Crynodeb

  1. Pobl o bob oed yn mwynhau'r arlwy!wedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae gan Jill Huntington swydd bwysig yr wythnos hon o reoli drysau'r pafiliwn.

    Mae Jill yn dysgu Cymraeg ac wrth ei bodd bod yr Eisteddfod wedi dod i Wrecsam.

    Jill Huntington
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Jill Huntington yn un o'r criw sy'n rheoli drysau'r pafiliwn

    Greta a Fflur o Langernyw
    Disgrifiad o’r llun,

    Greta a Fflur o Langernyw

    Mae Greta a Fflur o Langernyw wedi bod yn casglu sticeri ac wrth eu boddau yn y pentre plant!

  2. 'Mae'r Eisteddfod gan bawb, i bawb'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1

    Yr actor Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl, ac wrth annerch y Pafiliwn brynhawn Sadwrn fe rannodd mai dyma oedd y tro cyntaf erioed iddo gamu ar lwyfan yr Eisteddfod.

    Mae'r actor wedi ymddangos mewn llu o ffilmiau a chyfresi teledu adnabyddus gan gynnwys Star Wars a Game of Thrones, ac o'r Pafiliwn fe wnaeth dalu teyrnged i gymuned yr ardal a'r unigolion fu'n ddylanwad arno. Meddai:

    "Fe allai ddweud yn bendant na fyddai hynny byth wedi digwydd oni bai fod Gwawr Mason, aeth ymlaen i fod yn Gwawr Davies, wedi penderfynu ar y diwrnod hwnnw yn Ysgol Morgan Llwyd i gymryd y cam ychwanegol a chynnig help llaw i fachgen ifanc coll."

    Fe wnaeth hefyd sôn am bwysigrwydd rhai o sefydliadau adnabyddus eraill yr ardal gan gynnwys Theatr y Stiwt a Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

    Wrth sôn am gysylltiad ei deulu â'r Eisteddfod, meddai:

    "Dwi wedi dod i ddeall beth oedd taid yn ei ddeall o'r cychwyn - bod yr Eisteddfod gan bawb i bawb. Pe bai gyda ni o hyd dwi'n gwybod y byddai yn y rhes flaen gyda gwên fawr ar ei wyneb yn gweld ei ŵyr ar y llwyfan o'r diwedd."

    Wrth gloi ei araith deimladwy, meddai:

    "Yn bennaf oll, diolch i'r rheiny sydd wedi aberthu eu hamser ac ymdrech i alluogi ni i ymhyfrydu yn ein hiaith, ein diwylliant a'n cenedl."

    Gallwch wylio'r araith yn llawn isod.

  3. 'Braint' croesawu'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Maer Wrecsam, Tina Mannering, ar y maes ddydd Sadwrn.

    Dywedodd: "Mae hwn yn gyfle ffantastig ac mae'n wych gweld holl gymunedau Wrecsam yn dod at ei gilydd i fwynhau diwylliant Cymraeg, ac yn bennaf oll i gael hwyl.

    "Mae'n anrhyedd ac yn fraint i groesawu'r Eisteddfod yma eto," ychwanegodd.

    Mae Wrecsam, Tina Mannering a 'Lady Consort' Helen Briscoe
    Disgrifiad o’r llun,

    Maer Wrecsam, Tina Mannering a 'Lady Consort' Helen Briscoe

  4. Dathlu hanes yr Ŵyl Gerdd Dant tra'n edrych ymlaen at Aberystwythwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1

    BBCFfynhonnell y llun, Eleri Roberts, John Eifion, Marina Jones a Helen Medi
    Disgrifiad o’r llun,

    Eleri Roberts, John Eifion, Marina Jones a Helen Medi

    Mae criw Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn edrych ymlaen at groesawu Gŵyl Cerdd Dant 2025 i Aberystwyth ym mis Tachwedd.

    Meddai John Eifion: “'Da ni’n edrych ymlaen yn arw i’r ŵyl ymweld ag Aberystwyth, mae'r pwyllgor gwaith wedi bod wrthi yn ddiwyd”.

    “Mae cystadlaethau barddoniaeth yn rhan o’r ŵyl eleni, rhywbeth sydd ddim wedi digwydd ers blynyddoedd lawer."

    Dillad Cerdd Dant

    Ar S4C bu Sara Gibson o Bwyllgor Apêl yr ŵyl yn cyflwyno Heledd Cynwal i arddangosfa o ddillad sydd wedi eu gwisgo gan gystadleuwyr dros y blynyddoedd

    "Mae pob math o bethau wedi dod i'r fei... mae'r ffasiwn yn dweud cyfrolau ei hunain. Mae pobl wedi bod mor hael yn cyfrannu lluniau."

    "Rydym ni wedi cael cymaint o ymateb fe fyddwn yn creu ystafell gyda'r arddangosfa yn ystod yr ŵyl yn Aber."

    Arddangosfa'r Wyl Gerdd Dant
  5. O’r archif: Eisteddfodau Wrecsam y blynyddoedd a fuwedi ei gyhoeddi 13:26 Amser Safonol Greenwich+1

    Plismon o flaen arwydd Eisteddfod 1977

    Swffragetiaid yn tarfu ar araith y Canghellor David Lloyd George, Cadair Ddu, cyflawni’r ‘ddwbl’, a Chadair o Shanghai... mae ‘na hanes difyr i’r eisteddfodau sydd wedi eu cynnal yn Wrecsam dros ganrif a hanner diwethaf.

    Dyma’r seithfed gwaith i’r Brifwyl gael ei chynnal yn Wrecsam - ac mae Cymru Fyw wedi bod yn pori drwy’r archif am atgofion o’r eisteddfodau dros y degawdau. Darllenwch fwy yma.

    Darllenwch fwy yma.

  6. Taith o amgylch y maeswedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Maes Eisteddfod Wrecsam yn fawr, dewch i'w ddarganfod yn y fideo yma...

  7. Pwy yw enillydd Tlws Coffa Aled Roberts?wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1

    Barbara Roberts o Aberaeron sy'n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts eleni.

    Mae'r tlws yn cael ei gyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er cof am Aled Roberts - y gwleidydd a chyn-Gomisiynydd y Gymraeg a oedd yn wreiddiol o Rosllannerchrugog.

    Mae'n cael ei roi yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i'r sector Dysgu Cymraeg.

    Dysgodd Barbara y Gymraeg fel oedolyn, ac ers 10 mlynedd mae wedi bod yn cefnogi dysgwyr eraill.

    Mae'n trefnu llu o weithgareddau yn ei hardal, yn siaradwr gwadd poblogaidd ac yn cadeirio Cymdeithas Ceredigion.

    Barbara Roberts
    Disgrifiad o’r llun,

    Barbara Roberts yn derbyn y dlws mewn seremoni ar Faes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn

  8. Amser cinio ar y Maeswedi ei gyhoeddi 12:56 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae digon o lefydd i gael bwyd ar y maes gan gynnwys sglodion, pitsas, cyri a thaten bob.

    Neu mae meinciau i chi eistedd a bwyta'ch picnic eich hun fel mae'r teulu yma o Groeslon yn ei wneud.

    Teulu o Groeslon
    Disgrifiad o’r llun,

    Picnic ar y Maes, be well!

    Ciwio
    Disgrifiad o’r llun,

    Pobl yn ciwio yn y pentref bwyd

    Ciwio tu allan i stondin pizza
    Disgrifiad o’r llun,

    Y stondin 'Pizza' yn boblogaidd ddydd Sadwrn

  9. Pryd mae Sioe Cyw?wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1

    Os byddwch yn ymweld â'r Maes gyda phlant, dyma'r amserlen bwysig i chi!

    Mae sioe Cyw yn digwydd bob dydd am 11:00 yn Yr Emporiwm.

    Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook Cyw, dolen allanol.

    Amserlen Cyw yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, S4C
  10. Pa dîm fydd yn fuddugol yn Y Talwrn?wedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1

    Ydych chi wedi bod yn dilyn cyfres Y Talwrn ar Radio Cymru eleni?

    Os ydych chi ar faes yr Eisteddfod, mae'r rownd derfynol yn cael ei chynnal am 13:00 yn y Babell Lên.

    Gallwch wrando ar y rowndiau blaenorol ar BBC Sounds.

  11. Balchder ieuenctid ardal yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Rhys ac Owain
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rhys ac Owain wedi bod wrthi yn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod

    Ysgol Morgan Llwyd yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas, ac mae nifer o'r disgyblion wedi bod wrthi'n brysur yn paratoi at yr ŵyl.

    Mae Owain a Rhys o flwyddyn 9 yn edrych ymlaen at yr wythnos fawr, wedi misoedd o waith codi arian.

    Mae Owain o'r farn bydd yr Eisteddfod yn "agoriad llygad i'r plant, achos dy'n nhw ddim yn gwybod be 'di Steddfod - dim jyst cystadlu 'de, mae 'na fwy iddo fo."

    Ychwanegodd Rhys eu bod wedi cynnal twmpath i godi arian yn ddiweddar yn ogystal â threfnu dyddiau di-wisg ysgol.

    "Dwi am fynd un neu ddau o'r diwrnodau dwi'n meddwl, a dwi'n edrych ymlaen at y bwyd yno."

  12. 'Pwysig cefnogi'r 'Steddfod ar stepen drws'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Bar Williams Parry ar agor ers 11 a'r gweinyddion yn barod i groesawu ymwelwyr sychedig i'r Steddfod.

    Criw bar y maes

    Roedd y criw yma'n ymlacio ar ôl cystadlu gyda Band Pres Dinas Wrecsam.

    Mae'n ddigwyddiad teuluol i Ian a'i blant Ieuan ac Eleri. Mae Ian a Ieuan yn chwarae'r ewphoniwm tra bod Eleri yn chwarae'r ffiwgl.

    Yn ôl Ian "roedd yn bwysig iddyn nhw fel band gefnogi'r Eisteddfod sydd ar eu stepen drws" a bydd y band cystadlu eto yfory yn y gystadleuaeth agored.

    Teulu yn yfed peint ar fainc
  13. 'Addasiadau' oherwydd heriau ariannolwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1

    Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod eu bod wedi gorfod gwneud 'addasiadau' eleni oherwydd heriau ariannol.

    Pan gafodd ei holi faint o arian sydd wedi ei godi, dywedodd: “O ran y Sadwrn cyntaf, dyw e ddim yn briodol i ni ddweud oherwydd ni’n gwybod bod yr arian yn dal i ddod i fewn.

    "Targed ar gyfer y Pwyllgor Gwaith oedd e (y £400,000), nid rhywbeth ni’n rhannu.

    "Targed ar gyfer ein cynllunio ac wrth gwrs be’ ni wedi ‘neud yw edrych ar ein cynllunio a gwneud addasiadau i sicrhau bod y ‘Steddfod yn talu am ei hun.”

    Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan Moses ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

  14. Steilio gwallt ar y Maeswedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Tybed ai Elinor Davies sydd wedi teithio bellaf i fod ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos hon?

    Mae stondin Olew yn cynnig gwasanaeth torri gwallt a steilio ar y Maes.

    Elinor yw cyfarwyddwr y cwmni ac mae'n byw yn Dubai, ond mae'n dychwelyd i Gymru bob blwyddyn i gynorthwyo ar stondin Olew.

    Bu Elinor yn siarad â Cymru Fyw yn ddiweddar am bwysigrwydd trosglwyddo'r Gymraeg i'w merch Ela, er eu bod yn byw ben arall y byd.

    Elinor y tu allan i'r stondin
  15. Eisteddfod gyntaf 'anhygoel'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1

    Tim, Martha a'u merched Issy a Milly
    Disgrifiad o’r llun,

    Tim, Martha a'u merched Issy a Milly yn mwynhau seibiant yng ngardd Dôl Ofalgar

    Mae Tim, Martha a'u merched Issy a Milly yn byw'n agos i Faes yr Eisteddfod a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymweld â'r Brifwyl.

    Eu hargraffiadau cyntaf yw fod yr "Eisteddfod yn anhygoel" ac maen nhw'n edrych ymlaen at ddiwrnod arall yn barod.

    Sioned a Dylan gyda'u plant Nedw a Greta ar y Maen Llog.
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned a Dylan gyda'u plant Nedw a Greta ar y Maen Llog

    Roedd Nedw a Greta yn edrych ymlaen at ffeindio stondin i liwio ar ôl i Mam a Dad gael gwylio Band Pres Deiniolen yn cystadlu yn Y Pafiliwn.

  16. ''Da ni yma o'r diwedd'wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1

    Yr actor Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl eleni, ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos.

    Dywedodd: "Mae'n teimlo yn sbeshal yn barod, 'da ni yma o'r diwedd."

    Bydd araith Llywydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn amser cinio.

    Mark Lewis Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Lewis Jones yw Llywydd yr ŵyl eleni

    Mae Stifyn Parri hefyd yn frodor lleol ac wrth ei fodd yn gweld yr Eisteddfod yn ei filltir sgwâr.

    "Dropiwch bob dim 'da chi’n ei wneud a dewch i’r Steddfod rŵan, mae’n blincin lyfli yma," meddai.

    Bydd Stifyn yn perfformio nos Iau am 21:00 yn 'Steddfod Stifyn'.

    Dewch i adnabod mwy o enwogion yr ardal yn ein cwis arbennig.

    Stifyn Parri
  17. Codi arian 'wedi bod yn her'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae cyrraedd targed ariannol ar gyfer yr Eisteddfod eleni 'wedi bod yn her' yn ôl Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl.

    "Mae'n rhaid cyfaddef ei bod wedi bod yn her. Dwi'n meddwl lle ryda ni ar hyn o bryd yn y byd, mae elusennau yn cael llawer o drafferthion i godi arian. Mae pethau fel Covid a Brexit yn golygu bod dim cymaint o arian o gwmpas a oedd rhai blynyddoedd yn ôl."

    Er gwaethaf yr heriau dywedodd ei bod wrth ei bodd fod yr wythnos fawr wedi cyrraedd, a fod y criw "wedi cael llawer o hwyl" wrth gynnal digwyddiadau amrywiol.

    Fe fydd yr ymdrechion i godi arian yn parhau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gwerthu crysau-t arbennig ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

    Disgrifiad,

    Llinos Roberts: 'Roedd codi arian yn her'

  18. Dim cerdyn? Dim cystadlu! Rheolau arbennig bandiau preswedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae’n ddiwrnod y bandiau pres ac mae 'na reolau arbennig i’r cystadleuwyr sy’n debycach i fyd pêl-droed y Cae Ras na’r byd Eisteddfodol - gydag aelodau yn ‘arwyddo’ a chael eu ‘trosglwyddo’.

    Yn unol â rheolau sy'n gyffredin mewn cystadlaethau bandiau pres eraill, cyn camu ar y llwyfan mae’n rhaid i bob aelod gael cerdyn cofrestru Cymdeithas Bandiau Pres Prydain, sy’n debyg i basbort efo’ch llun a’ch manylion arno.

    Fel yn y byd pêl-droed, mae chwaraewyr pres yn gallu mynd ‘ar fenthyg’ i fand arall. Mae hyn yn helpu bandiau allan o dwll os nad ydyn nhw’n gallu cael band llawn at ei gilydd.

    Band pres
    Disgrifiad o’r llun,

    Band Gwirfoddol RAF Sain Tathan gefn llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol 2016

    Fel gyda phêl-droed, mae’n rhaid cael gwisg briodol, mae 'na uchafswm i faint sy’n cael chwarae, ac mae’r bandiau wedi eu rhannu i ddosbarthiadau yn ôl eu safon.

    Fel gyda chynghreiriau pêl-droed maen nhw’n gallu cael dyrchafiad neu ostwng dosbarth ar ddiwedd y tymor.

    Mae’n rhaid chwarae am gyfnod penodol o amser hefyd neu fe gaiff y band ei gosbi. Ond yn wahanol i bêl-droed does 'na ddim amser ychwanegol - na chiciau o'r smotyn.

  19. Merched y Wawr yn estyn croeso cynneswedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1

    gweini paneidiau
    Disgrifiad o’r llun,

    Criw Merched y Wawr wrthi'n gwneud paneidiau!

    Mae ategolion a sgarffiau ar werth ar stondin Merched y Wawr, gyda'r elw yn mynd at elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

    Allwch chi adnabod yr Archdderwydd Mererid Hopwood yn y gwaith yma gan Eurwen Lloyd o Ruthun?

    Merched y Wawr
    Tegwen Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr y tu allan i'r stondin