Cyflwr 'afiach' wedi newid bywydau teulu o Ben Llŷn

Mae dynes o Ben Llŷn yn croesawu mesur seneddol allai roi’r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i gael cymorth i farw.

Cafodd Iola Dorkins, 76, ddiagnosis o glefyd motor niwron (MND) y llynedd a dyw hi bellach methu llyncu na siarad.

Does dim gwella o’r cyflwr ac mae Iola eisiau’r hawl i ofyn am gymorth i farw cyn iddi ddirywio ymhellach.

Cafodd mesur preifat ei gyflwyno yn San Steffan ddydd Mercher.

Yn byw ym Morfa Nefyn gyda’i gŵr Mike, mae Iola Dorkins yn dweud bod cyflwr MND yn “afiach” a bod bywyd y ddau ohonyn nhw wedi “newid yn arw” yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Dwi’n methu siarad efo pobl a methu mynd allan i gael pryd o fwyd a chymysgu.

"Y prif bethau yn fy mywyd oedd siarad efo pobl a chael hwyl," meddai.