'Nawr yw amser Cymru' i gyrraedd Euro 2025

Bydd Merched Cymru yn gobeithio cymryd cam enfawr tuag at Euro 2025 nos Fawrth wrth wynebu Slofacia yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle.

Mae Cymru ar ei hôl hi ar ôl colli o 2-1 yn y cymal cyntaf oddi cartref yr wythnos ddiwethaf.

Yn Stadiwm Dinas Caerdydd mae'r ail gymal, ac fe fydd yr enillwyr ar gyfanswm goliau yn mynd ymlaen i herio Georgia neu Weriniaeth Iwerddon am le yn Euro 2025.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Gwenllian Llwyd Jones o Lanbedr Pont Steffan ei bod yn "teimlo fel y byddan nhw'n llwyddo i ymateb heno ar ôl y siom nos Wener, yn enwedig gan bo' ni'n chwarae gartref hefyd".

Dywedodd fod chwaraewyr profiadol fel Jess Fishlock a Sophie Ingle wedi bod yn greiddiol i lwyddiant y tîm yn ddiweddar.

"Fi'n credu nawr yw amser Cymru, mae'r tîm yn un cryf," meddai.

Ychwanegodd Gwen Roberts sy'n chwarae i dîm merched Llandudno ei bod yn "disgwyl ymateb eitha' mawr heno" gan ychwanegu bod y tîm yn "lwcus i beidio dod o 'na wedi colli o lot mwy" nos Wener.

Dywedodd fod yr ymgyrch hon yn "enfawr" wrth hybu pêl-droed merched.

"Dwi'n meddwl bydd yn cynyddu pêl-droed merched ar bob lefel, a bydd yn wych i weld, yn enwedig wrth i ni gael mwy a mwy o bobl i'r gemau".