Yr Urdd: Ai Ruby yw'r ferch hapusaf yng Nghymru?

Doedd Ruby Davies o Lanelli ddim yn gallu cuddio ei hapusrwydd ar ôl ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd dydd Mercher.

Roedd y disgybl Ysgol Gynradd Swiss Valley yn cystadlu yng nghategori llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6 i ddysgwyr yn yr ŵyl ym Maldwyn.

Y gyflwynwraig Mari Lovgreen oedd y cyntaf i sgwrsio gyda Ruby ar ôl ei buddugoliaeth.