Crynodeb

  1. Aelodau Llafur yn cwrdd ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae'r BBC ar ddeall fod aelodau Llafur yn y Senedd yn cyfarfod ar hyn o bryd.

    Fydd y pwysau i ymddiswyddo yn ormod ar Vaughan Gething? Ynteu a fydd yn brwydro a dal ei afael yn ei swydd?

    GethingFfynhonnell y llun, PA Media
  2. Vaughan Roderick: 'Arwydd o ba mor ddwfn yw'r hollt'wedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae disgyblaeth ac undod cyhoeddus wedi nodweddu grŵp Llafur Bae Caerdydd ers dyddiau cynnar datganoli.

    Mae'n arwydd o ba mor ddwfn yw'r hollt o fewn y blaid bod pedwar gweinidog wedi penderfynu datgan eu cwynion yn gyhoeddus.

    Deallaf fod y pedwar wedi cysylltu â'r Prif Weinidog ddoe gan ofyn iddo ymddiswyddo.

    Mae'r ymddiswyddiadau heddiw yn awgrymu’n gryf bod Mr Gething wedi gwrthod.

    Mae Mr Gething yn parhau i fwynhau cefnogaeth gref gan rai aelodau o'r Senedd ond, fel yn achos cwymp Boris Johnson, mae'r anodd iawn i arweinydd barhau yn ei swydd ar ôl colli hyder cyfran o'i gabinet.

  3. 'Angen llywodraeth hyderus a sefydlog'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Roedd Julie James yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

    Yn ei llythyr hi at Me Gething dywedodd: "Ni welaf unrhyw ffordd o gytuno ar gyllideb na sut y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau deddfwriaethol.

    "Ni all hyn fod yr hyn yr oeddech ei eisiau ac mae'n rhaid ei fod wedi achosi llawer o boen i chi a'ch teulu ac rwy'n meddwl ei fod yn amlwg wedi achosi rhaniadau enfawr yn y grŵp ac wedi niweidio'r wlad a'r blaid, rwy'n meddwl ei fod hefyd bellach yn bygwth parhad y daith ddatganoli."

    Mick AFfynhonnell y llun, Senedd

    Dywedodd Mick Antoniw yn ei lythyr ymddiswyddiad: "Rhaid i mi eich hysbysu nad wyf yn credu y gallwch barhau fel prif weinidog.

    "Mae angen llywodraeth hyderus a sefydlog ar Gymru. Nid wyf yn credu eich bod yn gallu cyflawni hynny.

    "Rydych wedi colli pleidlais o hyder yn y Senedd. Mae hynny'n rhywbeth rwy'n ystyried ei fod o bwysigrwydd cyfansoddiadol mawr.

    “Rwy’n credu ei bod hi’n angenrheidiol nawr i chi ddewis rhoi’r wlad yn gyntaf ac ymddiswyddo fel prif weinidog er mwyn caniatáu etholiad ar gyfer prif weinidog newydd ac arweinydd Llafur Cymru.”

  4. Beth sydd wedi digwydd hyd yma y bore 'ma, mewn 47 eiliad!wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Ein gohebydd Dafydd Morgan sy'n egluro'r hyn sydd wedi digwydd y bore 'ma.

    Disgrifiad,

    Dafydd Morgan sy'n egluro

  5. Beth mae'r gweinidogion wedi'i ddweud?wedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Dywedodd Jeremy Miles, a heriodd Mr Gething am yr arweinyddiaeth yn gynharach yn y flwyddyn ac a oedd yn Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, ar X: "Mae gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn fraint aruthrol ac yn gyfrifoldeb difrifol.

    "Gyda thristwch mawr y byddaf yn ymddiswyddo heddiw."

    Dywedodd Lesley Griffiths, oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol y bu hi'n "fraint aruthrol i fod wedi gwasanaethu yn Llywodraeth Cymru mewn nifer o rolau gweinidogol dros y 14 mlynedd ddiwethaf".

    "Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau presennol a heb fawr o dystiolaeth i awgrymu y bydd pethau’n gwella o dan eich arweinyddiaeth, rwy’n cyflwyno fy ymddiswyddiad o'r Cabinet. Rwy'n gwneud hynny â chalon drom iawn."

  6. Pam fod pwysau ar Vaughan Gething?wedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae Mr Gething wedi colli pleidlais o ddiffyg hyder yn y Senedd, ac wedi cael ei gwestiynu dros gyfraniad i'w ymgyrch o £200,000 gan David Neal, dyn busnes a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

    Mae hefyd wedi wynebu cwestiynau ynghylch neges a gafodd ei rhyddhau i'r cyfryngau a ddangosodd iddo ddweud wrth weinidogion eraill yn 2020 ei fod yn dileu testunau o sgwrs grŵp - rhywbeth mae'n gwadu gwneud.

    Mae ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.

    Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn yn syml.

    GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Pwy sydd wedi ymddiswyddo?wedi ei gyhoeddi 10:47 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Mae pedwar aelod blaenllaw o Lywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo y bore 'ma. Y rheiny ydy:

    • Jeremy Miles - Ysgrifennydd dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg
    • Lesley Griffiths - Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
    • Julie James - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
    • Mick Antoniw - Y Cwnsler Cyffredinol
    Ymddiswyddo
  8. Croeso i'r llif bywwedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 16 Gorffennaf

    Bore da a chroeso i'n llif byw.

    Mae nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymddiswyddo y bore 'ma.

    Mae Julie James, Lesley Griffiths a Jeremy Miles wedi rhoi gorau i'w swyddi, yn ogystal â'r Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw.

    Daw hyn yn dilyn wythnosau o helbul gwleidyddol i Vaughan Gething, a gymerodd yr awenau oddi wrth Mark Drakeford ym mis Mawrth.

    Arhoswch gyda ni am y diweddaraf.