Crynodeb

  1. Pob ysgol ym Môn ar gauwedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae'n gohebydd yn y gogledd Carwyn Jones wedi cadarnhau fod pob ysgol ar Ynys Môn ar gau heddiw.

    Dywed y Cyngor Sir fod teuluoedd wedi cael gwybod.

    Mae Storm Éowyn ar ei gwaethaf yn Ngogledd Iwerddon a rhannau o'r Alban.

    tywydd
  2. Canolfannau ymwelwyr ar gauwedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud y bydd eu canolfannau ymwelwyr ynghau ddydd Gwener, gan annog pobl i "osgoi teithio i'n coedwigoedd a'n gwarchodfeydd".

    "Mae'r gwyntoedd cryfion a ddisgwylir gyda Storm Éowyn, wedi'i waethygu gan y difrod a achoswyd eisoes gan Storm Darragh, yn cynyddu'n sylweddol y perygl o goed a changhennau yn cwympo yn yr ardaloedd hyn," meddai llefarydd.

    "Bydd y canolfannau ymwelwyr yng Nghoed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas, yn ogystal â Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, ar gau ddydd Gwener."

    CoedFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe syrthiodd llawer o goed ar diroedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr

  3. 52 ysgol ar gau yng Ngwyneddwedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae gwefan Cyngor Gwynedd yn nodi bod 52 ysgol ar gau yn y sir.

    Y cyngor yw i rieni wirio'r wefan, dolen allanol.

    Mae nifer o athrawon wedi penderfynu dysgu ar-lein neu wedi darparu gwaith o flaen llaw i ddisgyblion.

  4. Ffyrdd ar gau ar Ynys Mônwedi ei gyhoeddi 08:05 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Cyngor Ynys Môn

    Mae ffordd yr A545 rhwng Allt Cichle a Fflatiau Glyn Garth ar gau gan bod coeden wedi disgyn ar draws y ffordd. Mae’n debyg y bydd y ffordd ar gau tan ddydd Sadwrn.

    Mae ffordd y B5109 o Fiwmares i Lansadwrn wedi cau'n rhannol gan fod coeden wedi disgyn.

    "Rydym yn gosod goleuadau traffig yno er mwyn diogelu gyrwyr," medd llefarydd.

  5. Canolfan Hamdden Caergybi ar gau - dim trydanwedi ei gyhoeddi 07:59 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae Canolfan Hamdden Caergybi wedi rhoi neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud y byddan nhw ar gau tan hanner dydd gan nad oes ganddyn nhw drydan.

    Mae nhw'n ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn dweud y byddan nhw'n diweddaru'r wybodaeth yn ystod y bore.

    Yr olygfa o Gaergybi fore Gwener
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa o Gaergybi fore Gwener

  6. Y gwynt yn hyrddio 93 milltir yr awr yn Aberdaronwedi ei gyhoeddi 07:55 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Yn ôl gwefan MeteoGuard - arbenigwyr tywydd - yn Aberdaron mae'r hyrddiadau uchaf wedi bod hyd yma sef 93mya.

    Roedd cryfder y gwynt yn 86mya yn Llanwddyn / Llyn Efyrnwy am 05:00 bore 'ma ac yn 88 mya yng Nghapel Curig am 04:00.

  7. Cyngor i rieni wirio gwefan cynghorau lleolwedi ei gyhoeddi 07:45 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae nifer o ysgolion wedi dewis peidio agor heddiw ond mae yna drefniadau gwahanol "er mwyn lleihau'r tarfu ar ddysgu" gan gynnwys adnoddau ar-lein a phecynnau gwaith pwrpasol.

    Mae rhieni yn cael eu cynghori i edrych ar wefannau eu cynghorau lleol i weld beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf yn ysgolion eu plant.

  8. Rhybudd gan Heddlu Dyfed-Powys am gyflwr y ffyrddwedi ei gyhoeddi 07:42 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio bod cyflwr y "ffyrdd yn wael iawn" wedi i nifer o goed ddisgyn yn sgil Storm Éowyn.

    Mae Pont Cleddau rhwng Doc Penfro a Neyland ar gau i gerbydau uchel.

    Does dim llongau yn hwylio rhwng rhwng Abergwaun a Rosslare.

  9. Rhai heb drydan ym Môn a Gwyneddwedi ei gyhoeddi 07:37 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Yn ôl gwefan Scottish Power Energy Netwoks dyma'r rhannau o Ynys Môn a Gwynedd sydd heb drydan o ganlyniad i'r storm.

    Map
  10. Nifer o ysgolion ar Ynys Môn a Gwynedd ar gauwedi ei gyhoeddi 07:31 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae ysgolion yn Ynys Môn a Gwynedd wedi cadarnhau nad ydyn nhw ar agor yn sgil y rhybuddion am dywydd garw.

    Mewn llythyr at rieni a gofalwyr mae penaethiaid pob ysgol gynradd yn nalgylchoedd ysgolion uwchradd Caergybi, Amlwch, Bodedern a Llangefni, dolen allanol wedi rhoi gwybod eu bod ar gau am y diwrnod oherwydd Storm Éowyn.

    Yng Ngwynedd, dolen allanol, mae rheolwyr Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Pendalar ac Ysgol Maesincla yng Nghaernarfon, Ysgol Tryfan ym Mangor, ac Ysgol Brynrefail, Llanrug hefyd wedi cadarnhau nad yw'r ysgol ar agor i ddisgyblion ddydd Gwener.

    Mae Ysgol Cybi, Caergybi ymhlith y nifer sydd ar gau ddydd Gwener oherwydd y tywydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Ysgol Cybi, Caergybi ymhlith y nifer sydd ar gau ddydd Gwener oherwydd y tywydd

  11. Miloedd heb drydan yn y de a'r canolbarth hefydwedi ei gyhoeddi 07:24 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Dywed cwmni y National Grid bod 2,264 o gwsmeriaid heb drydan am 06:30 bore 'ma.

    Ymhlith yr ardaloedd sydd wedi'u taro waethaf mae Pontiets yn Sir Gaerfyrddin ac ardal Aberllynfi ym Mhowys.

  12. Nifer eisoes heb drydan yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 07:22 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Dywed cwmni Scottish Power bod nifer eisoes heb drydan yn y gogledd - gan gynnwys yr ardaloedd o gwmpas Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Bethesda, Tregarth, Llanbedr, Blaenau Ffestiniog a Phorthaethwy.

  13. Croeso atom ar ddiwrnod gwyntog a gwlybwedi ei gyhoeddi 07:20 Amser Safonol Greenwich 24 Ionawr

    Mae rhybuddion Storm Éowyn bellach mewn grym.

    Fe ddaeth y rhybudd oren am wynt i siroedd y gogledd i rym am 06:00 ac fe fydd yn weithredol tan 21:00 nos Wener.

    Mae rhybudd melyn am wynt hefyd mewn grym ar gyfer gweddill y wlad a rhybudd am law yn y de.

    Mae disgwyl hyrddiadau o hyd at 70mya yn gyffredinol, a hyd at 90mya ger yr arfordir ac ar dir uchel.

    Mae'n gohebwyr eisoes allan - arhoswch gyda ni am y diweddaraf.

    mapFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd