Y Coridor Ansicrwydd: Pwy fydd yn ennill darbi de Cymru?
Mi fydd Caerdydd yn croesawu'r hen elynion Abertawe i'r brifddinas ddydd Sadwrn, gyda'r ddau glwb yn targedu buddugoliaeth am resymau tra gwahanol.
Sicrhau triphwynt i ymestyn y bwlch rhyngddyn nhw a safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth yw gobaith yr Adar Gleision, tra bod yr Elyrch yn chwilio am fuddugoliaeth i glosio tuag y chwe safle uchaf.
Er bod 10 pwynt o wahaniaeth rhwng y ddau yn y tabl, does dim cytuno rhwng Owain Tudur Jones a Malcolm Allen ar Y Coridor Ansicrwydd ynglŷn â phwy fydd yn cipio'r pwyntiau.