yw 105.

  7. Difrod i do rhai adeiladauwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod wedi bod yn brysur gydol y bore yn delio ag adeiladau sydd wedi'u heffeithio gan y storm.

    Roedd yna ddifrod i do adeiladau yn Johnston yn Sir Benfro, tŷ yn Y Cymer ac adeilad ar Broad Street yn Llanfair-ym-Muallt.

  8. Cyfarwydd Sw Bae Colwyn: 'Angen ystyried effaith argyfwng hinsawdd byd-eang'wedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    SwFfynhonnell y llun, Melanie Sharp
    Disgrifiad o’r llun,

    Budi yn cysgodi rhag y tywydd gwael

    Mae'r Sw Fynydd Gymreig ym Mae Colwyn ar gau gydol y dydd.

    Eglurodd Steven Lester, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes a Gweithrediadau’r Sw Fynydd Gymreig: "Cau oedd yr unig opsiwn heddiw yn sgil y tywydd a hynny er lles ein hanifeiliaid, y staff ac ymwelwyr.

    “Mae mis Ionawr, hyd yn hyn, wedi gweld sawl achos o dywydd garw ac anffafriol, ac wedi arwain at gau’r sw dros sawl diwrnod – penderfyniadau dydyn ni byth yn eu gwneud yn ysgafn.

    "Mae hyn nid yn unig yn effeithio ar y refeniw hanfodol sy'n helpu i'n cefnogi fel sw ac elusen, mae hefyd yn effeithio ar y gwesteion niferus a oedd yn edrych ymlaen at ddiwrnod allan gwych gyda ni.

    "Gyda’r argyfwng hinsawdd byd-eang yn dod â digwyddiadau tywydd eithafol mwy rheolaidd yn ei sgil, mae’n bwysig yn awr yn fwy nag erioed ein bod yn cymryd amser i fyfyrio ar y materion hyn a deall yr effaith y mae pob un o’n gweithredoedd yn ei chael ar yr amgylchedd, gan gydweithio yn y dyfodol i amddiffyn ein cymunedau a’r byd yn gyffredinol.”

    sw CaerFfynhonnell y llun, Melanie Sharp
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r sw ar gau heddiw ond dywed y cyfrawyddwr bod yr anifeiliaid yn cael pob gofal

  9. Ymateb 'anhygoel' i hwb cadw'n gynnes yng Nghaergybiwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae James Pascall yn gweithio yng nghaffi Cuffed-in Coffee ar Stryd y Farchnad Caergybi - lle sydd hefyd wedi cael ei ddynodi yn hwb cadw'n gynnes.

    Mae'r ymateb bore 'ma wedi bod yn "anhygoel", meddai.

    "Ry'n ni'n cydweithio â Scottish Power er mwyn sicrhau fod pobl sydd heb drydan yn cael rhywbeth i'w fwyta.

    "Mae'r lle hefyd yn cynnig cynhesrwydd. Dwi'n siŵr y byddai'n well gan bobl fod adre' ond o leia mae'n rhywle iddynt fod."

    james pascall
  10. Dim newid i gemau tîm hoci iâ Devils Caerdyddwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Bethan Clement
    Gohebydd Chwaraeon BBC Cymru

    Does dim newid i gemau tîm hoci iâ Devils Caerdydd sy'n chwarae dwy gêm yn y Gynghrair Elit y penwythnos hwn.

    Maen nhw oddi cartref yn erbyn Fife Flyers yfory, cyn hedfan 'nôl i Gymru ar gyfer eu gêm yng Nghaerdydd yn erbyn Belfast Giants ddydd Sul.

    Er bod y gêm yn Yr Alban yn mynd yn ei blaen, maen nhw wedi gorfod newid eu cynlluniau teithio - gyda'u hediad i Gaeredin heno wedi'i ganslo. Bydd y garfan nawr yn teithio heddiw ar fws.

  11. Y tymheredd yn codi yng Nghaergybi ond yn parhau yn wyntogwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Am 11:00 roedd y tymheredd wedi codi i 7 gradd selsiws yng Nghaergybi ond mae'n parhau yn wyntog.

    Dyma'r olygfa bellach.

    Mae yna rybudd gan Wylwyr y Glannau i beidio mentro'n agos i'r tonnau ac ardaloedd arfordirol os yw hi'n stormus.

    CaergybiFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers
  12. Dim gêm ar yr Oval heno o ganlyniad i'r tywyddwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae'r gêm yn y Cymru Premier heno rhwng Caernarfon a'r Seintiau Newydd wedi cael ei gohirio o ganlyniad i'r tywydd.

    Does dim manylion pellach hyd yma pa bryd y caiff y gêm ei chwarae. Hon fyddai'r gêm gyntaf i'r ddau dîm yn y Chwech Uchaf ers i'r gynghrair gael ei hollti'n ddwy.

    Caernarfon
  13. Difrod a gwyntoedd 114mya yn Iwerddonwedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon a'r Alban sydd wedi cael eu taro waethaf y tro hwn.

    Yn Galway mae cyflymder gwynt o 114mya wedi ei gofnodi - y cyflymder mwyaf i'w gofnodi yng Ngweriniaeth Iwerddon erioed.

    Dyma'r difrod yno.

    GalwayFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Y difrod yn Galway yn Iwerddon

  14. Tonnau mawr yn Aberystwyth fore Gwenerwedi ei gyhoeddi 11:58 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Aberytwyth

    Roedd tonnau mawr i'w gweld ar y prom yn Aberystwyth y bore 'ma, ond y cyngor yw i gadw pellter o'r môr.

    Aberystwyth
  15. Busnesau Tudweiliog yn cau am nad oes trydanwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae tafarn y Lion yn Nhudweiliog wedi cau am y tro am nad oes ganddyn nhw drydan.

    Yn gynharach roedd neges gan y Post yn Nhudweiliog yn hysbysu pobl bod y siop wedi gorfod cau am 11:00 am nad oedd ganddyn nhw drydan.

  16. Gorfod dod adref o drip ysgol i Langrannog yn gynnarwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae ysgol George, 11, yng Nghaergybi ar gau heddiw a does ganddo ddim trydan adref.

    Fe wnaeth e hefyd orfod dod adref o drip ysgol i Langrannog yn gynnar yn sgil pryderon am groesi'r bont i ddychwelyd adref.

    Gobeithio fod paned gyda'i ewythr a'i fodryb - Hywel a Mandy Jones - mewn caffi lleol yn codi ei galon!

    paned
  17. Trafnidiaeth Cymru: 'Gwiriwch eich siwrne cyn teithio'wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn annog y cyhoedd "yn gryf" i wirio amserlenni cyn teithio ar drên neu fws ddydd Gwener a dechrau'r penwythnos ac maen nhw'n rhybuddio pobl i "ddisgwyl oedi a newidiadau ".

    Mae Network Rail bellach wedi gohirio gwasanaethau i'r gorllewin o Abertawe ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein.

    Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi gohirio'r gwasanaeth rhwng Canol Wrecsam a Bidston.

  18. Y trydan yn ôl ym Mhontietswedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Roedd Pontiets yn Sir Gâr yn un o'r ardaloedd a gollodd eu cyflenwad trydan y bore 'ma ond y newyddion da yw bod y trydan yn ôl.

    Pontiets
  19. Ffordd wedi ailagor ar ôl i goeden syrthio ger Llanuwchllynwedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Llyr Edwards
    Gohebydd BBC Cymru

    Roedd yr A494 rhwng Llanuwchllyn a chanolfan Yr Urdd, Glanllyn ar gau am ychydig oriau'r bore 'ma ar ôl i goeden anferth syrthio yn y gwynt.

    Mae'r goeden bellach wedi'i chlirio a'r ffordd wedi ailagor.

    Llanuwchllyn
    Llanuwchllyn
  20. ⛅ Rhian Haf: Pa dywydd sydd i ddod?wedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Rhywfaint o dywydd gwell i ddod - medd y cyflwynydd Rhian Haf

    Disgrifiad,

    Rhagolygon y tywydd gan Rhian Haf