Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael ag ail gartrefi?
Mae prisiau tai yng Ngwynedd wedi gostwng mwy na 12% flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.
Ym mis Medi 2024, cyflwynodd Cyngor Gwynedd reol sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio i droi eiddo preswyl yn ail gartref neu lety gwyliau.
Mae'r cyngor yn un o nifer o gynghorau Cymru sy'n codi premiwm treth cyngor o 150% ar eiddo o'r fath.
Mae ail dai yn bwnc llosg sy'n cael ei drafod mewn sawl cymuned ar draws Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r sefyllfa drwy roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol.
Harriet o dîm Cymru Fyw sy'n esbonio mwy.