Mwy o brotestio i ddod, yn ôl ffermwyr a lwyddodd i gau Porthladd Caergybi
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr a lwyddodd i gau Porthladd Caergybi am gyfnod yn dweud y dylid disgwyl mwy o brotestio gan "nad yw Llywodraethau Cymru a'r DU yn gwrando".
Roedd tua 40 o dractorau yn y porthladd yn ystod oriau mân fore Iau, gan achosi oedi i wasanaethau.
Roedd y ffermwyr yn cynnal y brotest heddychlon yn erbyn newidiadau arfaethedig i'r diwydiant amaeth.
Dywedodd y porthladd fod y ffermwyr yno o 22:00, ac er eu bod yn galluogi ceir a theithwyr cerdded i adael y llongau, fe gafodd lorïau oedd yn cario bwyd eu rhwystro am rai oriau.
Roedd hyn ddiwrnod yn unig wedi i ffermwyr brotestio ym Mhorthladd Dover yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth ar gyfer amaethwyr.
'Tân ym moliau'r ffermwyr'
Gyda bwriad i gyflwyno newidiadau i'r drefn o Ebrill 2026, mae'n golygu bydd treth o 20% ar eiddo amaethyddol sydd werth dros £1m.
Yn ôl y Trysorlys dim ond 500 o geisiadau fydd yn cael eu heffeithio yn flynyddol ar draws Prydain, a gall cwpl sy'n ffermio drosglwyddo gwerth £3m heb dalu treth etifeddiaeth.
Ond herio hyn mae llawer o amaethwyr, sy'n dweud eu bod yn cael eu "colbio" gan y ddwy lywodraeth.
Pwysleisiodd un o'r protestwyr, Dyfan Jones, mai ymgyrch heddychlon oedd y bwriad yng Nghaergybi a'i fod wedi ei drefnu'n annibynnol gan ffermwyr y gogledd.
"'Da ni'n trio dangos pa mor gryf 'da ni'n teimlo am ddyfodol y diwydiant bwyd, mae'r llinell bwyd yn fregus iawn," meddai Mr Jones, sydd o ardal Rhuthun, wrth BBC Cymru.
"Mae pobl wedi cael llond bol rŵan a mae 'na dân ym moliau'r ffermwyr 'ma, maen nhw'n wallgof.
"Oeddan ni'n gwybod bod protest wedi bod yn Dover, a ddaru ni benderfynu dangos undod drwy gau Caergybi i drio slofi'r broses bwyd i lawr i drio dangos i bobl pa mor fregus ydy o.
"'Da ni mewn brwydr hefo Caerdydd a San Steffan hefo'r Inheritance Tax 'ma... mae pethau'n fregus iawn a mae'r diwydiant yn heneiddio... mae'n bryderus iawn ac os na fyddwn yn ofalus fydd hi'n rhy hwyr.
"Rhaid i ni baffio dros y diwydiant, pan fydd hi wedi mynd fydd hi wedi mynd.
"Dim ond y dechreuad ydy hyn, rhaid i ni baffio rhain tan y diwedd... 'da ni all out rŵan, 100%."
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd
Yn gynharach yn yr wythnos gwnaeth Llywodraeth Cymru dro pedol ar gynlluniau dadleuol oedd yn gofyn i ffermwyr gael coed ar o leiaf 10% o’u tir.
Yn un o nifer o newidiadau oedd wedi’u cyhoeddi i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a ddaw ar ôl Brexit, ac a fydd yn dod i rym yn 2026, roedd y cynllun gwreiddiol hefyd wedi arwain at brotestiadau chwyrn gan ffermwyr.
Yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru ddydd Llun, cyhoeddodd y Gweinidog Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, amlinelliad o’r cynllun newydd, gan ddweud ei bod hi’n “amlwg bod angen newidiadau".
Ychwanegodd: "Dywedon ni y bydden ni'n gwrando ac rydyn ni wedi gwneud hynny."
'Rhaid cymryd y penderfyniad anodd'
Yn ôl Llywodraeth y DU mae gwasanaethau cyhoeddus "yn dadfeilio ar draws Prydain" a bod "twll ariannol o £22 biliwn wedi ei etifeddu gan y llywodraeth flaenorol".
"Roedd 40% o ryddhad eiddo amaethyddol yn cael ei hawlio gan y 7% cyfoethocaf, ac mae'n rhaid cymryd y penderfyniad anodd i sicrhau bod y APR yn fforddiadwy yn ariannol," medd llefarydd.
"Fe fydd hyn yn effeithio ar tua 500 o geisiadau (ar draws Prydain) y flwyddyn.
"Fe all cyplau sydd yn ffermio drosglwyddo hyd at £3m heb dalu treth etifeddiaeth. Dyma ffordd deg a chytbwys o ymdrin â'r sefyllfa."
Mewn ymateb i'r brotest dywedodd llefarydd ar ran Porthladd Caergybi: "Nos Fercher, am tua 22:00, cyrhaeddodd nifer o brotestwyr a cherbydau Borthladd Caergybi gan rwystro mynediad i’r porthladd mewn ymateb i elfennau o gyhoeddiadau cyllideb diweddar y Llywodraeth.
"Daeth traffig ceir a theithwyr troed o fferïau a oedd yn dod i mewn yn ddiogel a chawsant ganiatâd i adael y porthladd trwy lwybr arall.
"Am 02:00, daeth y brotest i ben, ac ailddechreuodd gweithrediadau arferol y porthladd."