Crynodeb

  1. Llafur mewn sefyllfa anodd iawnwedi ei gyhoeddi 13:38 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC ar Dros Ginio

    Mae teimlad bod elfen o drasiedi fan hyn.

    Falle mai gwendid mwyaf Vaughan Gething oedd methu â chwympo ar ei fai - mynnu drwy’r amser bod e heb wneud dim o’i le.

    Mae’r rhaniadau yn y grŵp Llafur yn y Senedd mor ddwfn, bron a bod yn barhaol, mae’n anodd gweld sut gall y grŵp uno y tu ôl i unrhyw arweinydd.

    Petai Jeremy Miles yn cael ei ddewis, byddai nifer yn teimlo ei fod wedi dwgyd yr arweinyddiaeth o ddwylo Gething.

    Ond pe bai 'na ras, byddai 'na bolareiddio o gwmpas ymgeiswyr, sy’n golygu bod Llafur mewn sefyllfa anodd iawn.

  2. Dydi hyn ddim am roi stop ar y rhwygiadau yn sythwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru ar Dros Ginio

    Dydi ymddiswyddiad Vaughan Gething ddim yn mynd i roi stop ar y rhwygiadau o fewn y grŵp Llafur yn y Senedd yn syth.

    Mae 'na rai yn teimlo ei fod wedi cael ei drin yn wael, eraill yn teimlo’n gryf nad ydy o wedi delio efo’r holl bryderon mewn ffordd dda iawn.

    Mae Buffy Williams, aelod Llafur, wedi dweud mewn llythyr agored bod angen i’r grŵp uno - ailadeiladu ymddiriedaeth ar draws y grŵp.

    Ond mae hynny’n mynd i fod yn anodd, ac i ffeindio pwy fydd y person fydd yn gallu gwneud hynny.

    Yn ddiddorol, mae hi'n galw am gael arweinydd dros dro.

  3. Gwyliwch y Senedd yn fywwedi ei gyhoeddi 13:27 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae'r Cyfarfod Llawn yn y Senedd yn dechrau am 13:30, gyda datganiad personol gan Vaughan Gething.

    Yna, bydd Mr Gething yn ateb cwestiynau, efallai am y tro olaf yn y Senedd fel Prif Weinidog Cymru.

    Gallwch glicio ar y botwm chwarae uchod i wylio'r trafodion.

  4. Yr ysgrifen ar y mur ers peth amserwedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru ar Dros Ginio

    Mae’r ysgrifen wedi bod ar y mur ers peth amser. Mae Vaughan Gething wedi bod dan y lach ers cael ei ethol.

    Ond yn sgil pedwar aelod blaenllaw o’i gabinet yn ymddiswyddo, roedd hi’n anodd i unrhyw un allu cario 'mlaen dan y fath bwysau.

    Mae’r cwestiynau am roddion, y bleidlais diffyg hyder, cwestiynau am ddiswyddo Hannah Blythyn, i gyd wedi cyfyngu ei allu o rhag gwneud ei swydd.

    Dyna ydy rhwystredigaeth mawr nifer fawr o’r aelodau. Dyma’r unig beth mae pobl wedi bod yn ei drafod.

    Mae wedi bod yn anodd iddyn nhw allu llywodraethu a gweithredu o ddydd i ddydd.

    Roedd pwysau ar y cabinet cyfan erbyn y diwedd. Doedd neb yn fodlon dweud yn gadarn eu bod y tu ôl iddo 100%

    Mae'r holl deimlad wedi mynd yn gas. 'Di o ddim wedi bod yn le pleserus i fod yn aelod Llafur dros y misoedd diwethaf, mae hynny’n sicr.

  5. Busnesau'n galw am 'sefydlogrwydd gwleidyddol'wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Huw Thomas
    Gohebydd Busnes BBC Cymru

    Pan aeth Vaughan Gething i'r gweithfeydd dur ym Mhort Talbot yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol, roedd cwestiynau am ei benderfyniadau gwleidyddol wedi ei ddilyn o Fae Caerdydd i lawr yr M4.

    Yn hytrach na’r cyfle i hyrwyddo cynlluniau Llafur ar gyfer y diwydiant dur, roedd rhaid iddo wynebu newyddiadurwyr oedd yn ei herio am y materion sydd wedi arwain at ei ymddiswyddiad heddiw.

    Dylai dyfodol Tata Steel wedi bod yn flaenoriaeth amlwg i lywodraeth Vaughan Gething.

    Yn ystod ei ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth roedd wedi ennill cefnogaeth y tri undeb - Community, Unite a'r GMB – sy’n cynrychioli gweithwyr dur.

    Ond wrth ddod ag ymgyrch etholiadol y DU at ddrws y gwaith dur yn ne Cymru, ni lwyddodd i dawelu’r feirniadaeth na thynnu’r ffocws oddi ar yr argyfwng o amgylch ei arweinyddiaeth.

    Dim rhyfedd, efallai, mai’r ymateb gan fyd busnes heddiw yw galw am sefydlogrwydd.

    GethingFfynhonnell y llun, PA Media

    Dywedodd cyfarwyddwr y grŵp sy’n cynrychioli busnesau mawr, Ian Price o CBI Cymru, y byddai’n “ceisio sicrwydd” bod gan Gymru’r “sefydlogrwydd gwleidyddol sydd ei angen i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi”.

    Ynghyd â sefydliadau busnes eraill fel Sefydliad y Cyfarwyddwyr a’r Ffederasiwn Busnesau Bach, roedd y CBI wedi dechrau lobïo llywodraeth Vaughan Gething – a’i weinidog economi Jeremy Miles – am y materion sy’n wynebu cwmnïau yng Nghymru.

    Mae gwella sgiliau, hybu cysylltedd a llwyddo rheoli’r broses o ddatgarboneiddio byd busnes ymhlith yr heriau y mae busnesau yn dweud eu bod am eu trafod gyda Llywodraeth Cymru - unwaith bydd arweinydd newydd wrth y llyw.

  6. Cyhoeddi'r 'dystiolaeth' dros ddiswyddo Hannah Blythynwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Y bore 'ma, cyn iddo ymddiswyddo, fe wnaeth Vaughan Gething gyhoeddi "tystiolaeth" oedd yn "sail i'r penderfyniad" dros ddiswyddo Hannah Blythyn.

    Dywedodd: "Mae cynnal cyfrifoldeb ar y cyd yn rhan annatod o allu'r Cabinet i weithredu'n effeithiol.

    "Rhaid i Weinidogion Cymru allu ystyried a thrafod materion heriol a gwybodaeth sensitif am faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gymunedau, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a dinasyddion.

    "Mae'n bwysig eu bod nhw - a gweision sifil - yn gallu gwneud hynny mewn amgylchedd dibynadwy a chyfrinachol."

    Hannah BlythynFfynhonnell y llun, Senedd

    Ymhelaethodd: "Drwy groesgyfeirio'r dystiolaeth ynghylch aelodau’r sgwrs yn erbyn y llun o’r sgwrs a gafodd ei rannu â ni gan y newyddiadurwr, daw'n amlwg mai'r unig lythrennau cyntaf sydd ar goll yn y ddelwedd hon yw rhai’r cyn-Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

    "Mae hefyd yn amlwg bod y ddelwedd wedi'i thynnu yn 2020 a'i chadw cyn i’r datgeliad ddod yn amlwg yn gynharach eleni."

    Daeth i'r casgliad: "Gweinidogion sy'n gyfrifol am ddiogelwch eu data, ac ni waeth sut y daeth y llun i feddiant y newyddiadurwr, ni ddylai'r ddelwedd fod wedi cael ei chymryd, gan arwain fel y gwnaeth at Weinidogion yn colli ymddiriedaeth yn y ffordd y diogelir preifatrwydd eu trafodaethau."

    Daw hyn ar ôl i Ms Blythyn ailddatgan yr wythnos ddiwethaf na wnaeth hi ryddhau negeseuon i'r cyfryngau.

  7. Ysgrifennydd Cymru'n diolch i Gething am ei wasanaethwedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mewn datganiad dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens ei bod yn "diolch i Vaughan am ei wasanaeth fel Prif Weinidog ac fel gweinidog dros yr 11 mlynedd ddiwethaf".

    "Mater i Lafur Cymru yw hi nawr i ddewis ei olynydd.

    "Fe wnaeth pobl Cymru bleidleisio dros lywodraeth Lafur ar gyfer y DU er mwyn cyflawni newid.

    "Hynny sy'n parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf i mi."

    Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Starmer: 'Dylai Vaughan gymryd balchder mawr'wedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer newydd ryddhau datganiad yn ymateb i ymddiswyddiad Mr Gething.

    "Rydw i eisiau diolch i Vaughan am ei wasanaeth fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru," meddai.

    "Dylai Vaughan gymryd balchder mawr mewn bod yr arweinydd du cyntaf ar unrhyw wlad yn Ewrop.

    "Bydd y cyflawniad hynny wedi ehangu uchelgais cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru a thu hwnt.

    "Rwy'n gwybod penderfyniad mor anodd yw hwn iddo - ond rydw i hefyd yn gwybod ei fod wedi ei wneud am ei fod yn teimlo mai dyma'r penderfyniad gorau i Gymru.

    "Rwy'n dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol.

    GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  9. 'Rhywbeth eithaf trasig wedi digwydd i Vaughan Gething'wedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Dyma ddadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, i ymddiswyddiad Vaughan Gething.

    Disgrifiad,

    Dadansoddiad Vaughan Roderick

  10. Pwy ydy Vaughan Gething?wedi ei gyhoeddi 12:18 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Vaughan Gething wedi goresgyn sawl her yn ei fywyd ond roedd ymddiswyddiad pedwar aelod o'i gabinet yn un her yn ormod iddo.

    Toc wedi 11:00 y bore 'ma fe gyhoeddodd y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ar ôl 118 diwrnod yn y rôl.

    Yn ne cyfandir Affrica mae stori Vaughan Gething yn cychwyn.

    Cafodd ei eni yn Lusaka, prifddinas Zambia, ym 1974 ar ôl i'w dad - milfeddyg o Aberogwr - symud yno i weithio a chyfarfod â mam Mr Gething, oedd yn cadw ieir.

    Darllenwch fwy am ei hanes yma.

    GethingFfynhonnell y llun, Llun teulu
  11. 'Cur pen mawr i Syr Keir Starmer'wedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mark Palmer
    Uned Wleidyddol BBC Cymru

    Ychydig dros bythefnos yn ôl fe safodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, ochr yn ochr â Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, yn ei ganmol fel y dyn cywir i'r swydd, a gwthio’r ffrae o’r neilltu dros dderbyn rhodd o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddiaeth gan ddyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Nawr, mae’r Prif Weinidog yn wynebu’r hyn y gellid ei weld fel ei argyfwng domestig cyntaf, gyda Phrif Weinidog Cymru'n ymddiswyddo ar ôl i bedwar aelod o lywodraeth Lafur Cymru adael a galw arno i fynd.

    Nid dyma’r tro cyntaf i Brif Weinidog Llafur orfod delio ag argyfwng arweinyddiaeth Llafur Cymru.

    Nôl yn 2000 roedd Tony Blair ar ei draed yn Nhŷ’r Cyffredin yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog pan ymddiswyddodd Alun Michael.

    Fe ymddiswyddodd Mr Michael mewn ffrae dros gyllid strwythurol Ewropeaidd, ac erbyn Mawrth 2000 nid oedd bellach yn aelod o'r hyn a oedd yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd.

    Amgylchiadau gwahanol ar adegau gwahanol, ond mae'n ymddiswyddiad mawr ac yn gur pen mawr i Syr Keir Starmer.

    Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA Media
  12. Plaid Cymru'n galw am etholiad brys i'r Seneddwedi ei gyhoeddi 11:56 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Plaid Cymru wedi galw am etholiad i Senedd Cymru ar unwaith.

    Mae'r etholiad nesaf i fod yn 2026.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Mae pobl Cymru wedi colli ffydd yn y Prif Weinidog, sydd wedi gwneud y peth iawn o'r diwedd drwy ymddiswyddo.

    "Ond mae pobl Cymru wedi hen golli hyder yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru.

    "Mae'n bosibl mai dyma fydd trydydd Prif Weinidog Llafur mewn saith mis. Am anrhefn.

    "Mae Llafur wedi rhoi buddiannau eu plaid o flaen buddiannau ein gwlad am lawer rhy hir.

    "Rhaid rhoi cyfle i bobl Cymru ethol llywodraeth newydd a rhaid galw etholiad.

    "Mae pleidleiswyr ledled Cymru yn haeddu llywodraeth sy'n barod i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw - o daclo y rhestrau aros uchaf erioed o fewn ein gwasanaeth iechyd, tlodi plant, canlyniadau addysgol isel, i adeiladu economi sy'n gweithio i bawb.

    "Ar ôl 25 mlynedd wrth y llyw, mae Llafur wedi methu ag ailadeiladu ac adnewyddu o'r tu mewn."

    SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. 'Rwy'n gwybod y gall ein gwlad fod yn well'wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Wrth gloi ei ddatganiad ymddiswyddo dywedodd Vaughan Gething ei fod eisiau "diolch i'r rhai sydd wedi fy nghefnogi i, fy nhîm a’m teulu yn ystod yr wythnosau diwethaf".

    "Mae wedi golygu'r byd i bob un ohonom.

    "I'r rhai yng Nghymru sy'n edrych fel fi – a bydd llawer ohonynt wedi’u brifo ac yn poeni am y foment hon – rwy'n gwybod y gall ein gwlad fod yn well.

    "Ac rwy’n gwybod na all hynny ddigwydd hebddon ni.

    "Fe gawn – a rhaid inni gael – lywodraeth sy'n edrych fel y wlad y mae'n ei gwasanaethu.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. 'Y cyfnod anoddaf i mi a'm teulu'wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mwy o ddatganiad Mr Gething: "Mae’r cyfnod hwn wedi bod yn anodd, yn wir yr anoddaf, i mi a’m teulu.

    "Mae honni cynyddol, ac iddo gymhellion gwleidyddol, fod rhyw fath o gamwedd wedi digwydd wedi bod yn niweidiol ac yn gyfan gwbl anwir.

    "Mewn 11 mlynedd fel Gweinidog, nid wyf erioed wedi gwneud penderfyniad er budd personol.

    "Nid wyf erioed wedi camddefnyddio na cham-drin fy nghyfrifoldebau gweinidogol. Mae fy uniondeb yn bwysig.

    "Nid wyf wedi’i gyfaddawdu. Mae'n peri loes imi na roddir gwerth bellach ar y baich profi yn iaith ein gwleidyddiaeth.

    "Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n newid. Byddaf nawr yn trafod amserlen ar gyfer ethol arweinydd newydd fy mhlaid."

  15. 'Wedi dilyn fy ngyrfa wleidyddol i wasanaethu Cymru'wedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dyma fwy o'r datganiad ymddiswyddo gan Vaughan Gething: "Rwyf bob amser wedi dilyn fy ngyrfa wleidyddol i wasanaethu Cymru.

    "Ac mae gallu dangos i gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fod lle iddyn nhw, i ni, yn anrhydedd ac yn fraint na fydd byth yn lleihau.

    "Dyna beth wnaeth fy nenu i wasanaeth cyhoeddus.

    "Cyn dod yn AS, roeddwn i’n brwydro achosion cyflogaeth ar gyfer pobl a oedd wedi cael eu cam-drin yn y gwaith.

    "Roeddwn i eisiau rhoi pŵer i'r rhai heb lais. Dyna oedd fy nghymhelliant erioed.

    "Ymgyrchais hefyd i helpu i greu'r Senedd, gan felly weithio am 30 mlynedd i gefnogi taith ddatganoli Cymru."

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. 'Chwalfa mewn llywodraethu'wedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Wrth ymateb i ymddiswyddiad Vaughan Gething, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: “Roedd hi'n hen bryd i Vaughan Gething ymddiswyddo.

    “Ond does dim dwywaith fod ei gydweithwyr Llafur, o’r rhai a ymddiswyddodd heddiw yr holl ffordd i fyny at Keir Starmer, wedi sefyll wrth ei ochr ac ar fai am y chwalfa mewn llywodraethu yng Nghymru."

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. 'Braint o’r mwyaf'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mewn datganiad dywedodd Vaughan Gething: "Y bore ’ma, rwyf wedi gwneud y penderfyniad anodd i ddechrau'r broses o ildio fy swyddogaeth fel arweinydd Plaid Lafur Cymru ac, o ganlyniad, fy swyddogaeth fel Prif Weinidog Cymru.

    "Ar ôl cael fy ethol yn arweinydd fy mhlaid ym mis Mawrth, roeddwn wedi gobeithio y gallai cyfnod o fyfyrio, ailadeiladu ac adnewyddu ddigwydd o dan fy arweinyddiaeth dros yr haf.

    "Rwy'n cydnabod nawr nad yw hyn yn bosibl.

    "Mae wedi bod yn fraint o’r mwyaf imi wneud y swydd hon hyd yn oed am ychydig fisoedd.

    "I weld yr ymroddiad i wasanaeth cyhoeddus gan wasanaeth sifil Cymru, a'r ymroddiad i foesgarwch gan bobl Cymru.

    "I weld ethol llywodraeth newydd yn San Steffan, a'r gobaith newydd y mae’n ei gynnig i Gymru."

  18. Mae Vaughan Gething wedi ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf
    Newydd dorri

    Mae Vaughan Gething wedi cadarnhau ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru, ac, o ganlyniad, fel Prif Weinidog Cymru.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddowedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Plaid Cymru wedi galw ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: “mae Vaughan Gething wedi arwain llywodraeth o anhrefn a rhoi ei hunan-les ei hun o flaen buddiannau pobl Cymru.

    "Ers misoedd, mae diffyg crebwyll y prif weinidog, ei amharodrwydd i gael ei graffu a’i ddull ‘gwneud dim’ o lywodraethu wedi tanseilio swydd y prif weinidog ac wedi dwyn anfri ar wleidyddiaeth Cymru.

    Ychwanegodd, "mae pobl Cymru yn colli ffydd yng ngallu Llafur i lywodraethu Cymru. Yn ei hagwedd o ‘ein ffordd ni neu ddim ffordd o gwbl’ ac yn ei record o gyflawni sy’n cael ei ganfod fwyfwy yn ddiffygiol – mae Llafur wedi rhedeg allan o syniadau ac yn methu a dangos ffordd ymlaen i’r cyhoedd."

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. 'Bydd Cymru yn cofio'wedi ei gyhoeddi 11:13 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: “Mae cyfnod Vaughan Gething fel prif weinidog yn dod i ben, yn gwbl briodol.

    “Ond ni all Llafur dwyllo pobl Cymru. Roedd y gweinidogion hyn, fel Jeremy Miles, yn eistedd yn ei gabinet, fe safon nhw wrth ei ochr, ac maen nhw ar fai am fethiant llywodraethu yng Nghymru.

    “Bydd Cymru yn cofio.”

    Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images