Cymorth i farw: 'Dwi ddim isio nhw gofio fi yn y cyflwr yma'

Disgrifiad,

Mae Iola eisiau’r hawl i ofyn am gymorth i farw cyn iddi ddirywio ymhellach

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Ben Llŷn yn croesawu mesur seneddol allai roi’r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i gael cymorth i farw.

Cafodd Iola Dorkins, 76, ddiagnosis o glefyd motor niwron (MND) y llynedd a dyw hi bellach methu llyncu na siarad.

Does dim gwella o’r cyflwr ac mae Iola eisiau’r hawl i ofyn am gymorth i farw cyn iddi ddirywio ymhellach.

Cafodd mesur preifat ei gyflwyno yn San Steffan ddydd Mercher.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iola Dorkins ddiagnosis o glefyd motor niwron (MND) y llynedd

Yn byw ym Morfa Nefyn gyda’i gŵr Mike, mae Iola Dorkins yn dweud bod cyflwr MND yn “afiach” a bod bywydau'r ddau ohonyn nhw wedi “newid yn arw” yn y flwyddyn ddiwethaf.

“Dwi’n methu siarad efo pobl a methu mynd allan i gael pryd o fwyd a chymysgu. Y prif bethau yn fy mywyd oedd siarad efo pobl a chael hwyl," meddai.

'Mae fy hiwmor dal yna'

“Mae’n anodd i bobl ddeall bo’ fi dal i allu cyfathrebu efo whiteboard ac yn dal i allu cael hwyl. Mae fy hiwmor yn dal yna.

“Mae’r cyflwr yn afiach. ‘Da ni’n methu mynd lawr i aros at y mab sy’n byw yn ne Lloegr, a ddim yn cael gwarchod achos mae’r siwrnai’n rhy bell.

"Dwi’n methu cael sgwrs efo fy ŵyr a wyres, na chwarae efo nhw a dwi’n colli cael cymysgu fel normal.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iola yn dweud bod y cyflwr "afiach" wedi newid eu bywydau yn arw

Mae clefyd MND yn gyflwr sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau gan achosi gwendid cynyddol dros amser.

Does dim gwellhad ac er y gall claf fyw am gryn amser, mae’r cyflwr yn un angheuol ac yn un sy'n byrhau bywyd.

Mae Iola’n gwisgo ffrâm o gwmpas ei gwddf sy'n ei helpu i gynnal ei phen gan nad yw'r nerfau yn ei gwâr yn gweithio erbyn hyn.

Gan nad yw’n gallu siarad mae’n cyfathrebu trwy ysgrifennu gyda phin ffelt ar fwrdd gwyn bach.

Mae’n bwydo ei hun trwy chwistrellu bwyd arbennig a dŵr trwy bibell yn syth i’w stumog ac yn defnyddio peiriant i sugno poer o’i cheg rhag ofn iddi dagu.

Bydd yn colli rhagor o annibyniaeth gydag amser.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe briododd Iola a Mike ym mis Ebrill eleni

Fe benderfynodd Iola yr hoffai gael yr hawl i ofyn am help i farw “pan nes i weld sut beth fydd marw efo’r cyflwr sydd gen i. Alla i golli pob rheolaeth o’r corff a mygu efo saliva," meddai.

Mae hi eisiau’r hawl i ddod a’i bywyd i ben yn gynt, “os ydy’r farwolaeth naturiol yn un anodd i mi a fy nheulu".

“Dwi ddim isio nhw gofio fi yn y cyflwr yma.”

Yn ôl Iola, roedd y sgwrs gyda’i gŵr a’i theulu yn un “anodd iawn”, ond fe dderbynion nhw ei barn yn y diwedd.

Dywedodd gŵr Iola, Mike Dorkins, fod y drafodaeth honno gyda’i wraig yn “dorcalonnus”.

“Ond beth bynnag mae Iola isio, mae o’n berffaith iawn efo fi. Dwi jyst ddim isio iddi hi ddioddef, dyna’r oll.”

“Mae o fyny iddi hi ond dwi’n cefnogi’r penderfyniad 100% ac mae’r hogia hefyd.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Iola fod trafod y syniad o gael cymorth i farw gyda’i theulu yn un “anodd iawn”

Dywedodd Glenys Williams, awdur cyfrol ar gymorth i farw, nid oes "hawl i farw neu i ofyn am farwolaeth" yn ôl y deddfau hawliau dynol.

"Dyw cysyniad y claf ddim yn 'neud amddiffyniad o gwbl", meddai.

Esboniodd fod cymalau o fewn y ddeddf er mwyn diogelu pobl.

"Mae nifer o bethau - mae'n rhaid cael caniatâd dau feddyg, rhaid aros chwe mis, neu mae'n rhaid gallu dweud yn sicr bod y claf am farw o fewn chwe mis.

"Mae’n rhaid bod y claf yn dioddef o ryw salwch nad oes gwella arno fe.

"Os y'ch chi'n rhoi cymal fel 'na mewn, dyw hwnna ddim yn helpu pobl sydd gyda salwch mwy hirdymor a 'dyn nhw ddim yn mynd i farw o fewn chwe mis fel MND."

'Maes anodd yn gyfreithiol ac yn foesegol'

Esboniodd Ms Williams mai dyma un o'r rhesymau pam bod rhai yn gwrthwynebu newid y gyfraith.

Dywedodd bod rhai yn "ofni y bydd pobl fregus neu mewn oed, neu anabl yn teimlo bod dim gwerth i’w bywydau nhw, neu fod teulu yn eu gorfodi i gymryd penderfyniad nag ydyn nhw am ei wneud".

"Mae e’n faes anodd iawn - yn gyfreithiol ond yn foesegol hefyd. Ma' yna lot o ddadansoddi ystyr geiriau yn y gyfraith drosedd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iola'n dweud ei bod yn hynod falch o gefnogaeth ei theulu a'i ffrindiau

Ddydd Mercher fe wnaeth Kim Leadbeater AS gyflwyno mesur yn Nhŷ’r Cyffredin yn cynnig rhoi’r hawl i bobl sydd â salwch angheuol i ddewis dod â’u bywyd i ben.

Dim ond yr enw sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma - Terminally Ill Adults (End of Life) Bill - ond y disgwyl ydy y bydd yn cynnig rhoi’r hawl i oedolyn sydd efo salwch angheuol ac sydd â chwe mis neu lai i fyw i gael cymorth meddygol i ddod a’u bywyd i ben yn gynt.

Mae disgwyl dadl Seneddol ar y pwnc eleni ac mae Iola Dorkins yn ei groesawu.

“I rywun yn fy sefyllfa i mae’n beth mawr i gael deud ein barn - iddo ddod i rym i’n helpu. Dwi’n falch iawn bod ein lleisiau wedi cyrraedd eu clustiau.”

'Byw yn y corff yma ddim yn braf'

Mae’n cydnabod bod peryglon i gam o’r fath, ond mae’n mynnu y gallai deddfu effeithiol sicrhau nad ydy pobl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa fregus.

“Mi fyse ‘na gamau i atal pobl rhag cymryd mantais fel na fedar neb gael eu gwthio, ac yn enwedig i stopio rhywun rhag elwa o ran etifeddiaeth.”

Mae’n dweud bod angen i’r rhai sy’n gwrthwynebu’r mesur “fyw ein bywyd ni i wybod beth ydy colli pob dim gwerthfawr mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol bob dydd.”

Mae’n dweud ei bod wedi sylwi ar ddirywiad pellach yn ei chyflwr yn ddiweddar.

“Mae fy mreichiau wedi gwanhau yn y tair wythnos diwethaf. Mae’n gwneud i mi deimlo’n drist ac yn flin o golli rhywbeth arall pwysig eto a methu gwneud fy ngwallt ac ati.

“Dydy byw yn y corff yma ddim yn braf ond dwi mor falch o deulu a ffrindiau.”