1. Cystadlu'r Pafiliwn wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae cystadlu'r dydd wedi dechrau yn y Pafiliwn.

    Gallwch wylio'n ddi-dor yma neu ar wasanaeth S4C Clic.

    Yn hwyrach heddiw bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi uchafbwyntiau a chanlyniadau'r dydd.

  2. Edrych ymlaen yn barod at 2026wedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    John Davies

    Bu John Davies, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro yn siarad ar raglen Dros Frecwast bore heddiw.

    Gan edrych ymlaen at 2026, meddai:

    "Mae pob ardal yn rhoi stamp ei hunan ar yr Eisteddfod, a dyna beth byddwn ni yn ceisio efelychu - y stamp unigryw hynny fyddwch chi’n ei gael o groeso pan fyddwch chi yn dod i'r de orllewin.

    "Wrth gwrs, mae hi'n unigryw oherwydd ei bod yn Sir Benfro ond ry'n ni hefyd yn estyn allan i'n cymdogion yng Ngheredigion a gorllewin Sir Gar hefyd."

    "Dyna beth bydd yn wahanol pan byddwn ni'n dathlu 850 mlwyddiant...carreg filltir enfawr yn hanes a chyd-destun Eisteddfod Genedlaethol Cymru."

    "Yn bersonol i mi, roedd hi'n gôl ro'n i am gyflawni cyn gorffen fy nyletswydd fel cynghorydd Sir diwedd y tymor hwn."

  3. Digon i'w wneud ym Mhentref y Plantwedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Roedd Elsa ac Aria o Llannerchymedd yn mwynhau crefftau yn y Pafiliwn Gwneuthurwyr
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Elsa ac Aria o Llannerchymedd yn mwynhau crefftau yn y Pafiliwn Gwneuthurwyr bore 'ma.

    Bygis yn aros am Sioe Cyw
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes parcio prysuraf y Maes? Llond lle o bygis du allan i’r Emporiwm yn barod am Sioe Cyw.

  4. Darlledu Radio Cymru wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae darlledu'r dydd wedi dechrau ar BBC Radio Cymru.

    Gallwch wrando'n fyw yng nghwmni Shân Cothi, Aled Hughes a Ffion Dafis ar frig y dudalen hon.

    Kris Hughes yn sgwrsio â'r bardd Rhys Iorwerth. Roedd Rhys yn un o feirniaid cystadleuaeth y Goron eleni
    Disgrifiad o’r llun,

    Kris Hughes yn sgwrsio â'r bardd Rhys Iorwerth yn gynharach yn yr wythnos. Roedd Rhys yn un o feirniaid cystadleuaeth y Goron eleni

  5. A fydd teilyngdod?wedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    A fydd teilyngdod heddiw? Dyna'r cwestiwn mawr ar y Maes y bore 'ma wrth i bawb edrych ymlaen at seremoni'r Cadeirio'r pnawn 'ma.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Peredur Lynch, Menna Elfyn a Llŷr Gwyn Lewis.

    Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun 'Dinas'.

    Mae'r Gadair eleni wedi'i dylunio a'i chreu gan Gafyn Owen a Sean Nelson. Dywedodd Gafyn, sy'n dod o Fangor: "Mae pedwar prif nodwedd, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai'r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun."

    Carwyn Eckley enillodd y Gadair ym Mhontypridd y flwyddyn ddiwethaf ac ef fydd yn cyfarch y bardd buddugol (os bydd un) heddiw. Mwy yma.

    CadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod
  6. Y Doctor Cymraeg yn derbyn y wisg werddwedi ei gyhoeddi 11:01 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Cafodd Y Doctor Cymraeg, sef Stephen Owen Rule ei urddo i Orsedd Cymru yn ystod y seremoni.

    Mae ganddo dros 80,000 o ddilynwyr ar-lein ble mae'n cynnig gwersi Cymraeg cyflym. Derbyniodd glod gan Orsedd Cymru am ei angerdd diflino wrth hyrwyddo'r iaith.

    Y Doctor Cymraeg
  7. Anrhydeddu'r efeilliaid David a Nigel Aykroydwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    David a Nigel Aykroyd

    Tybed a'i dyma'r tro cyntaf i ddau efaill gael eu hurddo ar yr un diwrnod?

    Mae'r David a Nigel Aykroyd yn rhedeg cwmni dillad sy'n gyflogwr mawr yn ardal y Bala, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at Clwb Pêl-droed Y Bala yn enwedig.

  8. Lili Jones yn anrhydeddu ei thad wrth gael ei hurddo i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Lili Jones

    Yn siarad ag Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ddoe, meddai Lili o Glwb Pêl-droed Wrecsam am y seremoni:

    "Lili Ferch Gareth fydd fy enw barddol, er cof am Dad. Bydd yn neis mynd â Dad efo fi drwy'r daith nesaf yma a chadw ei enw yn fyw.

    "Mae cael cario ei enw efo fi yn beth arbennig iawn a'n rhywbeth y gwna'i ddal yn agos at fy nghalon."

    Darllenwch fwy am Lili yma.

    Lili Jones
  9. Y wisg las i Rhun ap Iorwerthwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Rhun ap Iorwerth yw arweinydd Plaid Cymru ac mae'n derbyn y wisg las heddiw.

    Mae'n 100 mlynedd ers sefydlu'r blaid yr wythnos hon.

    Rhun ap Iorwerth
  10. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'r seremoni wedi dechrau...

    Mererid Hopwood
    Canu'r cyrn gwlad
    Seremoni'r orsedd
  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Yr Archdderwydd, Mererid Hopwood yn cyrraedd Cylch yr Orsedd ar gyfer y seremoni.

    Mererid Hopwood
  12. Jess Robinson: 'Mae'n fraint'wedi ei gyhoeddi 10:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Jessica Robinson oedd y cynrychiolydd cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Canwr y Byd am 20 mlynedd a'r Gymraes gyntaf yn hanes y gystadleuaeth.

    Bu'n cystadlu yn yr Eisteddfod am flynyddoedd, a llwyddo yng nghystadlaethau Eisteddfodau'r Genedlaethol a'r Urdd.

    Meddai wrth Cymru Fyw cyn y seremoni: "Mae’n fraint. Mae’n deimlad mor ffantastig, ac i rannu’r diwrnod heddiw gyda fy nhad yng nghyfraith sydd hyd yn oed yn fwy sbesial - fod y ddau ohonon ni yn cael ein derbyn.

    "Mae'n hyfryd ac mae’r haul yn edrych lawr arnom ni."

    Tad yng nghyfraith Jess yw'r cerddor Geraint Cynan, sydd hefyd yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru heddiw.

    Jess Robinson
  13. Cylch yr Orsedd yn barod ar gyfer y seremoniwedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae aelodau newydd ar fin cael eu croesawu i Orsedd Cymru, a tipyn o gyffro ar y Maes.

    Cylch yr Orsedd
  14. Anrhydeddu Ceinwen Parrywedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Caiff Ceinwen Parry ei hurddo am ei gwaith yn hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant yn ei hardal.

    Bu’n ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Treuddyn ers 1985 ac mae hi wedi cefnogi ymdrechion i godi arian pan fo'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld â'r Wyddgrug.

    Fe ddywedodd wrth Cymru Fyw ei bod yn 'anrhydedd' cael ei hurddo i Orsedd Cymru.

    Ceinwen Parry
  15. Diwrnod mawr Dewiwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ymhlith yr enwau cyfarwydd eleni mae un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y Gymraeg, Dewi Llwyd, sy'n derbyn y wisg las.

    Meddai cyn y seremoni: "Mae’n brofiad hyfryd iawn, yn enwedig i rywun sydd wedi bod yn cyflwyno yn y Steddfod ers blynyddoedd lawer.

    "Dyma’r anrhydedd fwyaf gall Cymro Cymraeg ei derbyn felly dwi’n hynod ddiolchgar.

    "Dwi’n diolch i fy nheulu ond hefyd i’r gwylwyr sydd wedi bod mor deyrngar. Dwi’n sefyll yn y fan hon oherwydd eu cefnogaeth hwy."

    Dewi Llwyd
  16. Edrych ymlaen at urddo aelodau newydd i Orsedd Cymruwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Mae'n fore mawr i'r unigolion fydd yn cael eu anrhydeddu gan Orsedd Cymru heddiw.

    Mae'r haul yn disgleirio ar y Maes a chyffro mawr cyn cynnal y seremoni am 10:00.

    Dywedodd Mark Lewis Jones, Llywydd yr Ŵyl eleni wrth Cymru Fyw "Dwi wedi cael wythnos i'r brenin a heddiw yn topio fo i gyd... dwi wrth fy modd yma."

    Mark Lewis Jones
  17. Eisteddfod yn 'uchafbwynt' i fandiau ifancwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Yn ôl un cerddor ifanc, mae'r cyfle i berfformio yn y Brifwyl yn "agor drysau" i fandiau ifanc

    Dywedodd Efan Williams o'r band Dadleoli ei fod yn un o'r "profiadau gorau" canu gyda'r band yn yr Eisteddfod.

    Bwncath fydd yn cloi arlwy Llwyfan y Maes ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, y tro cyntaf iddyn nhw wneud hynny, ac mae'n "uchafbwynt" yn ôl y prif leisydd.

    Darllenwch fwy yma.

    DadleoliFfynhonnell y llun, Ceiriosphotos
    Disgrifiad o’r llun,

    Dadleoli

  18. Sut mae darlledu Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 09:19 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Wyddoch chi mae yr Eisteddfod Genedlaethol yw trydydd darllediad allanol mwyaf y BBC pob blwyddyn?

    Yn gynharach yn yr wythnos fe eglurodd Jennifer Jones fwy...

  19. O Shanghai i Wrecsam: Cadair Steddfod 1933wedi ei gyhoeddi 09:10 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Ar ddydd y Cadeirio, dewch i ddarganfod hanes rhyfeddol Cadair Eisteddfod 1933 yma.

    Eisteddfod
  20. Canlyniadau'r Pafiliwn dydd Iauwedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 8 Awst

    Roedd gwledd o gystadlu yn y Pafiliwn brynhawn ddoe a gallwch wylio uchafbwyntiau ar ein tudalen ganlyniadau.

    Enillwyr cystadleuaeth olaf y dydd, sef Gwobr Lois Blake oedd Dawnswyr Nantgarw.

    Llongyfarchiadau!