1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 18:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae canlyniadau cyntaf y dydd o'r Pafiliwn bellach ar ein tudalen ganlyniadau.

    Llongyfarchiadau i Bethan Elin, enillydd y gystadleuaeth unawd soprano 25 oed a throsodd!

    Diolch am ddilyn ein llif byw ar ddiwrnod i'w gofio yn Wrecsam!

    Bethan Elin
  2. Trafod degawd Llywydd y Seneddwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Bu Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru yn cymryd rhan mewn sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau bore 'ma, gyda'r newyddiadurwr Nest Jenkins yn ei holi am ei 10 mlynedd yn Llywdd Senedd Cymru.

    Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd y bydd yn rhoi'r gorau i'r swydd ar ôl etholiad nesaf y Senedd.

    Wrth gael ei holi os yw ariannu mwy o wleidyddion yn annodd, dywedodd: "Wrth gwrs bod e, ond mae cynnydd rhyfeddol wedi bod yn y deddfu ac mae angen Senedd fwy.

    Dywedodd fod y Cynulliad cynnar yn fach ond fod "angen hynny ar y dechrau fel bod modd cael datganoli yn y lle cyntaf.’"

    Aeth yn ei blaen i ddweud bod yr arolygon yn "gyffrous iawn" ar gyfer Plaid Cymru yn etholiadau'r senedd nesaf.

    Ychwanegodd Elin Jones ei bod yn hoff o waith trawsbleidiol a'n edmygu pobl fel Jane Hunt sydd, yn ei barn hi, wedi cyflawni hynny.

    Degawd y Llwydd
  3. 'Peidiwch cymryd yn ganiataol o lle mae neb yn dod'wedi ei gyhoeddi 17:35 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ar banel Cymreictod ac Islam ym Mhabell y Cymdeithasau brynhawn heddiw, bu Mwslimiaid Cymru yn trafod sut mae eu ffydd Islamaidd yn rhan o’u hunaniaeth fel pobl o Gymru.

    Fe ddywedodd Imam Mirazam o Fangor a Chaernarfon fod pawb yn gwybod ei fod siarad Cymraeg ac yn Gymro, ond wedi iddo symud i Fanceinion - doedd neb yn meddwl amdano fel Cymro.

    "Peidiwch cymryd yn ganiataol o lle mae neb yn dod," meddai "mae pobl yn teithio bellach".

    Ychwanegodd bod y Gymraeg wedi bod o gymorth.

    Dywedodd Laura Jones o Gyngor Mwslemaidd Cymru bod cael ei disgrifio fel dysgwr yn “patronising” ac felly ei bod yn anodd teimlo’n Gymraes.

    Gyngor Mwslemaidd Cymru
  4. 'Ddim yn siŵr a fydden i yma'wedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wrth siarad ar S4C, dywedodd Tudur Hallam nad oedd wedi gallu ysgrifennu am fisoedd ar ôl cael y diagnosis o ganser.

    "Dwi wedi bod yn gymysglyd iawn, yn meddwl 'pam nes i gystadlu," meddai.

    "Ar y pryd, o'n i ddim yn siŵr a fydden i yma ym mis Awst.

    "Ond gyda chefnogaeth meddygon, nyrsys, teulu, cariad... 'wi 'di 'neud hi a, ydw, dwi yn falch mod i wedi cystadlu.

    "Dyddie' dwetha dwi 'di cael bach o hwyl wrth ddweud wrth pobl [am ennill y Gadair] a nhw wrth eu bodd - a mae hynny wedi fy nghario i wedyn."

    Wrth gyfeirio at Tudur Hallam, dywedodd y prifardd Gruffudd Owen: "'Da ni'n dda iawn fel Cymry am anrhydeddu ein prifeirdd ond dwi'm yn meddwl fod 'na unrhyw brifardd erioed wedi haeddu y fath gymeradwyaeth na chefnogaeth a ges di heddiw."

  5. Wyddoch chi am wyddoniaeth?wedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cafodd cwis gwyddoniaeth yn ei gynnal yn Y Sfferen brynhawn heddiw. Fe aeth dau dîm o wynebau cyfarwydd benben a'i gilydd, gyda Sparci y ci yn arwain.

    Yn rhan o’r timau oedd Melanie Owen, Carwyn Blayney a Morgan Elwy.

    Cwis Gwyddoniaeth
  6. Gwibdaith Hen Frân ar Lwyfan y Maeswedi ei gyhoeddi 17:03 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Tra bod Seremoni'r Cadeirio yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn roedd torf fawr ger Llwyfan y Maes hefyd, a hynny i fwynhau Gwibdaith Hen Frân.

    Bydd Anweledig, band arall o ardal Blaenau Ffestiniog, yn cloi'r arlwy ar Lwyfan y Maes yn hwyrach heno.

    Llwyfan y Maes - Gwibdaith Hen Frân
  7. 'Chwytha yfory yn fyw'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Gwyliwch gerdd deyrnged Gwion Hallam i'w frawd, Tudur Hallam, wedi iddo ennill y Gadair.

  8. 'Diolch am y nerth a gefais ti i lunio'r cerddi hyn'wedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Bu moment deimladwy yn y Pafiliwn wrth i Mererid Hopwood gyfarch Tudur Hallam ar y llwyfan.

    Meddai: "O fod wedi gwrando ar y feirniadaeth, o ddeall beth yw testun y gerdd, o weld yr addasiadau bach sydd wedi eu gwneud i'r seremoni ac o adnabod Tudur annwyl, dwi'n meddwl ei bod yn briodol i mi ddweud cymaint â hyn:

    "Ar ran pawb yn y Pafiliwn ac ar y Maes, diolch am y nerth a gefais ti i lunio'r cerddi hyn, a ry'n ni'n dymuno'r gorau oll i ti Tudur."

    Mwy yma.

  9. Tudur Hallam yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Tudur Hallam ar y llwyfan

    Dyma’r eildro i Tudur Hallam dderbyn y wobr, yn dilyn ei lwyddiant yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd yn 2010.

    Mwy yma.

  10. Tywys y bardd i'r llwyfanwedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    BBC

    Mae'r bardd buddugol wedi codi yn y Pafiliwn, a'n cael eu tywys i'r llwyfan.

  11. 'Y gylfinir' yn cipio'r Gadair...wedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    ...ond pwy yw'r bardd?

    Rydym ar fin darganfod.

  12. 15 ymgais wedi cyrraedd y beirniadwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wrth ddechrau traddodi y feirniadaeth, fe gyhoeddodd Peredur Lynch fod 15 cais wedi dod i law, y nifer uchaf ers 1989.

    Fe ychwanegodd: "Yn bwysicach fyth, roedd hon yn gystadleuaeth anghyffredin o gref."

    O'r 15 ymgais, dywedodd bod "chwech yn gyfan gwbl deilwng o'r Gadair".

    Peredur Lynch
  13. Dyluniad cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsamwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cadair Genedlaethol Wrecsam

    Glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy'n cyfleu hanes a dyfodol Wrecsam yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025.

    Roedd y gwneuthurwyr Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson wedi adnabod pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â Wrecsam, ac sy'n bwysig i'r trigolion lleol.

    Ym mis Mehefin, dywedodd Gafyn, sy'n hanu o Fangor: "Mae'r pedwar prif nodwedd yma, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai'r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun."

    Mae cefn y gadair yn adlewyrchu bwa traphont Pontcysyllte a'r ffenestri gwydr yn adlewyrchu eglwysi a chapeli'r ddinas.

    Ychwanegodd Gafyn bod rhan uchaf y gadair yn cymryd ysbrydoliaeth o siâp to'r stadiwm y Cae Ras, a'r sedd wedi'i gorchuddio mewn defnydd coch, sef lliwiau'r tîm pêl-droed.

    Elfen arall bwysig yn nhreftadaeth y ddinas yw'r diwydiant glo, ac mae'r gadair yn cynnig teyrnged i'r ddamwain erchyll ym mhwll Gresffordd yn 1934 yn ogystal â nodi dylanwad pensaernïol bragdai hanesyddol Wrecsam.

  14. Seremoni'r Cadeirio wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    BBC

    Mae'r cyrn gwlad wedi canu a Seremoni’r Cadeirio ar gychwyn.

    Caiff y Gadair ei gwobrwyo am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 llinell.

    Y testun eleni yw Dinas a'r beirniaid yw Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis.

  15. Y Pafiliwn yn llawn ar gyfer y Cadeiriowedi ei gyhoeddi 15:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Y Pafiliwn yn barod

    Bydd prif seremoni'r dydd, sef y Cadeirio yn dechrau am 16:00 ac mae'r Pafiliwn yn llawn.

    Ond a fydd teilyngdod yn Wrecsam?

    Gallwch wylio a gwrando yn fyw ar BBC Radio Cymru, iPlayer neu S4C Clic.

  16. Cwmni Theatr yr Urdd yn dathlu'r 50wedi ei gyhoeddi 15:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wrth grwydro ar y Maes cafodd Ffion Dafis sgwrs gyda Branwen Davies, Trefnydd Theatr Ieuenctid yr Urdd a’r actor Arwel Gruffydd. Roedd y ddau yma i nodi carreg filltir bwysig ym myd y ddrama.

    Meddai Arwel: "Rydan ni yma i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu Cwmni Theatr yr Urdd. Llwyfannwyd y cynhyrchiad cyntaf nôl yn 1975 o'r enw ‘Cwymp ac Arferiad Dyn’ . . . wel, mae’r oes wedi newid ers hynny diolch byth."

    Dywedodd Branwen: “Mae’r cwmni yn mynd o nerth i nerth. Mae’n gyfrifoldeb ond yn lot o hwyl. Mae ‘na waith gofal a mentora ac rydan ni’n lwcus iawn o’n staff llawrydd ni sy’n mentora a hyfforddi ein haelodau ifanc ni.”

    Ychwanegodd Arwel: "Mae’r cwmni wedi bod drwy dipyn o newid ers 1975. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru yn 2022 roi £1m i'w ail sefydlu.

    "Rydan ni newydd gael cynhyrchiad Ceridwen sydd wedi bod yn teithio Cymru, a'r flwyddyn nesaf mae yna gynhyrchiad newydd sbon gan Caryl Parry Jones - Calon, fydd yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm."

    Gwrandewch ar y cyfan o'r Maes ar BBC Radio Cymru yma.

    Ffion, Arwel a Branwen
    Disgrifiad o’r llun,

    Ffion Dafis yn holi Arwel Gruffydd a Branwen Davies ar y Maes

  17. Trafodaeth am y Gymraeg ym myd y bêl-gronwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ym Maes D bu sgwrs banel gyda chwaraewyr a chyn-chwaraewyr pêl-droed gan drafod sut mae’r Gymraeg wedi cael ei normaleiddio yn y gêm.

    Dywedodd y cyflwynydd Dylan Jones, a gafodd ei urddo gan Orsedd Cymru heddiw, bod defnyddio’r Gymraeg yn dod mwy naturiol yn y gêm.

    Yn ôl Lili Mai Jones o Glwb Pêl-droed Wrecsam, mae'n rhaid “gwneud pethau yn weledol” ar y cae fel bod pobl yn cael yr “awydd i siarad Cymraeg”.

    Ond dylai’r Gymraeg ddim fod yn cael ei “gorfodi” ar bobl, meddai hefyd.

    “Os ydyn ni eisiau gweld newid yna rhaid i bobl eisiau gwneud y newid hynny”.

    Maes D ar Faes yr Eisteddfod
  18. Brysiwch os am sedd yn y Pafiliwn!wedi ei gyhoeddi 15:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'r ciwiau'n tyfu wrth i bobl geisio sicrhau sedd yn y Pafiliwn ar gyfer seremoni'r Cadeirio am 16:00.

    Ciwio
  19. Cofiwch Roswellwedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Pabell lawn yn y Tŷ Gwerin am ddarlleniad llwyfan o Cofiwch Roswell gan Elfed Saunders Jones.

    Opera roc gafodd ei chomisiynu gan BBC Radio Cymru.

    Gwrandewch arni yma

    Cofiwch Roswell
  20. Boddhad Gwyn a 'theulu' yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ffion Dafis a Gwyn Eiddior
    Disgrifiad o’r llun,

    Ffion Dafis a Gwyn Eiddior

    Yn gynharach ar Radio Cymru, cafodd Ffion Dafis sgwrs â Gwyn Eiddior sef dylunydd Maes yr Eisteddfod.

    "Pan mae’n dod i ddiwedd yr wythnos, a mae’r gwaith caled ‘na wedi mynd, ti’n cael ychydig o ysbaid i fwynhau’r maes…. pnawn ddoe oedd y tro cynta es i am dro bach gyda Tony, sy’n gweithio i’r Eisteddfod ers deugain o flynyddoedd.

    "Mae’n braf cael mwynhau popeth efo’i gilydd… achos pan ti yn ei chanol hi, yn adeiladu, ti wastad yn meddwl beth yw’r joban nesaf, beth yw’r targed nesaf. Ond ar ôl hynny mae’n braf iawn cael mwynhau y Maes."

    Roedd safle yr Eisteddfod eleni wedi plesio'r dylunydd, sydd hefyd yn aelod o dîm cyflwyno cyfres Prosiect Pum Mil ar S4C.

    "Mae wedi bod yn gae braf iawn i weithio ynddo a cheisio gosod y canfas yma ar gyfer yr wŷl.

    "Dwi’n meddwl mai dyna’r balchder i fi fel dylunydd; pan ti’n gweld y Maes yma’n llawn a sylweddoli bod o’n ganfas i gymaint o greadigrwydd, cystadlu a pherfformio... a chynnal ein hiaith ni am wythnos ac am flwyddyn. Mae’n rhoi gymaint o ffoddhad."

    Mae'r tîm o weithwyr y safle yn ymweld âg ardal Eisteddfod am wythnosau lawer cyn y Brifwyl, a hynny hefyd yn rhoi boddhad i Gwyn.

    "Dwi’n mwynhau y cyfnod cyn yr Eisteddfod achos ti wir yn dod i 'nabod cymuned… 'da ni’n bwyta a mwynhau yn lleol, defyddio cwmniau lleol. Ti’n dod i adnabod cymuned a theulu’r Eisteddfod.

    "'Da ni gyd yn rhyw fath o deulu estranged rhyfedd sy’n dod at ein gilydd bob mis Gorffennaf ac Awst ac yn cael coblyn o hwyl yn adeiladu."

    Gwrandewch ar Radio Cymru yn fyw ar frig y dudalen hon.