Crynodeb

  1. Barod am y cystadluwedi ei gyhoeddi 09:23

    Mae'r cystadlu ar fin dechrau ar lwyfan y Pafiliwn a gallwch wylio'n ddi-dor ar wasanaeth S4C Clic., dolen allanol

    Ian a Steffan o fand pres Chwarel yr Oakley yn edrych ymlaen at gystadlu heddiw.
    Disgrifiad o’r llun,

    Ian a Steffan o fand pres Chwarel yr Oakley yn edrych ymlaen at gystadlu heddiw

    Drwy'r wythnos fe fydd Cymru Fyw yn cyhoeddi uchafbwyntiau o gystadlaethau y Pafiliwn. Tra'n bod yn edrych ymlaen at heddiw, gallwch hel atgofion am Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 yma.

  2. 5 peth i wybod cyn mynd i'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:12 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst

    Sut mae cyrraedd y maes? Oes angen talu yn ychwanegol i fynd i'r pafiliwn? Gohebydd Cymru Fyw, Annell, sydd â'r atebion!

  3. Y Maes yn lliwgarwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst

    Haul ar y maes

    Mae'r haul yn disgleirio uwch y Maes bore 'ma wrth i stondinwyr ofalu fod popeth yn ei le ar gyfer y diwrnod mawr.

    Draw ar stondin Prifysgol Wrecsam mae Aled a Lizz yn edrych ymlaen at groesawu eisteddfodwyr.

    Maes yr Eisteddfod

    Tra bo Gethin yn barod i agor pabell Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.

    Maes yr Eisteddfod
  4. Sut mae cyrraedd yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst

    Mae Maes yr Eisteddfod ar gyrion dinas Wrecsam ac mae modd cyrraedd ar fws, trên, car neu seiclo.

    Mae'r holl gyfarwyddiadau a gwybodaeth ar gael yma.

    Cyrraedd yr Eisteddfod
  5. Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 2 Awst

    Croeso i Wrecsam

    Wedi misoedd o baratoi mae'r wythnos fawr wedi cyrraedd!

    Mae eisteddfodwyr wedi dechrau cyrraedd y Maes a gohebwyr Cymru Fyw yn barod i ddilyn y cyfan.