Nia Caron yn darllen cerdd o waith Dewi Pws

Mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, bu Richard Rees yn dathlu gyrfa a bywyd y diweddar Dewi Pws yng nghwmni ei ffrindiau a chydweithwyr.

Bu farw'r actor, cerddor a chomedïwr ym mis Awst, yn 76 oed, yn dilyn cyfnod byr o salwch, ac fe gynhaliwyd ei angladd ddydd Iau.

Yn ystod y rhaglen fe wnaeth Nia Caron ddarllen cerdd o waith Dewi Pws yn deyrnged iddo.

Roedd Nia yn gyfaill i Dewi wedi i'r ddau gydweithio'n gyntaf ar gyfres gomedi Torri Gwynt i S4C yn 1983.