Capten Cymru'n 'ddiolchgar' fod VAR wedi ei ddefnyddio

Mae capten Cymru, Angharad James yn dweud ei bod hi'n ddiolchgar fod VAR wedi cael ei ddefnyddio yn ystod eu gêm yn erbyn Slofacia yn ail gymal rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.

Ceri Holland sgoriodd y gôl fuddugol i Gymru – ond yn wreiddiol doedd y gôl ddim yn mynd i gael ei chaniatáu ar ôl i gynorthwyydd y dyfarnwr godi ei lluman i ddynodi fod ‘na gamsefyll yn ystod y symudiad.

Cafodd gôl Holland ei chaniatáu yn y pendraw, ac roedd hynny'n ddigon i sicrhau buddugoliaeth o 3-2 i Gymru ar gyfanswm goliau.

Dywedodd James ei bod hi "mor falch" o'r garfan i gyd, ac na fyddai hi wedi gallu gofyn am fwy o ymdrech gan unrhyw un.

Mi fydd tîm Rhian Wilkinson yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon yn rownd derfynol y gemau ail gyfle, gyda’r cymal cyntaf i gael ei chwarae yng Nghaerdydd ar 29 Tachwedd.