Cymru 'wedi dysgu' o'r gêm gyntaf yn erbyn Wcráin

Mae ymosodwr Cymru Carrie Jones yn dweud ei bod hi’n mwynhau bod yn rhan o’r garfan am y tro cyntaf o dan arweinyddiaeth y rheolwr newydd Rhian Wilkinson.

Mae Cymru yn paratoi i wynebu Wcráin am yr eildro mewn llai nag wythnos yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025.

Bydd y gêm nos Fawrth yn cael ei chwarae mewn stadiwm niwtral yng Ngwlad Pwyl.

Ar ôl gêm gyfartal 1-1 yn eu herbyn nos Wener yn Llanelli, mae Jones yn dweud fod angen iddyn nhw fod yn “fwy creadigol” os ydyn nhw am gael y triphwynt y tro hwn.