Crynodeb

  1. Balchder ieuenctid ardal yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Rhys ac Owain
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Rhys ac Owain wedi bod wrthi yn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod

    Ysgol Morgan Llwyd yw'r unig ysgol uwchradd Gymraeg yn y ddinas, ac mae nifer o'r disgyblion wedi bod wrthi'n brysur yn paratoi at yr ŵyl.

    Mae Owain a Rhys o flwyddyn 9 yn edrych ymlaen at yr wythnos fawr, wedi misoedd o waith codi arian.

    Mae Owain o'r farn bydd yr Eisteddfod yn "agoriad llygad i'r plant, achos dy'n nhw ddim yn gwybod be 'di Steddfod - dim jyst cystadlu 'de, mae 'na fwy iddo fo."

    Ychwanegodd Rhys eu bod wedi cynnal twmpath i godi arian yn ddiweddar yn ogystal â threfnu dyddiau di-wisg ysgol.

    "Dwi am fynd un neu ddau o'r diwrnodau dwi'n meddwl, a dwi'n edrych ymlaen at y bwyd yno."

  2. 'Pwysig cefnogi'r 'Steddfod ar stepen drws'wedi ei gyhoeddi 12:19 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae Bar Williams Parry ar agor ers 11 a'r gweinyddion yn barod i groesawu ymwelwyr sychedig i'r Steddfod.

    Criw bar y maes

    Roedd y criw yma'n ymlacio ar ôl cystadlu gyda Band Pres Dinas Wrecsam.

    Mae'n ddigwyddiad teuluol i Ian a'i blant Ieuan ac Eleri. Mae Ian a Ieuan yn chwarae'r ewphoniwm tra bod Eleri yn chwarae'r ffiwgl.

    Yn ôl Ian "roedd yn bwysig iddyn nhw fel band gefnogi'r Eisteddfod sydd ar eu stepen drws" a bydd y band cystadlu eto yfory yn y gystadleuaeth agored.

    Teulu yn yfed peint ar fainc
  3. 'Addasiadau' oherwydd heriau ariannolwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1

    Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod eu bod wedi gorfod gwneud 'addasiadau' eleni oherwydd heriau ariannol.

    Pan gafodd ei holi faint o arian sydd wedi ei godi, dywedodd: “O ran y Sadwrn cyntaf, dyw e ddim yn briodol i ni ddweud oherwydd ni’n gwybod bod yr arian yn dal i ddod i fewn.

    "Targed ar gyfer y Pwyllgor Gwaith oedd e (y £400,000), nid rhywbeth ni’n rhannu.

    "Targed ar gyfer ein cynllunio ac wrth gwrs be’ ni wedi ‘neud yw edrych ar ein cynllunio a gwneud addasiadau i sicrhau bod y ‘Steddfod yn talu am ei hun.”

    Betsan Moses
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan Moses ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

  4. Steilio gwallt ar y Maeswedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Tybed ai Elinor Davies sydd wedi teithio bellaf i fod ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos hon?

    Mae stondin Olew yn cynnig gwasanaeth torri gwallt a steilio ar y Maes.

    Elinor yw cyfarwyddwr y cwmni ac mae'n byw yn Dubai, ond mae'n dychwelyd i Gymru bob blwyddyn i gynorthwyo ar stondin Olew.

    Bu Elinor yn siarad â Cymru Fyw yn ddiweddar am bwysigrwydd trosglwyddo'r Gymraeg i'w merch Ela, er eu bod yn byw ben arall y byd.

    Elinor y tu allan i'r stondin
  5. Eisteddfod gyntaf 'anhygoel'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1

    Tim, Martha a'u merched Issy a Milly
    Disgrifiad o’r llun,

    Tim, Martha a'u merched Issy a Milly yn mwynhau seibiant yng ngardd Dôl Ofalgar

    Mae Tim, Martha a'u merched Issy a Milly yn byw'n agos i Faes yr Eisteddfod a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymweld â'r Brifwyl.

    Eu hargraffiadau cyntaf yw fod yr "Eisteddfod yn anhygoel" ac maen nhw'n edrych ymlaen at ddiwrnod arall yn barod.

    Sioned a Dylan gyda'u plant Nedw a Greta ar y Maen Llog.
    Disgrifiad o’r llun,

    Sioned a Dylan gyda'u plant Nedw a Greta ar y Maen Llog

    Roedd Nedw a Greta yn edrych ymlaen at ffeindio stondin i liwio ar ôl i Mam a Dad gael gwylio Band Pres Deiniolen yn cystadlu yn Y Pafiliwn.

  6. ''Da ni yma o'r diwedd'wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1

    Yr actor Mark Lewis Jones yw Llywydd yr Ŵyl eleni, ac mae'n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos.

    Dywedodd: "Mae'n teimlo yn sbeshal yn barod, 'da ni yma o'r diwedd."

    Bydd araith Llywydd yr Ŵyl yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn amser cinio.

    Mark Lewis Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Lewis Jones yw Llywydd yr ŵyl eleni

    Mae Stifyn Parri hefyd yn frodor lleol ac wrth ei fodd yn gweld yr Eisteddfod yn ei filltir sgwâr.

    "Dropiwch bob dim 'da chi’n ei wneud a dewch i’r Steddfod rŵan, mae’n blincin lyfli yma," meddai.

    Bydd Stifyn yn perfformio nos Iau am 21:00 yn 'Steddfod Stifyn'.

    Dewch i adnabod mwy o enwogion yr ardal yn ein cwis arbennig.

    Stifyn Parri
  7. Codi arian 'wedi bod yn her'wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae cyrraedd targed ariannol ar gyfer yr Eisteddfod eleni 'wedi bod yn her' yn ôl Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith y Brifwyl.

    "Mae'n rhaid cyfaddef ei bod wedi bod yn her. Dwi'n meddwl lle ryda ni ar hyn o bryd yn y byd, mae elusennau yn cael llawer o drafferthion i godi arian. Mae pethau fel Covid a Brexit yn golygu bod dim cymaint o arian o gwmpas a oedd rhai blynyddoedd yn ôl."

    Er gwaethaf yr heriau dywedodd ei bod wrth ei bodd fod yr wythnos fawr wedi cyrraedd, a fod y criw "wedi cael llawer o hwyl" wrth gynnal digwyddiadau amrywiol.

    Fe fydd yr ymdrechion i godi arian yn parhau yn ystod yr wythnos, gan gynnwys gwerthu crysau-t arbennig ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam.

    Disgrifiad,

    Llinos Roberts: 'Roedd codi arian yn her'

  8. Dim cerdyn? Dim cystadlu! Rheolau arbennig bandiau preswedi ei gyhoeddi 11:16 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae’n ddiwrnod y bandiau pres ac mae 'na reolau arbennig i’r cystadleuwyr sy’n debycach i fyd pêl-droed y Cae Ras na’r byd Eisteddfodol - gydag aelodau yn ‘arwyddo’ a chael eu ‘trosglwyddo’.

    Yn unol â rheolau sy'n gyffredin mewn cystadlaethau bandiau pres eraill, cyn camu ar y llwyfan mae’n rhaid i bob aelod gael cerdyn cofrestru Cymdeithas Bandiau Pres Prydain, sy’n debyg i basbort efo’ch llun a’ch manylion arno.

    Fel yn y byd pêl-droed, mae chwaraewyr pres yn gallu mynd ‘ar fenthyg’ i fand arall. Mae hyn yn helpu bandiau allan o dwll os nad ydyn nhw’n gallu cael band llawn at ei gilydd.

    Band pres
    Disgrifiad o’r llun,

    Band Gwirfoddol RAF Sain Tathan gefn llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol 2016

    Fel gyda phêl-droed, mae’n rhaid cael gwisg briodol, mae 'na uchafswm i faint sy’n cael chwarae, ac mae’r bandiau wedi eu rhannu i ddosbarthiadau yn ôl eu safon.

    Fel gyda chynghreiriau pêl-droed maen nhw’n gallu cael dyrchafiad neu ostwng dosbarth ar ddiwedd y tymor.

    Mae’n rhaid chwarae am gyfnod penodol o amser hefyd neu fe gaiff y band ei gosbi. Ond yn wahanol i bêl-droed does 'na ddim amser ychwanegol - na chiciau o'r smotyn.

  9. Merched y Wawr yn estyn croeso cynneswedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1

    gweini paneidiau
    Disgrifiad o’r llun,

    Criw Merched y Wawr wrthi'n gwneud paneidiau!

    Mae ategolion a sgarffiau ar werth ar stondin Merched y Wawr, gyda'r elw yn mynd at elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

    Allwch chi adnabod yr Archdderwydd Mererid Hopwood yn y gwaith yma gan Eurwen Lloyd o Ruthun?

    Merched y Wawr
    Tegwen Morris
    Disgrifiad o’r llun,

    Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr y tu allan i'r stondin

  10. 'Mae'n argoeli i fod yn Steddfod a hanner'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1

    Wrth annerch y wasg ar ddiwrnod cynta'r Eisteddfod, dywedodd Betsan Moses ei bod hi'n "argoeli i fod yn Steddfod a hanner".

    Dywedodd fod yr Eisteddfod i gyd ar "lain o dir lle mae'n lapio ei gilydd, felly ewch chi o Maes B draw i Hwyrnos, i'r meysydd parcio a charafanau ac mae'r maes ei hun yng nghalon yr holl beth".

    "Mae pob dim yn mynd yn dda," meddai.

    Ychwanegodd Gwenllian Carr, Cyfarwyddwr Strategol: "Mae wedi bod yn ddwy flynedd o waith caled a hapus ac mae’n braf iawn bod y diwrnod wedi cyrraedd."

    Y panelwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Cynhadledd y wasg gynta'r Eisteddfod

  11. Tudur Owen yn crwydro'r maeswedi ei gyhoeddi 10:45

    Tudur Owen sy’n crwydro’r Maes ar ran S4C, ac i stondin Menter yr Iaith aeth ar ei ymweliad cyntaf o'r wythnos.

    Bu’n sgwrsio â Maiwenn Berry o Fenter Iaith Flint a Wrecsam, wnaeth egluro fod yr Eisteddfod yn ymweld â’r ardal yn ystod cyfnod cyffrous.

    “Gyda chyffro’r Cae Ras a chais y ddinas ar gyfer Dinas Diwylliant 2025 mae lot o falchder a mwy o ymdeimlad o berthyn efallai.

    "Mae mwy o fwrlwm o mwy o weithgarwch Cymraeg yn rhan o hynny.”

    Mae gan Menter Iaith Fflint a Wrecsam lu o weithgareddau ar y gweill yn ystod yr wythnos gan gynnwys Llwybr y Lleidr, sef helfa gliwiau i'r teulu o amgylch y maes i ddatrus dirgelwch Cwpan Cysyllte.

    Gallwch wylio S4C yn fyw yma.

  12. Pryd mae'r bysiau gwennol yn teithio?wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r bysiau gwennol yn rhedeg rhwng 08:00 - 23:00 pob dydd.

    Mae'r holl fanylion isod a mwy o wybodaeth am sut i gyrraedd y Maes yma.

    Arwydd bysiau gwennol
  13. Y bandiau pres ar y maeswedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae'r bandiau pres wedi cyrraedd y Maes ar ddiwrnod cynta'r cystadlu.

    Tom a Dylan o fand pres Deiniolen
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Tom wedi cael gorchymyn i gario’r copïau gan Dylan o fand Deiniolen!

    Band pres Llandudno
    Disgrifiad o’r llun,

    Does dim angen pabell i ymarfer pan fo'r tywydd mor braf!

  14. Smwddi neu losin i frecwast?wedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1

    Mae digon o ddewis o fwyd a diod ar y maes, ond y cwestiwn mawr ydi - smwddi neu losin i frecwast?

    Tom yn y fan
    Disgrifiad o’r llun,

    Tom o Swig yn barod am yr wythnos!

    2 fachgen yn y stondin losin
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhy gynnar am losin?

  15. Mae 'na wythnos gyfan i ddod o Eisteddfod!wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1

    Neges ar y ffordd mewn i'r maes

    Ydych chi wedi gweld y neges yma wrth gyrraedd y maes?

    Roedd Anweledig yn un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y 90'au a 00'au ac mae'r criw o Flaenau Ffestiniog wedi ail-ffurfio i gloi arlwy Llwyfan y Maes nos Wener eleni.

    Daw geiriau'r arwydd uchod o'r gân Eisteddfod gan y band. Yn yr Eisteddfod, ie!

  16. 20 wedi cystadlu am y Fedal Ddrama ar ei newydd weddwedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1

    Bydd seremoni Medal y Dramodydd yn cael ei chynnal ddydd Iau - a hynny dan drefn newydd o gystadlu a gafodd ei datblygu cyn Eisteddfod 2024.

    Mae'r panel beirniad yn cynnwys wyth o bobol o sefydliadau theatr Cymru a'r dasg oedd cynnig braslun stori a deialog neu ddrafft o ddrama gyflawn.

    Mae'r gystadleuaeth wedi'i datblygu'n sylweddol ers cyn Eisteddfod 2024 a hynny wedi ei amlinellu yn Rhestr Testunau Eisteddfod Wrecsam.

    Mi gafwyd ugain cais eleni, sy'n fwy na'r arfer, ac yn dystiolaeth yn ôl y Steddfod bod y newid yn gweithio.

  17. Croeso i'r Eisteddfod o Hollywoodwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1

    Fe wnaeth Rob McElhenney ymuno â'r newyddiadurwraig Maxine Hughes i ymarfer ei Gymraeg cyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac roedd ganddo hefyd neges arbennig i ymwelwyr y ddinas.

    Gwyliwch isod.

    Disgrifiad,

    Rob McElhenney yn croesawu’r Eisteddfod i Wrecsam yn Gymraeg

  18. Galw am gefnogi sefydliadau Cymreig bro'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1

    Saith Seren

    Yr wythnos yma bu Cymru Fyw yn siarad â phobl ardal Wrecsam am eu gobeithion ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Cafodd tafarn a chanolfan gymunedol Saith Seren ei sefydlu yn dilyn yr Eisteddfod ddiwethaf yn y ddinas yn 2011. Meddai Marc Jones, aelod o fwrdd y fenter:

    "Un o'r pethau 'da ni'n gofyn amdano yn y Steddfod yma, ydi os ydi pobl yn meddwl bod nhw isio i Saith Seren barhau, bod nhw'n gwneud cyfraniad... mae hwnna'n cadw ni i fynd a bod yn onest.

    "'Da ni 10 milltir o'r ffin yn fa'ma, 'da ni yn ganol dref, mae 'na lot o lefydd eraill i fynd i yfed a chymdeithasu, felly mae'n struggle, mae'n dipyn o gamp bo ni yma o hyd.

    "Ond 'da ni isio bod yma tan mae'r Steddfod nesa yn dod i Wrecsam."

    Darllenwch fwy yma.

  19. Coffi cyn diwrnod o feirniadu!wedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1

    Bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn beirniadu cystadleuaeth 'Ar ei newydd wedd' ar lwyfan Encore am 10.30.

    Ond mae angen torri syched yn y stondin coffi a siocled poeth cyn beirniadu!

    Gwilym Bowen Rhys
  20. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1

    Gareth Williams

    Mae Gareth Williams o’r Wyddgrug yn falch iawn fod yr Eisteddfod wedi dod i Wrecsam.

    Mae'n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Wrecsam ac roedd ei dad-yng-nghyfraith, y diweddar Dai Davies, yn chwarae yn y gôl.