40 o dractorau yn rhan o brotest ym Mhorthladd Caergybi
Roedd tua 40 o dractorau ym Mhorthladd Caergybi yn ystod oriau mân fore Iau fel rhan o brotest heddychlon gan ffermwyr yn erbyn newidiadau arfaethedig i'r diwydiant amaeth.
Dywedodd y porthladd fod y ffermwyr yno o 22:00, ac er eu bod yn galluogi ceir a theithwyr cerdded i adael y llongau, fe gafodd lorïau oedd yn cario bwyd eu rhwystro am rai oriau.
Pwysleisiodd un o'r protestwyr, Dyfan Jones, mai ymgyrch heddychlon oedd y bwriad yng Nghaergybi a'i fod wedi ei drefnu'n annibynnol gan ffermwyr y gogledd.
"'Da ni'n trio dangos pa mor gryf 'da ni'n teimlo am ddyfodol y diwydiant bwyd, mae'r llinell bwyd yn fregus iawn," meddai Mr Jones, sydd o ardal Rhuthun, wrth BBC Cymru.
"'Da ni mewn brwydr hefo Caerdydd a San Steffan hefo'r Inheritance Tax 'ma... mae pethau'n fregus iawn a mae'r diwydiant yn heneiddio... mae'n bryderus iawn ac os na fyddwn yn ofalus fydd hi'n rhy hwyr."
Daeth y gwrthdystio ddiwrnod yn unig wedi i ffermwyr brotestio ym Mhorthladd Dover yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar gyfer amaethwyr.