Tanau LA: 'Y simneiau sy'n gofgolofn i'r cymunedau a fu'

Dyn yn sefyll wrth simne sy'n weddill o dyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

"Lle bynnag y'ch chi, ym mhob cornel o Los Angeles, mae arogl y tanau yn glir iawn ac mae'r mwg yn drwchus yn yr awyr."

Mae'r gohebydd Rhodri Llywelyn yn Califfornia ar ran Newyddion S4C wrth i'r awdurdodau barhau i geisio diffodd tanau gwyllt dinistriol mewn gwahanol rannau o'r ddinas.

Erbyn bore Llun, roedd cyfanswm y meirw wedi codi i o leiaf 24 - y mwyafrif yn ardaloedd y tanau mwyaf difrifol sef Palisades ac Eaton.

Mewn dinas a phoblogaeth o bedair miliwn, mae dros 150,000 o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ac mae dros 12,000 o adeiladau wedi cael eu dinistrio.

Rhodri Llywelyn yng nghanol y dinistr yn Los Angeles
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Llywelyn yng nghanol y dinistr yn Los Angeles wrth i'r awdurdodau barhau i geisio diffodd tanau gwyllt difrifol

Ond mae'r awdurdodau wedi gorfod rhoi cyrffyw mewn grym dros nos mewn mannau i atal achosion o ddwyn o gartrefi pobl sydd wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

Dywed y gwasanaethau tân eu bod wedi llwyddo hyd yn hyn i atal y fflamau rhag cyrraedd ardal freintiedig Brentwood, ond maen nhw'n rhybuddio bod y risg o dân yn dal yn uchel gan fod disgwyl i'r gwyntoedd cryfion ddychwelyd yn y dyddiau nesaf.

Disgrifiad,

'Ma' hi fel war-zone allan yna,' medd Rhinallt Williams, sydd wedi gorfod cau'r bar y mae'n ei redeg yn Los Angeles dros dro

Wrth rannu ei argraffiadau ers cyrraedd Los Angeles ar raglen Bore Sul, dywedodd Rhodri Llywelyn bod "blociau cyfan o dai a chartrefi wedi eu dinistrio, cymdogion yn gweld ei gilydd yn colli popeth [ac] ardaloedd cyfan wedi diflannu'n llwyr".

Mae wedi ymweld ag ardal tân Eaton yng ngogledd y ddinas ble mae "cymuned Altadena wedi diodde' yn enbyd".

Tŷ yn wenfflam yn Los AngelesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 120,000 o adeiladau wedi cael eu dinistrio'r llwyr, yn ôl yr awdurdodau lleol yn y ddinas

"Y'ch chi'n cerdded o gwmpas yn gweld hen beirianne' golchi dillad sydd â'u metel wedi plygu yn llwyr, hen lyfre ar y llawr wedi llosgi yn ulw, ma' 'na fyrdde a chadeirie lle roedd teuluoedd yn arfer ciniawa bellach wedi mynd ac yn llawn llwch.

"Yr unig beth... yw'r simneiau, y tyrrau 'ma yn dal yn sefyll.

"Mae lot fawr o'r tai wedi eu hadeiladu o bren a rheiny wedi'u llorio, ond mae'r tyrre yma, y simneia', yn dal i sefyll, bron iawn yn gofgolofn - yn gerrig beddi, hyd yn oed - i'r cymunede a fu. Mae'n gwbl dorcalonnus."

Pobl yng nghanol dinistr LAFfynhonnell y llun, Getty Images
Gweiddillion eiddo sy'n berchen i'r actor Syr Anthony HopkinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma, yn ôl adroddiadau, weiddillion eiddo sy'n berchen i'r actor o Gymru, Syr Anthony Hopkins yn ardal Palisades

Wrth siarad â phobl sydd wedi colli popeth yn y fflamau, dywedodd eu bod "mo'yn atebion" i sawl cwestiwn.

"Shwt mae cysylltu â chwmnie morgeisi sy'n disgwyl taliade am gartrefi sydd wedi hen fynd? Shwt mae cael arian yswiriant, os ydi'r polisie yswiriant yn dal i fodoli?

"Sut mae cael post, a pharseli sydd i'w disgwyl i'r cartrefi yma? Sut mae cael gafael ar bethau felly? Felly mae pobl ar goll, mewn ffordd, ac maen nhw angen help yn enbyd."

Maen nhw hefyd eisiau gwybod pryd mae'r isadeiledd, fel cyflenwadau trydan, nwy a dŵr, yn debygol o gael eu hadfer fel bod modd ystyried mynd yn ôl i'r cartrefi hynny sy'n dal yn sefyll.

Disgrifiad,

'Fi mo'yn gweld be' sy' ar ôl', dywedodd Lynwen Hughes-Boatman - sy'n wreiddiol o Gaerffili - wedi iddi fethu â chael mynd i weld cyflwr ei thŷ yn ardal Altadena

Dywedodd bod y drychineb "wedi troi'n wleidyddol... wrth i'r Gweriniaethwyr a'r Democratiaid ar sawl lefel o lywodraeth ymosod ar ei gilydd am yr ymateb sydd wedi bod fan hyn".

Mae 'na feirniadu wedi bod o doriadau i gyllid y gwasanaeth tân a honiadau bod dim digon o ddŵr i ddiffodd y fflamau - y cyfan ar drothwy dychweliad yr Arlywydd Trump i'r Tŷ Gwyn.

Sunset Boulevard ar dânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o ffyrdd mwyaf eiconig y ddinas, Sunset Boulevard, ar dân

Ychwanegodd bod yr argyfwng hefyd wedi amlygu "pobol ar eu gorau - cymunedau'n dod at ei gilydd".

Fe welodd hynny dros ei hun wrth ymweld â chanolfan gymorth, mewn canolfan waith a banc bwyd, sy'n dosbarthu pethau fel bwyd, dillad a nwyddau hylendid ers rhyw ddeuddydd.

"Nathon nhw ofyn am wirfoddolwyr a drannoeth mi 'na'th 500 o bobol gyrraedd, yn barod i wirfoddoli," meddai.

"Mae pawb eisio gwneud rhywbeth i helpu pobol sydd 'di colli popeth dros nos."

Pynciau cysylltiedig