Tanau Los Angeles: 'Fi mo'yn gweld gweld be' sy ar ôl'
Mae nifer o Gymry'n cael eu heffeithio gan y tanau gwyllt sydd wedi creu dinistr mawr yn rhannau o Los Angeles yn y dyddiau diwethaf.
Mae cartref Lynwen Hughes-Boatman, sy'n wreiddiol o Gaerffili, yn ardal Altadena ger Eaton - yn un o'r ardaloedd sydd wedi ei tharo waethaf.
Yn ffodus, mae ei thŷ yn dal yn sefyll - mae dros 12,000 o gartrefi ac adeiladau wedi cael eu difrodi'n llwyr, yn ôl awdurdodau'r ddinas.
Ond gan fod disgwyl oedi cyn y bydd modd adfer cyflenwadau trydan a dŵr ac ati, mae'n debyg na fydd modd iddi ddychwelyd adref am sbel o'i llety dros dro.